: Spring Bulbs

Rydym wedi cael cychwyn gwych,

Penny Dacey, 30 Tachwedd 2015

Helo Gyfeillion y Gwanwyn!

Rydym wedi cael cychwyn gwych eleni. Mae 'na 177 o ysgolion a 6,339 o ddisgyblion yn cymryd rhan yn arolwg Bylbiau'r Gwanwyn i Ysgolion, 2015-16.

Mae pob disgybl sy'n cymryd rhan yn y project wedi plannu eu cennin Pedr a chrocws a labelu eu pot. Mae ysgolion wedi bod yn defnyddio'r thermomedr a mesurydd glaw a ddarperir gan y project i gymryd darlleniadau tywydd ar bob diwrnod ysgol, ac wedi bod yn rhannu eu canlyniadau ar wefan Amgueddfa Cymru.

Gallwch weld y canfyddiadau hyd yn hyn ar dudalen we y project Bylbiau'r Gwanwyn i Ysgolion.

Mae'r canlyniadau ar gyfer pob ysgol sy'n cymryd rhan yn cael eu darlunio gan graffiau. Mae'r wefan wedi cael ei golygu eleni i gynnwys canlyniadau o flynyddoedd blaenorol. Mae hyn yn golygu y gall ysgolion weld sut mae eu data yn cymharu â blynyddoedd blaenorol!

Eleni cymerodd ysgolion yng Nghymru ran yn 'Cystadleuaeth Ffotograffiaeth Diwrnod Plannu’ Ymddiriedolaeth Edina. Anfonodd ysgolion lawer o luniau hyfryd, ac roedd hi’n anodd iawn i ddewis dim ond 5 enillydd. Gallwch weld y lluniau i gyd ar dudalen Twitter project Bylbiau Gwanwyn: @Professor_Plant

Mae llawer o gwestiynau a sylwadau diddorol wedi cael eu hanfon mewn gyda'r data wythnosol. Mae’r cwestiynau a’r atebion i’w gweld isod.

Daliwch ati Gyfeillion y Gwanwyn!

Athro'r Ardd

Eich cwestiynau, fy atebion:

Stonehouse Primary School: Tuesday was a strange day for weather. It was frosty in the morning but in the afternoon all the children had their coats off because it was so hot. Ysgol Pentrefoelas: Mae hi wedi bod yn gynnes wythnos yma a nin chwarae allan heb ddim cot. Professor Plant: Helo Ysgol Pentrefoelas a Stonehouse Primary. Yn yr wythnos gyntaf o gofnodi’r tywydd, fe wnaethoch chi’ch dau nodi ei bod yn ddigon cynnes i chwarae tu allan heb gotiau. Dyna lwcus! Roedd llawer o ysgolion eraill wedi cael glaw a barrug! Mae’n ddiddorol bod y ddwy ysgol mor bell o’i gilydd a bod un ohonoch ar yr arfordir (Conwy) a’r llall yn bell o’r môr (De Swydd Lanark). Am dywydd od ym mis Tachwedd – mae cennin Pedr wedi blodeuo yng Nghernyw! Mae’r cennin Pedr yn blodeuo yn gynharach yng Nghernyw am ei bod yn gynhesach yno, ond roedden nhw’n dal fis yn gynnar! Tybed fydd ein planhigion ni’n gynharach nag arfer eleni?

School: Hi, I'm unsure as we are recording the amount of rain- do we need to water the plants ourselves? Professor Plant: Hello, thank you for your question. Yes, please do water your plants twice a week if they look like they need it. You won’t need to water them on days where it has rained enough that the soil is moist.

St David's RC Primary School: It was sunny at the start of the week and then the rain came and got heavier and heavier through the week and it was terrible weather for us. We had to stay inside through the rest of the week it was awful weather we had on Wednesday Thursday and Friday. We did not like the weather, did you have good weather where you are or bad weather because we didn't have very good weather it was horrible it was very, very, very boring for us because we had to stay in side for 2 weeks isn't that boring Mr Plant what would you do if you stayed inside for 2 weeks. Professor Plant: Dear St David’s RC Primary, I’m sorry to hear you had such awful weather during the first week of the project. I hope it has improved! I will look at your weather reading now to see! Inside for two weeks! I would probably read lots of books if I had stay indoors that long. There are some things you can read on the Spring Bulbs website. When you are next stuck indoors why not have a look for the ‘Life of a Plant – make your own Origami booklet’ resource on my website!

