Molysgiaid
Molysgiaid yw un o'r grwpiau mwyaf yn y byd o anifeiliaid. Yn eu plith mae malwod, gwlithod, cregyn cleision ac octopysau, ac maent i'w gweld mewn cynefinoedd ar dir a môr.
Maent wedi cael eu casglu a'u defnyddio gan ddyn erioed fel bwyd, gemwaith, perlau, lliwur, calsiwm, arian a meddyginiaeth.
Yn Amgueddfa Cymru mae'r casgliad ail fwyaf o folysgiaid yn y DU. Mae ynddo dros 2 filiwn o sbesimenau a caiff ei ddefnyddio'n rheolaidd gan ymwelwyr ac ymchwilwyr o bob cwr o'r byd.
Casgliadau
Mae'r casgliad yn cynnwys cregyn, cyrff meddal mewn alcohol, samplau DNA wedi rhewi, isffosilau Cwaternaidd, sleidiau, arteffactau a modelau o bedwar ban byd. Ymhlith yr uchafbwyntiau mae:
- Cymynrodd Melvill-Tomlin o 1955 – craidd y casgliad sy'n cynnwys 85,000 o eitemau ac yn gyfoeth o deipsbesimenau a sbesimenau hanesyddol.
- Malwod daear a gwlithod o'r DU, Ewrop, Madeira a gogledd a dwyrain Affrica (o'r 1980au hyd heddiw).
- Deufalfiau o'r DU (link to British bivalves website) Cefnfor India, y Môr Coch, Gwlff Arabia a Gwlff Oman (o'r 1980au hyd heddiw).
- Casgliad cephalopod William Evans Hoyle yn cynnwys sbesimenau o alldeithiau mawr megis Challenger, Albatross ac Alldaith Antarctig Genedlaethol Prydain.
- Casgliad John Evans o isffosilau Cwaternaidd o leoliadau archaeolegol ledled Prydain.
Ymchwil
- Mae Amgueddfa Cymru wedi defnyddio'r casgliadau ar gyfer ymchwil gwyddonol i folysgiaid ers canrif a mwy.
- Rydym yn canolbwyntio ar hyn o bryd ar dair prif adran: deufalfiau morol (link to systematics of marine Bivalvia), molysgiaid daearol (link to systematics & diversity of terrestrial molluscs), a hanes y casgliadau molysgiaid (link to interpretation & dev of colls).
- Mae cyfran helaeth y gwaith yn dacsonomig. Er enghraifft, ers 2000 mae'r Amgueddfa wedi canfod a disgrifio dros 70 rhywogaeth a genws newydd.
- Rydym hefyd yn canolbwyntio ar y newid ym molysgiaid Cymru, y DU ac Iwerddon. Roedd y casgliadau yn sail i nifer o ganllawiau adnabod diweddar a cant eu defnyddio'n gyson fel cyfeirfa.
Gwefannau:
- Deufalfiau Prydain
- Catalog Teipiau Molysgiaid
- Project Gwlithod Prydain
- Basau Data Casgliadau Molysgiaid