Mae merch ifanc yn edrych yn syth at y camera, mae'n edrych yn swil, mae'n dal siswrn a chardfwrdd, mae'r geiriau Gaeaf a Winter mewn gwyn bob ochr iddi ar y banner

Digwyddiadau:Gaeaf gwych yn Amgueddfa Cymru

Lle mae darganfyddiadau heddiw yn adrodd stori Cymru ddoe.

Wrth i'r dyddiau fyrhau a'r tywydd droi'n oerach, mae ein hamgueddfeydd yn cynnig croeso cynnes, straeon difyr a phrofiadau newydd i bobl o bob oed. Yn rhad ac am ddim i ymweld â nhw ac yn agored i bawb, dewch i archwilio dro ar ôl tro drwy gydol misoedd y gaeaf.

Darganfyddwch rywbeth newydd y gaeaf hwn. Sylwer y gall rhai digwyddiadau godi tâl ychwanegol, a gall taliadau parcio fod yn berthnasol. Ewch i dudalen yr amgueddfa am fanylion llawn.

Dod i adnbaod ein hamgueddfeydd:

Sain Ffagan Amgueddfa Werin Cymru, Caerdydd - Bywyd a chymuned yng Nghymru ddoe a heddiw.

Amgueddfa Genedlaethol Caerdydd, Caerdydd - Man cyfarfod celf, gwyddoniaeth a’r dychymyg.

Big Pit Amgueddfa Lofaol Cymru, Blaenafon - Lle mae curiad calon diwydiant yn dal i atsain dan ddaear.

Amgueddfa Genedlaethol y Glannau, Abertawe - Bwrlwm arloesi, y môr a phedwar ban byd.

Amgueddfa Lechi Cymru ,Llanberis, Bangor a Caernarfon - Iaith, crefft a bywyd bro’r llechi.

Amgueddfa Wlân Cymru, Dre-fach Felindre - Brethyn bywyd: crefft, creadigrwydd a chymuned

Amgueddfa Lleng Rufeinig Cymru, Caerllion - Lle mae darganfyddiadau heddiw yn adrodd stori Cymru ddoe.

Pa ddigwyddiadau sydd ymlaen y gaeaf hwn?

Clywed mwy gan Amgueddfa Cymru

Ry’n ni yn gweithio ar arddangosfeydd a digwyddiadau newydd a chyffrous - beth am fod ymysg y cyntaf i glywed amdanyn nhw?

Cofrestrwch i'n cylchlythyr heddiw

Bydd eich enw a'ch cyfeiriad e-bost yn cael eu cadw er mwyn anfon ein e-lythyr misol atoch chi. Os oes gennych unrhyw gwestiynau ynghylch eich data a'n defnydd ni ohono, ewch i’n Hysbysiad Preifatrwydd

Digwyddiadau