: Spring Bulbs

Bulbathon 2015

Danielle Cowell, 6 Tachwedd 2014

A planting day of bulbous proportions!

Eleven thousand and three hundred bulbs were planted by school scientists across the UK to kick start the Spring Bulbs for Schools investigation. Seven and a half thousand pupils from one hundred and seventy nine schools got planting to investigate climate change.

Here is a map to show you where the bulbs were planted.

Here are some of the pictures they sent in. Follow their progress and the questions they raise as they record the local weather and flowering through the winter and into the spring.

Professor Plant

Gwyddonwyr Gwych Cymru

Catalena Angele, 8 Gorffennaf 2014

O’r chwe deg naw o ysgolion o Gymru a gymerodd ran yn ymchwiliad Bylbiau’r Gwanwyn i Ysgolion eleni, dyfarnwyd y wobr gyntaf i Ysgol Clocaenog o Sir Ddinbych.

Dyma’r Gwyddonwyr Gwych lwcus yn ennill trip llawn hwyl i Amgueddfa Lechi Cymru lle dyma nhw’n dysgu am Stori Llechi, yn chwilio am fwystfilod bach ac yn adeiladu nythod anferth yn y chwarel!

Athro’r Ardd: “Dyma Ysgol Clogaenog yn gwneud gwaith gwych ar gyfer ymchwiliad Bylbiau’r Gwanwyn a nhw anfonodd y mwyaf o ddata tywydd o bob ysgol yng Nghymru! Roedd y gystadleuaeth yn gryf wrth i ysgolion wella eu sgiliau casglu ac anfon data bob blwyddyn. Roedd yn braf cael cwrdd â Gwyddonwyr Gwych Ysgol Clocaenog, a dyma ni’n cael llawer o hwyl yn adeiladu nythod ac yn esgus bod yn adar bach! Dyma ni hefyd yn dysgu llawer am Lechi, a dwi’n credu taw fy hoff foment i o’r diwrnod oedd hollti’r llechi!”

Os hoffech chi gymryd rhan yn y project hwn y tymor nesaf, llenwch y ffurflen gais ar-lein:

Bylbiau’r Gwanwyn i Ysgolion – Ffurflen Gais.

 

Cystadleuaeth Darlunio Cennin Pedr 2014

Catalena Angele, 30 Mai 2014

Llongyfarchiadau i enillwyr y gystadleuaeth Darlunio Cennin Pedr 2014! Dyma’u darluniau botanegol gwych.

  • 1af: Abbey – Ysgol Eglwys Plwyf Coppull
  • 2il: Louise – Ysgol Gynradd SS Philip a James CE (Pinc 3)
  • 3ydd: Amelie – Ysgol Gynradd Stanford in the Vale CE

Roeddwn i’n chwilio am ddarluniau botanegol – sef darluniau o blanhigion mewn arddull wyddonol. Yn ogystal â thynnu llun gwych, roedd angen labelu gwahanol rannau’r blodyn yn glir hefyd.

Roedd pob un o’r darluniau a dderbyniais i yn wych, felly gallwch chi eu gweld nhw i gyd ar y wefan! Da iawn bawb.

Gallwch chi weld y darluniau i gyd yma.

Diolch yn fawr,

Athro’r Ardd

Bylbiau'r Gwanwyn i Ysgolion: Canlyniadau 2005-2014

Catalena Angele, 27 Mai 2014

Mae project ‘Bylbiau'r Gwanwyn i Ysgolion’ yn gyfle i filoedd o wyddonwyr ysgol weithio gydag Amgueddfa Cymru i archwilio newid yn yr hinsawdd a'i ddeall.

Ers mis Hydref 2005, mae gwyddonwyr ysgol  wedi bod yn cadw cofnod o'r tywydd a phryd mae eu blodau'n agor, fel rhan o astudiaeth hirdymor o effeithiau'r tymheredd ar fylbiau'r gwanwyn.

Mae tystysgrifau wedi cael eu hanfon at yr holl ddisgyblion yn 4,075 a gwblhaodd y prosiect eleni.

Mae rhagor o fanylion yn adroddiadau Athro'r Ardd neu gallwch chi lawrlwytho'r daenlen i astudio'r patrymau!

  • Gwnewch siartiau amlder a graffiau i ganfod y cymedrau.
  • A wnaeth blodau agor yn hwyr mewn ysgolion oedd yn cofnodi tywydd oer?
  • Sut wnaeth tymheredd, heulwen a glaw effeithio ar ddyddiadau blodeuo ar gyfartaledd?
  • Chwiliwch am dueddiadau mewn gwahanol lefydd yng Nghymru.

Diolch yn fawr

Athro'r Ardd

www.museumwales.ac.uk/scan/bylbiau

Twitter http://twitter.com/Professor_Plant

Gwobrau Gwyddonwyr Gwych 2014

Catalena Angele, 28 Ebrill 2014

Bydd Amgueddfa Cymru yn dyfarnu Tystysgrifau Gwyddonwyr Gwych i naw deg pump o ysgolion ar draws y DU eleni, i gydnabod eu cyfraniad i Ymchwiliad Bylbiau’r Gwanwyn – Newid Hinsawdd.

Llongyfarchiadau anferth i bob un o’r ysgolion! Mae rhestr o’r enillwyr isod, ydy’ch ysgol chi yno?

