Molysgiaid

Molysgiaid
Molysgiaid
Casgliadau Molysgiaid
Casgliadau Molysgiaid
Molysgiaid

Molysgiaid yw un o'r grwpiau mwyaf yn y byd o anifeiliaid. Yn eu plith mae malwod, gwlithod, cregyn cleision ac octopysau, ac maent i'w gweld mewn cynefinoedd ar dir a môr.

Maent wedi cael eu casglu a'u defnyddio gan ddyn erioed fel bwyd, gemwaith, perlau, lliwur, calsiwm, arian a meddyginiaeth.

Yn Amgueddfa Cymru mae'r casgliad ail fwyaf o folysgiaid yn y DU. Mae ynddo dros 2 filiwn o sbesimenau a caiff ei ddefnyddio'n rheolaidd gan ymwelwyr ac ymchwilwyr o bob cwr o'r byd.

Casgliadau

Mae'r casgliad yn cynnwys cregyn, cyrff meddal mewn alcohol, samplau DNA wedi rhewi, isffosilau Cwaternaidd, sleidiau, arteffactau a modelau o bedwar ban byd. Ymhlith yr uchafbwyntiau mae:

  • Cymynrodd Melvill-Tomlin o 1955 – craidd y casgliad sy'n cynnwys 85,000 o eitemau ac yn gyfoeth o deipsbesimenau a sbesimenau hanesyddol.
  • Malwod daear a gwlithod o'r DU, Ewrop, Madeira a gogledd a dwyrain Affrica (o'r 1980au hyd heddiw).
  • Deufalfiau o'r DU (link to British bivalves website) Cefnfor India, y Môr Coch, Gwlff Arabia a Gwlff Oman (o'r 1980au hyd heddiw).
  • Casgliad cephalopod William Evans Hoyle yn cynnwys sbesimenau o alldeithiau mawr megis Challenger, Albatross ac Alldaith Antarctig Genedlaethol Prydain.
  • Casgliad John Evans o isffosilau Cwaternaidd o leoliadau archaeolegol ledled Prydain.

Ymchwil

  • Mae Amgueddfa Cymru wedi defnyddio'r casgliadau ar gyfer ymchwil gwyddonol i folysgiaid ers canrif a mwy.
  • Rydym yn canolbwyntio ar hyn o bryd ar dair prif adran: deufalfiau morol (link to systematics of marine Bivalvia), molysgiaid daearol (link to systematics & diversity of terrestrial molluscs), a hanes y casgliadau molysgiaid (link to interpretation & dev of colls).
  • Mae cyfran helaeth y gwaith yn dacsonomig. Er enghraifft, ers 2000 mae'r Amgueddfa wedi canfod a disgrifio dros 70 rhywogaeth a genws newydd.
  • Rydym hefyd yn canolbwyntio ar y newid ym molysgiaid Cymru, y DU ac Iwerddon. Roedd y casgliadau yn sail i nifer o ganllawiau adnabod diweddar a cant eu defnyddio'n gyson fel cyfeirfa.

Gwefannau:

Mollusca

Jennifer Gallichan

Curadur Bioamrywiaeth Anifeiliaid Di-asgwrn Cefn
Gweld Proffil

Anna Holmes

Curadur (Deufalfiaid)
Gweld Proffil

Dr Ben Rowson

Uwch Guradur: Molysgiaid
Gweld Proffil

Harriet Wood

Rheolwraig y Casgliad
Gweld Proffil