Severn Primary: We had an INSET day on Monday November 2nd, so we didn't take any readings. It wasn't really 0degrees. Ysgol Mair: On Monday 2nd November we were not in school so have no data but we were not able to record 'no record'. Professor Plant: Dear Severn Primary & Ysgol Mair, I’m sorry you weren’t able to record your inset day. We had a slight blip with the website where the ‘no record’ button wasn’t working. In future please record all days where there are no readings as ‘no record’. Thank you for spotting that readings of 0degrees can affect the results and for letting me know Bulb Buddies!

Betws Primary School: We collected the data for our class. It was warm and sunny at the start of the week. We had a lot of rain on Thursday and Friday. Our bulbs should be happy! Professor Plant: Well done Betws Primary. Keep up the good work.

Castlepark Primary School: P6 were very enthusiastic about keeping track of the temperature and rainfall this week. They felt like real scientists and are ready to show another class how to record the details next week. Professor Plant: Fantastic Castlepark Primary. I’m glad you are learning new skills through the project and that you are having so much fun doing so. You really are Super Scientists!

St. Oswalds V A School: We are worried about having a true reading on a Monday if it has rained over the weekend. Shall we empty the rain gauge Monday morning and take the rainfall measurement as normal? Professor Plant: Hi St Oswalds. That’s a good question, well done for thinking about the effect this has on Monday’s results. The reading on Monday afternoon will include any residual (left over) rain fall from the weekend. Please don’t empty the rain gauge before taking Monday’s reading, as we want the reading to reflect the weather over at least the last 24 hours. Keep up the good work bulb buddies.

Our Lady of Peace Primary School: Hello we had fun planting the bulbs. It wasn't the first time we have planted something. We have planted spider plants in primary 1. Hopefully our plants come up healthy. Good bye. Professor Plant: Hello Our Lady of Peace Primary, I’m glad to hear you enjoyed planting! You sound like experienced gardeners now! Keep up the good work!

Drumpark Primary ASN School: We have had fun taking data. Professor Plant: I’m glad to hear it Drumpark Primary. Keep up the good work!

Biggar Primary School: We are enjoying the experiments. Professor Plant: I’m glad to hear you are enjoying the project Biggar Primary. For more experiment ideas look for ‘Professor Plant’s investigation Ideas’ on the Spring Bulbs website: https://www.museumwales.ac.uk/spring-bulbs/

Maesycoed Primary: A very mild start to the season. Our year group is split into two classes with a different facing outdoor area. We are monitoring the effects the other class experience against our own as we have more sunlight then they do but they are more sheltered. We will let you know if their flowers appear first. Professor Plant: Fantastic experiment Maesycoed Primary! Please do let me know what your findings are and what you learn from them! This also gives you an opportunity to practice averages. As only one reading a day is needed on the Museum website, you could look at the readings taken by each class and work out the average to enter to the website! Keep up the good work Bulb Buddies.

Brisbane Primary School: Our Monday reading is collated over the weekend. We are taking our readings at 2.30pm Mon - Frid. Thank you Professor Plant. Professor Plant: Hello Brisbane Primary, thank you for your up-date. It’s great that you are managing to take your readings at the same time each day, as this helps to ensure a fair experiment. Keep up the good work Bulb Buddies.

 

Diwrnod plannu ar 20 Hydref! 2015-10-13

Penny Dacey, 13 Hydref 2015

Helo Cyfeillion Gwanwyn,

Dim ond wythnos i fynd cyn diwrnod plannu ar 20 Hydref! Ydych chi'n barod? Dyma rai adnoddau defnyddiol i'ch paratoi ar gyfer plannu eich bylbiau ac am ofalu amdanynt yn ystod y misoedd nesaf! Mae'r rhain hefyd ar safle we Bylbiau'r Gwanwyn i Ysgolion: http://www.amgueddfacymru.ac.uk/bylbiau-gwanwyn/

Cyn y diwrnod plannu dylech ddarllen y dogfennau hyn:

• Llythyr oddi wrth Athro'r Ardd (cyflwyniad i'r prosiect)

• Mabwysiadu eich Bwlb (trosolwg o’r gofal fydd angen ar eich Bylbiau)

• Plannu eich bylbiau (canllawiau ar gyfer sicrhau arbrawf teg)

A chwblhawyd y gweithgareddau hyn:

• Tystysgrif Mabwysiadu Bylbiau

• Creu Labelai Bylbiau

Mae'n bwysig eich bod yn darllen y rhain oherwydd maent yn cynnwys gwybodaeth bwysig! Er enghraifft, ydych chi'n gwybod pa mor ddwfn mae angen i chi blannu eich bylbiau? Neu sut i labelu fel mae’n glir lle mae'r Cennin Pedr a Chrocws wedi eu plannu?

