Gweithio â Chymunedau

Mae Amgueddfa Cymru yn gweithio gyda phartneriaid cymunedol ledled y wlad yn rheolaidd, ar gynyddu amrywiaeth o fewn ein casgliadau, creu arddangosfeydd dynamig, cynnal digwyddiadau cyffrous, a newid y ffordd rydyn ni’n gweithio.

Rydyn ni wedi bod yn datblygu a gwreiddio gwaith ymgysylltu dros y deng mlynedd diwethaf, yn enwedig drwy raglenni a ariennir gan Sefydliad Paul Hamlyn (Ein Hamgueddfa a Rhagori), a Chronfa Dreftadaeth y Loteri (Dwylo ar Dreftadaeth ac ailddatblygu Sain Ffagan, a enillodd wobr Amgueddfa’r Flwyddyn y Gronfa Gelf yn 2019).

Cliciwch ar y teils isod am fwy o wybodaeth am sut rydyn ni’n gweithio gyda chymunedau.

Oes gennych chi gwestiwn am ein gwaith cymunedol? Cysylltwch â ni drwy gwirfoddoli@amgueddfacymru.ac.uk