Diolch i bob un o’r 4200 disgybl a helpodd eleni! Diolch am weithio mor galed yn plannu, arsylwi, mesur a chofnodi – rydych chi i gyd yn Wyddonwyr Gwych! Bydd pob un yn derbyn tystysgrif a phensel Gwyddonydd Gwych, ac fe fyddan nhw’n cyrraedd eich ysgol tua canol mis Mai.

Diolch yn fawr i Ymddiriedolaeth Edina am eu nawdd ac am helpu i wireddu’r holl  broject!

 

Enillwyr 2014

Diolch i’r tri enillydd wnaeth anfon y nifer fwyaf o ddata tywydd.  Bydd pob un yn derbyn trip ysgol llawn hwyl i atyniad natur.

  • Ysgol Clocaenog yng Nghymru
  • Ysgol Gynradd Abronhill yn yr Alban
  • Ysgol Gynradd Gymunedol Dallas Road yn Lloegr

 

Ail safle

Bydd pob ysgol yn derbyn tocyn anrheg i brynu offer ar gyfer eich projectau garddio.

  • Ysgol Gynradd Cross Hands yng Nghymru
  • Ysgol Gynradd Wormit yn yr Alban
  • Ysgol Gynradd Gatholig y Cymun Bendigaid yn Lloegr

 

Clod uchel

Bydd pob ysgol yn derbyn tystysgrifau, pensiliau, hadau blodau’r haul a hadau perlysiau.

  • Abergwili VC Primary
  • Archbishop Hutton's Primary School
  • Arkholme CE Primary School
  • Balshaw Lane Community Primary School
  • Bleasdale CE Primary School
  • Burscough Bridge Methodist School
  • Carnforth North Road Primary School
  • Christchurch CP School
  • Combe Primary School
  • Coppull Parish Church School
  • Cutteslowe Primary School
  • Darran Park Primary
  • Freuchie Primary School
  • Gladestry C. in W. Primary
  • Glyncollen Primary
  • Kilmaron School
  • Raglan VC Primary
  • SS Philip and James CE Primary School
  • St Athan Primary School
  • St Blanes Primary School
  • St Ignatius Primary School
  • St Mary's Catholic Primary School, Leyland
  • St Mellons Church in Wales Primary School
  • St Michael's CE (Aided) Primary School
  • St Nicholas Primary School
  • St Patrick's Primary School
  • Stanford in the Vale CE Primary School
  • Ysgol Bro Eirwg
  • Ysgol Deganwy

 

Cydnabyddiaeth arbennig

Bydd pob ysgol yn derbyn tystysgrifau, pensiliau a hadau blodau’r haul.

  • Auchengray Primary School
  • Britannia Community Primary School
  • Cawthorne's Endowed Primary School
  • Coleg Meirion-Dwyfor
  • Culross Primary School
  • Greyfriars RC Primary School
  • Holy Trinity CE Primary School
  • John Cross CE Primary School
  • Llanishen Fach Primary School
  • Red Marsh School
  • St Anne's Catholic Primary School
  • St Laurence CE Primary School
  • Woodplumpton St. Anne's Primary School
  • Ysgol Gynradd Dolgellau
  • Ysgol Terrig
  • Ysgol Y Plas

 

Ysgolion i dderbyn tystysgrifau

Bydd pob ysgol yn derbyn Tystysgrifau Gwyddonwyr Gwych a phensiliau.

  • All Saints' CE Primary School
  • Balcurvie Primary School
  • Ballerup Nursery
  • Blenheim Road Community Primary School
  • Brockholes Wood Community Primary School
  • Brynhyfryd Junior School
  • Catforth Primary School
  • Chatelherault Primary School
  • Cleddau Reach VC Primary School
  • Cobbs Brow Primary School
  • Coed-y-Lan Primary School
  • Flakefleet Primary School
  • Glencairn Primary School
  • Golden Hill School
  • Henllys C/W Primary
  • Hillside Specialist School
  • Ladywell Primary School
  • Lakeside Primary
  • Lea Community School
  • Manor Road Primary School
  • Manor School
  • Milford Haven Junior School
  • Newport Primary School
  • Pinfold Primary School
  • RAF Benson Primary School
  • Rogiet Primary School
  • Rougemont Junior School
  • Scotforth St Paul's CE Primary School
  • St Bernadette's Primary School
  • St Gregory's Catholic Primary School
  • St John's CE Primary School
  • St Nicholas C/W primary school
  • Trellech Primary School
  • Tynewater Primary School
  • Woodstock CE Primary School
  • Ysgol Bro Tawe
  • Ysgol Glan Cleddau
  • Ysgol Iau Hen Golwyn
  • Ysgol Nant y Coed
  • Ysgol Rhys Prichard
  • Ysgol Santes Tudful
  • Ysgol Sychdyn
  • Ysgol Y Berllan Deg
  • Ysgol Y Faenol

 

Cystadleuaeth Darlunio Cennin Pedr 2014

Llongyfarchiadau i’r disgyblion canlynol am greu darluniau botaneg arbennig! Gwobr yr enillwyr fydd pecynnau gwylio adar yn cynnwys binocwlars bach.

  • 1af: Abbey – Coppull Parish Church School
  • 2il: Louise – SS Philip and James CE Primary School (Pink 3)
  • 3ydd: Amelie – Stanford in the Vale CE Primary School

 

Da iawn, rydych chi wedi gwneud gwaith ANHYGOEL.

Athro'r Ardd