Cofiwch dynnu lluniau o'ch diwrnod plannu i gystadlu yn y Gystadleuaeth Ffotograffydd Diwrnod Plannu!

Pob lwc! Gadewch i ni wybod sut mae'n mynd!

Athro'r Ardd a Bwlb Bychan

Taith Natur ar gyfer Enillwyr Prosiect Bylbiau Gwanwyn 2015

Penny Dacey, 6 Gorffennaf 2015

Yn wobr am gymryd rhan ym mhroject Bylbiau’r Gwanwyn i Ysgolion 2014-15 enillodd Ysgol Gynradd Santes Ffraid yn Sir Ddinbych daith i Amgueddfa Lechi Cymru yn Llanberis. Gweithiodd dosbarth blwyddyn 6 yn galed iawn ar y project eleni gan gymryd mesuriadau dyddiol a’u cofnodi ar wefan Amgueddfa Cymru yn wythnosol. Gofalodd pob disgybl am ei blanhigion a chofnodi eu dyddiau blodeuo a’u taldra ar y wefan.

Gwaith anodd oedd dewis enillwyr eleni oherwydd bod sawl ysgol wedi darparu cofnodion tywydd oedd bron yn gyflawn. Er mwyn dewis yn deg, rhoddwyd enwau’r ysgolion gorau i gyd mewn het cyn tynnu enillydd ar hap ar gyfer Cymru, Lloegr a’r Alban. Derbyniodd yr ysgolion oedd yn dal yn yr het docynnau gwerth £40 i wario ar offer garddio ar gyfer yr ysgol. Dyma’r ysgolion gyda ‘chlod uchel’ yn derbyn pecynnau Adnodd Addysg y Ddôl Drefol a hadau ar gyfer y ddôl. Er mwyn cydnabod eu gwaith gwych yn helpu Amgueddfa Cymru gyda’r ymchwiliad, derbyniodd bob ysgol a gyflwynodd eu data dystysgrifau Gwyddonwyr Gwych a phensiliau.

Ymwelodd disgyblion Santes Ffraid â Llanberis ar 22 Mai, a chael eu croesawu gan Dafydd Roberts, Ceidwad yr Amgueddfa, a fi, Cydlynydd Project Bylbiau’r Gwanwyn. Dyma ni’n trafod canlyniadau project 2014-15 ac yn eu cymharu â blynyddoedd blaenorol. Gallwch chi astudio adroddiad 2005-2015 yma.

Yna dyma ni’n cael ein harwain at Dai Chwarelwyr Fron Haul a mwynhau gwrando ar Wyn Lloyd-Hughes yn esbonio sut y byddai bywyd y trigolion wedi newid dros 100 mlynedd. Roedd e’n wych yn dod â hanesion trigolion bro’r chwareli yn fyw i ni a dyma’r plant yn mwynhau chwilio drwy’r tai a thrafod y newid yn y dodrefn rhwng 1861, 1901 a 1969.

Wedi gadael Fron Haul, dyma ni’n rhuthro draw i’r iard i wylio ffilm fer am hanes diwydiant llechi gogledd Cymru –  ‘Dwyn y Mynydd’. Wrth wylio’r ffilm llawn naws yn y tywyllwch aeth y dosbarth i gyd yn dawel, ond dyma nhw’n neidio yn ystod y digwyddiadau dramatig (swnllyd). Wedi hyn dyma’r grŵp yn gwylio Carwyn Price, yn hollti a naddu llechi i siâp calon. Dyma fe’n dangos esiamplau o gelf wedi’i greu yn yr un dull, fel gwyntyll a llwyau caru. Roedd Carwyn yn barod i roi cyfle i rywun roi cynnig ar hollti llechi a dyma’r plant yn enwebu eu hathro, Mr Madog! Roedd e’n dda iawn a’r plant yn gweiddi eu cefnogaeth!

