Gwyl Fwyd Amgueddfa Cymru
7-8 Medi 2024

Newyddion

Cefn dau wirfoddolwyr yn gwisgo hi vis glas

Dewch i wirfoddoli gyda ni!

28 Mehefin 2023

Rydym yn chwilio am wirfoddolwyr brwdfrydig i roi help llaw yn ein Gŵyl Fwyd yn Sain Ffagan Amgueddfa Werin Cymru ar 8,  9 a/neu 10 Medi.

Bydd cyfrifoldebau gwirfoddolwyr yn cynnwys cefnogi staff digwyddiadau gyda gosod i fyny, helpu i gyfeirio ymwelwyr ar draws safle'r ŵyl, stiwardio ardaloedd prysur, helpu gyda gweithgareddau bach a chadw ardaloedd yn lân ac yn daclus. 

Bydd sesiwn friffio yn cael ei roi felly does dim angen i chi fod yn arbenigwr!

Mae'r rôl hon ar gael yn y Gymraeg a'r Saesneg, a byddai'n berffaith i ddysgwyr Cymraeg sy'n dymuno ymarfer.

Dysgwch mwy am y rôl