Casgliadau Celf Arlein
Castel Gandolfo, Bugeiliaid o'r Tyrol yn dawnsio ger Llyn Albano
COROT, Jean-Baptiste Camille (1796 - 1875)
Dyddiad: 1855-60
Cyfrwng: olew ar gynfas
Maint: 49.2 x 65.5 cm
Derbyniwyd: 1952; Cymynrodd; Gwendoline Davies
Rhif Derbynoli: NMW A 2443
Casgliad: Casgliad y Chwiorydd Davies
Mae gwaith brwsio cain Corot yn cyfleu llewych golau’r nos, sy’n nodweddiadol o’i baentiadau awyr agored. Mae’n cyfuno naturoliaeth fodern ag elfennau o dirluniau Claude Lorrain o’r ail ganrif ar bymtheg. Roedd Castel Gandolfo ar Lyn Albano, i’r de o Rufain yn destun poblogaidd, ond cafodd y gwaith hwn ei greu o gof yr artist. Y tro diwethaf i Corot ymweld â’r Eidal oedd bymtheg mlynedd ynghynt, ym 1843.
Nid yw sylwadau ar gael ar hyn o bryd. Ymddiheuriadau am yr anghyfleustra.