Yna, dyma Peredur Hughes yn mynd â ni i weld olwyn ddŵr yr Amgueddfa gan esbonio sut mae hi’n troi a sut y byddai’r pŵer yn cael ei ddefnyddio i droi peiriannau yng ngweithdai Gilfach Ddu. Gyda diamedr o 15.4 metr, dyma’r olwyn ddŵr fwyaf ar dir mawr Prydain, ac roedd mewn defnydd rhwng 1870 a 1925 pan ddaeth olwyn Pelton i gymryd ei lle. Mae sefyll dan yr olwyn wrth iddi droi, gyda’r dŵr yn tasgu a’r metel yn gwegian, yn brofiad a hanner ac mae’n gwneud i chi werthfawrogi sgiliau dylunio ac adeiladu’r peirianwyr. Fel rhan o broject Bylbiau’r Gwanwyn mae’r ysgolion yn derbyn adnoddau i sbarduno trafodaeth am newid hinsawdd a ffynonellau ynni – roedd gweld olwyn ddŵr anferth wrth ei gwaith yn helpu’r plant i ddeall y gwaith hwnnw’n well.

Ar ôl cinio cyflym dyma fynd i’r chwarel ar gyfer y gweithgareddau natur. Dyma ddechrau drwy drafod beth oedd i’w weld a’i glywed, ei gyffwrdd a’i arogli yn y coetir. Yna dyma ni’n mynd i chwilio am fwystfilod bach a thrafod sut i ddosbarthu gwahanol rywogaethau a hoff gynefinoedd y bwystfilod. Ar ôl creu ‘persawr y goedwig’ a dysgu sawl coes sydd gan wrachen ludw a’u bod nhw’n codi cyfog ar fechgyn a merched dyma symud at y dasg nesaf – creu nyth! Gweithiodd y plant yn galed iawn, fel y galwch chi weld o faint y brigau/coed yr oedden nhw’n symud gyda’u pigau (dwi’n siŵr bod rhywun wedi bod yn twyllo!). Roedd e’n llawer o hwyl ac yn gyfle gwych i dynnu lluniau.

Daeth Peredur i gyfarfod â ni wrth Chwarel Vivian ac esbonio ychydig o’i hanes i ni, gan ddangos y clogwyni llechi ac esbonio arwyneb y graig a sut fyddai’r chwarelwyr yn gweithio. Dyma fe’n esbonio’r geiriau y byddai’r chwarelwr yn ei ddefnyddio i ddisgrifio gwahanol fathau o lechi, a’r prosesau daeareg a ffurfiodd y graig. Dysgodd y plant sut i adnabod ‘trwyn’ a ‘chefn crwn’ a sut oedd hyn yn helpu’r chwarelwr i ddehongli’r graig, a’i drin i gael y canlyniadau gorau, a lleihau risg drwy ragweld sut byddai’r graig yn chwalu. Roedd hi’n sgwrs ddiddorol mewn lleoliad prydferth, ac yn ddiwedd hyfryd i’r diwrnod.

Dyma fi’n mwynhau cwrdd â disgyblion blwyddyn 6 Ysgol Santes Ffraid a diolch yn bersonol iddyn nhw am eu cyfraniad i broject Bylbiau’r Gwanwyn i Ysgolion. Roedd yn ddiwrnod gwych a hoffwn i ddiolch i staff Amgueddfa Lechi Cymru am eu croeso, eu hamser, a’u hymdrech.

Mae amser o hyd i ysgolion yng Nghymru wneud cais i gymryd rhan ym mhroject Bylbiau’r Gwanwyn 2015-16. Bydd cyfle i’r enillwyr fwynhau taith wych yn llawn gweithgareddau byd natur yn un o leoliadau agosaf Amgueddfa Cymru.

Er mwyn ymgeisio, ewch i: http://www.amgueddfacymru.ac.uk/bylbiau-gwanwyn/


Mae ceisiadau ar gyfer ysgolion yn Lloegr a’r Alban bellach wedi cau, ond gall ysgolion sydd â diddordeb ganfod gwybodaeth am broject 2016-17 ar wefan Ymddiriedolaeth Edina.

Ceisiadau ar Agor i Ysgolion yng Nghymru

Penny Dacey, 29 Mehefin 2015


Astudiaeth newid hinsawdd ar dir eich ysgol!
Daearyddiaeth & Gwyddoniaeth (CA2)


Defnyddiwch eich dosbarth awyr agored! Ymunwch â'r 175 o ysgolion sy'n cymryd rhan yn yr arbrawf arbennig hwn!


