Yr oerfel mawr
18 Ionawr 2010
,Am newid yn y tywydd ers fy mlog diwethaf! Cyn Nadolig roeddem yn sôn am y tywydd gwlyb a thwym a sut roedd y bylbiau wedi dechrau tyfu'n gynnar fel canlyniad.
Ers hynny syrthiodd y tymheredd a daeth eira dros y wlad. Caewyd y rhan fwyaf o'r ysgolion a chafodd ein gwyddonwyr ifainc gyfle i chwarae yn yr eira. Ar gyfer yr ysgolion a oedd ar agor roedd problemau cofnodi gyda thermomedrau rhewedig a bylbiau dan eira dwfn.
Felly beth mae'r tywydd oer hwn yn ei feddwl ar gyfer ein bylbiau, y ffermwyr a chynhesu byd-eang?
Ar gyfer y bylbiau: Os dechreuodd eich b?lb dyfu cyn Nadolig bydd fwy na thebyg yr un uchder heddiw. Peidiodd â thyfu nes i'r tywydd gynhesu. Mae'n bosibl bod rhai planhigion wedi'u niweidio gan y rhew ac felly ni flodeuant ond dylai'r rhan fwyaf flodeuo'n iawn.
Dywedodd ffermwyr o'r fferm Really Welsh: ‘Fel arall byddem wedi dechrau pigo'r math cynharaf o gennin Pedr yn barod ac erbyn hyn byddent wedi mynd i'r archfarchnadoedd. Ond fel y gwelwch o'r llun a dynnwyd o'r fferm, nid ydynt yn agos at fod yn barod.
'Roedd rhai o'r cennin Pedr ryw wythnos neu ddwy ar y blaen ddiwedd Tachwedd ond nid ydynt wedi tyfu o gwbl ers cyn Nadolig. Mae angen ar gennin Pedr dymheredd uwch na 6 gradd er mwyn iddynt dyfu. Os yw'r tywydd yn parhau ni fydd gennym unrhyw gennin Pedr am ychydig o wythnosau.’
Ydy cynhesu byd-eang yn digwydd o hyd? Camgymeriad hawdd yn y tywydd oer byddai anghofio bod ein planed yn cynhesu ond yn anffodus mae'n wir o hyd y bydd y tymheredd ar y cyfan yn codi fel bod lefelau carbon deuocsid yn cynyddu. Y tymheredd ar y cyfan yw'r allwedd i ddeall cynhesu byd-eang. Bydd rhai gaeafau o hyd yn oerach a rhai hafau o hyd yn dwymach. Amrywiaeth naturiol yw hynny. Ond wrth edrych ar dymheredd ein planed ar gyfartaledd dros y ganrif ddiwethaf mae'n bendant yn codi ac nid oes gan wyddonwyr unrhyw amheuaeth na fyddant yn parhau i godi.
Ar gyfer Cymru nid yw cynhesu byd-eang yn golygu mwy o haul ond hafau twymach a gwlypach a thywydd mwy cyfnewidiol fydd yn cynnwys llifogydd sydyn a stormydd.
Cennin Pedr o Daiwan. Dyma lun a anfonwyd atom gan Chao-mei, athrawes o Daiwan sy'n dysgu am yr amgylchedd. Dywed: Hylo, Athro'r Ardd. A wyddoch chi fod y cennin Pedr wedi blodeuo yn Nhaiwan? Mae'n f'atgoffa o wanwyn prydferth Prydain. Dangosais i blant yn Nhaiwan sut i gadw dyddiadur natur drwy edrych ar eich blog. Mae'n gymorth mawr. Dysgaf blant yng Nghanolfan Addysg Tir Gwlyb Cheng-long a dyma'n tudalen blog, mae'n flog Tsieinëeg yn unig mae arnaf ofn.
Bwydo'r adar. Ewch i'n blog coedwigoedd i weld lluniau o fywyd gwyllt Sain Ffagan yn yr eira. Cewch wybod hefyd sut i helpu adar eich gardd oroesi'r gaeaf neu gymryd rhan yn y Big Schools' Birdwatch.
Diolch yn fawr
Athro'r Ardd