Mae pedwar person yn sefyll mewn llinell, mae tri ohonynt yn gwisgo het galed ac yn siarad a'u gilydd tra'n gwenu. Mae dynes yn dal ei het hi, mae dynes arall yn gwisgo troswisg gyda'r enw 'big pit' arno

Digwyddiad:Gaeaf gwych yn Big Pit Amgueddfa Lofaol Cymru

Big Pit Amgueddfa Lofaol Cymru

Gwybodaeth

Sawl dyddiad yn ystod y Gaeaf
Pris Amrywiol
Addasrwydd Pawb

Lle mae curiad calon diwydiant yn dal i atsain dan ddaear. 

Mae ein hamgueddfeydd yn rhad ac am ddim ac ar agor i bawb, sy'n golygu y gallwch chi ymweld â ni tro ar ôl tro yn ystod y gaeaf. Mae bob amser rhywbeth newydd a chyfleoedd di-ben-draw i greu atgofion gyda’r teulu, ffrindiau neu i’w mwynhau ar eich pen eich hun.

Ymweld

 Oriau Agor

Ar agor yn dyddiol 9.30yb - 5yp   
Mynediad olaf: 4pm

Teithiau dan ddaear: 10yb - 3yp

Rhaid i blant dan 16 fod yng nghwmni oedolyn bob amser. Am resymau diogelwch, rydym yn cadw’r hawl i archwilio bagiau yn yr amgueddfa.

 Mynediad

Gwybodaeth cyffredinol a gwybodaeth i ymwelwyr sy'n anabl

Canllaw Mynediad

 Parcio

Os ydych yn cyrraedd mewn car bydd angen i chi dalu wrth gyrraedd. £5 y diwrnod. AM DDIM ar gyfer ddeiliaid bathodynnau anabl a beiciau modur. Tâl am barcio yn unig yw hwn – mae mynediad am ddim i’r Amgueddfa fel arfer.

Ymweld â ni ar drafnidiaeth gyhoeddus, beic neu ar droed?

Gallwch drefnu'ch taith drwy ddefnyddio wefan Traveline Cymru neu drwy ffonio eu llinell gymorth ar 0800 464 0000.

 Bwyta, Yfed, Siopa

Wedi ysbrydoli gan y profiad tanddaearol a'n casgliadau, bydd ein Siop Anrhegion ar agor yn ystod eich ymweliad, gyda detholiad o nwyddau ac anrhegion, wedi’u creu yn arbennig, ar gael i brynu. 

Mae ein Siop Goffi ar agor yn dyddiol, 10am-4pm, ac yn gweini dewis cyfyngedig o ddiodydd poeth ac oer, cacennau a sawrïau blasus. 

Mae croeso i chi dod â phicnic i’r Amgueddfa, ond gofynnwn i chi gymryd eich sbwriel adref gyda chi os gwelwch yn dda, a helpwch ni i gadw Big Pit yn daclus. 

 Lleoliad

Clywed mwy gan Amgueddfa Cymru

Ry’n ni yn gweithio ar arddangosfeydd a digwyddiadau newydd a chyffrous - beth am fod ymysg y cyntaf i glywed amdanyn nhw?

Cofrestrwch i'n cylchlythyr heddiw

Bydd eich enw a'ch cyfeiriad e-bost yn cael eu cadw er mwyn anfon ein e-lythyr misol atoch chi. Os oes gennych unrhyw gwestiynau ynghylch eich data a'n defnydd ni ohono, ewch i’n Hysbysiad Preifatrwydd

Digwyddiadau