Mae Bylbiau'r Gwanwyn i Ysgolion yn rhoi cyfle i ddisgyblion cynradd fabwysiadu, astudio a chofnodi datblygiad bylbiau'r gwanwyn fel rhan o rwydwaith gwylio'r gwanwyn. Caiff pob disgybl fwlb Cennin Pedr Dinbych, Crocws ac photyn gardd er mwyn cofnodi'r tyfiant a'r amserau blodeuo.

Trwy gasglu a chymharu data mae disgyblion yn darganfod sut mae'r newid yn ein hinsawdd yn effeithio ar ein tymhorau, a beth mae hyn yn ei olygu i ni ac i'r natur o'n cwmpas. Mae disgyblion yn cymryd rhan yn Her Athro'r Ardd i gael tystysgrif gwyddonydd gwych.

Gall ysgolion ledled Cymru gymryd rhan gan bod y canlyniadau yn cael eu casglu drwy'r we (neu'r post os oes rhaid). Mae'r prosiect yn un parhaus a gall ysgolion gymryd rhan yn flynyddol.

Er mwyn gwneud cais i gymryd rhan yn Bylbiau’r Gwanwyn i Ysgolion 2015-2016 llenwch y ffurflen gais ar-lein drwy ddilyn y ddolen isod.

Ceisiadau nawr ar agor ond mae niferoedd yn gyfyngedig felly wnewch gais yn fuan i sicrhau eich lle ar y prosiect! Ceisiadau ar agor i ysgolion yng Nghymru yn unig. Mae’r dyddiad cau wedi pasio ar gyfer ysgolion o’r Alban a Lloegr ond mae croeso i chi gysylltu ag Ymddiriedolaeth Edina am wybodaeth ar sut i gymryd rhan yn y project yn 2016-2017.

Bylbiau’r Gwanwyn i Ysgolion – Ffurflen Gais.

E-bost SCAN

Bylbiau'r Gwanwyn i Ysgolion - Ceisiadau a Gwybodaeth

Penny Dacey, 15 Mehefin 2015


Astudiaeth newid hinsawdd ar dir eich ysgol!
Daearyddiaeth & Gwyddoniaeth (CA2)


Defnyddiwch eich dosbarth awyr agored! Ymunwch â'r 175 o ysgolion sy'n cymryd rhan yn yr arbrawf arbennig hwn!


Mae Bylbiau'r Gwanwyn i Ysgolion yn rhoi cyfle i ddisgyblion cynradd fabwysiadu, astudio a chofnodi datblygiad bylbiau'r gwanwyn fel rhan o rwydwaith gwylio'r gwanwyn. Caiff pob disgybl fwlb Cennin Pedr Dinbych, Crocws ac photyn gardd er mwyn cofnodi'r tyfiant a'r amserau blodeuo.

Trwy gasglu a chymharu data mae disgyblion yn darganfod sut mae'r newid yn ein hinsawdd yn effeithio ar ein tymhorau, a beth mae hyn yn ei olygu i ni ac i'r natur o'n cwmpas. Mae disgyblion yn cymryd rhan yn Her Athro'r Ardd i gael tystysgrif gwyddonydd gwych.

Gall ysgolion ledled Cymru gymryd rhan gan bod y canlyniadau yn cael eu casglu drwy'r we (neu'r post os oes rhaid). Mae'r prosiect yn un parhaus a gall ysgolion gymryd rhan yn flynyddol.

Er mwyn gwneud cais i gymryd rhan yn Bylbiau’r Gwanwyn i Ysgolion 2015-2016 llenwch y ffurflen gais ar-lein drwy ddilyn y ddolen isod.

Ceisiadau nawr ar agor ond mae niferoedd yn gyfyngedig felly wnewch gais yn fuan i sicrhau eich lle ar y prosiect! Ceisiadau ar agor i ysgolion yng Nghymru yn unig. Mae’r dyddiad cau wedi pasio ar gyfer ysgolion o’r Alban a Lloegr ond mae croeso i chi gysylltu ag Ymddiriedolaeth Edina am wybodaeth ar sut i gymryd rhan yn y project yn 2016-2017.

Bylbiau’r Gwanwyn i Ysgolion – Ffurflen Gais.

E-bost SCAN