Spring Bulbs

Yw hi'n wanwyn eto?

Danielle Cowell, 14 Ionawr 2011

Wedi’r holl rew ac eira, mae hi’n teimlo’n gynnes yma yng Nghaerdydd heddiw er taw dim ond 10 gradd Celsius yw hi. Mae’n rhaid bob y bylbiau wedi sylwi hefyd – maen nhw wedi dechrau tyfu’n barod! Roedd gweld yr ardd yn dod yn fyw eto yn codi nghalon i!

Adroddodd Ysgol Porth Y Felin: "Wedi i’r eira glirio gallwn ni weld bod y planhigion yn tyfu. Mae’n cynhesu!" Newyddion gwych! Cofiwch roi gwybod i mi os yw’r bylbiau yn eich ysgol wedi dechrau tyfu neu os oes unrhyw arwyddion eraill bod y gwanwyn ar ei ffordd. Anfonwch ffotograffau os oes rhai ar gael.

Ar hyn o bryd dylai ysgolion sy’n rhan o ymchwil bylbiau’r gwanwyn fod wrthi’n brysur yn casglu cofnodion tywydd er mwyn cael cyfle i ennill trip, ac yn cadw llygad am unrhyw olwg o’r bylbiau’n tyfu bob dydd. Defnyddiwch yr adnoddau canlynol er mwyn gwneud yn siŵr eich bod chi’n gwybod am beth i chwilio a sut i gofnodi’n gywir.

Daw fy hoff gwestiwn yr wythnos hon gan Ysgol Gynradd yr Eglwys yng Nghymru Bishop Childs. Gofynnon nhw: "Os ydych chi’n plannu’ch bwlb yr un pryd â’ch partner fyddan nhw’n blodeuo yr un pryd?” Rhowch gynnig ar ateb y cwestiwn a bydda i’n rhoi ateb cywir yr wythnos nesaf... 

Llawer o law a llifogydd. Yn anffodus, mae sawl ardal o Gymru wedi dioddef llifogydd, yn cynnwys ein hamgueddfa ni yn Sain Ffagan. Adroddodd Ysgol Gynradd Maesycwmer eu bod nhw wedi profi "Wythnos wlyb iawn!" gyda dros 100mm o law mewn un diwrnod. Edrychwch ar y cofnodion tywydd diweddaraf o’r ysgolion i weld faint o law mae’n nhw’n ei weld.

Mae nifer o wledydd ar draws y byd, yn dioddef llifogydd mawr. Mae llifogydd ym Mrasil, Awstralia a Sri Lanka wedi effeithio ar fywydau nifer o bobl. Er nad ydyn ni’n gallu gwneud cysylltiad uniongyrchol rhwng y llifogydd diweddar a newid hinsawdd, maen nhw’n rybudd at y dyfodol: mae gwyddonwyr yn rhagweld bydd cynnydd mewn dwyster ac achosion o dywydd eithafol wrth i’r blaned gynhesu.

Dyma pam mae gwaith pob ysgol bylbiau’r gwanwyn yn bwysig – felly daliwch ati!

Athro’r Ardd

Nadolig Llawen oddi wrth Athro�r Ardd

Danielle Cowell, 13 Rhagfyr 2010

Dim ond wythnos arall o ysgol cyn y Nadolig!

Hoffwn i ddiolch i’r holl wyddonwyr gwych sydd wedi bod yn cofnodi’n ofalus ers y 1af o Dachwedd – dyma’r wythnos gofnodi olaf cyn y Nadolig. Mae wedi bod yn aeaf oer iawn i fod allan yn cofnodi, ac rydych chi i gyd wedi gwneud yn arbennig! Diolch byth, mae ychydig yn gynhesach yr wythnos hon, felly ddylai’r cofnodi ddim oeri’r bysedd cymaint!

Mae llawer o ysgolion wedi dweud eu bod nhw’n poeni am effaith posib y rhew ar eu bylbiau:

"Gan fod y tywydd mor oer, rydyn ni’n poeni na fydd ein planhigion yn byw drwy’r gaeaf " Ysgol Gynradd Gatholig y Santes Fair.

"Mae wedi bod yn oer iawn. Fydd y bylbiau’n tyfu?" Ysgol Porth y Felin.

Rydw i wedi cael sgwrs dda gyda’n Prif Arddwr ni, Juliet, sy’n gweithio yn Sain Ffagan ac rydyn ni’n dau’n cytuno y dylai’r bylbiau fod yn iawn. Bydd rhai bylbiau’n dioddef oherwydd y rhew, ond mae bylbiau cennin pedr a chrocysau yn ddigon cryf - felly dylai’r rhan fwyaf fod yn iawn!

Ar yr adeg yma o’r flwyddyn, mae’r bylbiau wedi’u cuddio o dan y ddaear, felly dyw eira ac iâ ddim mor beryglus ac y gall fod yn y gwanwyn pan fydd y blodau a’r blaenau ifanc i’w gweld. Felly, croesi bysedd :-)

Mae rhagor o gwestiynau ac atebion isod.

Nadolig llawen a blwyddyn newydd dda!

Athro’r Ardd

Cofnod oeraf gan ysgol hyd yn hyn!

Danielle Cowell, 3 Rhagfyr 2010

Yr wythnos hon, cofnododd Ysgol Deganwy: '11 gradd o dan y rhewbwynt ddydd LlunY diwrnod oeraf erioed yn ysgol Deganwy!' http://www.amgueddfacymru.ac.uk/cy/2968/

Wa- oer iawnGobeithio bod eich ystafelloedd dosbarth chi'n gynhesachDyna'r tymheredd isaf erioed i ysgol gofnodi gyda ni.

Ydy'ch ysgol chi wedi bod yn oerach fyth? Dywedwch wrtha i os yw e!

 

Athro'r Ardd

Brrgggh!

Danielle Cowell, 29 Tachwedd 2010

Newid yn y tywydd ers fy adroddiad yr wythnos diwethaf!

Mae’r tymheredd wedi cwympo ac mae’r wlad i gyd dan eira. Mae sawl ysgol wedi cau ac mae ysgolion eraill yn cofnodi bod y mesuryddion glaw yn ‘llawn eira’! Roedd Ysgol Gynradd Maesycwmer yn glyfar iawn yn toddi’r eira yn eu mesurydd glaw cyn ei gofnodi! Gwelwch y sylwadau isod.

Neithiwr, cofnodwyd y tymereddau isaf erioed am fis Tachwedd. Yng nghanolbarth Cymru, cyrhaeddwyd record o -18C (0F) yn Llysdinam, ym Mhowys. Adroddodd Dr Fred Slater: ‘Rydw i wedi bod yn cofnodi’r tywydd yng Nghanolfan Faes Llysdinam yn ddiwyd ers 30 mlynedd – a neithiwr oedd yr oeraf i fi ei gofnodi.”

Os ydych chi’n medru cyrraedd yr ysgol, anfonwch eich canlyniadau ac unrhyw luniau o’r eira sydd gennych.

Roedd y Robin haerllug yma yn fy atgoffa i o pa mor llwglyd fydd adar yn ystod y gaeaf. Daeth yn agos iawn ata i yn Sain Ffagan y bore ‘ma. Yn ffodus roedd fy mocs bwyd gyda fi felly rhoddais i ychydig friwsion iddo fe yn gyfnewid am gael tynnu ei lun.

Os hoffech chi helpu’r adar y  gaeaf hwn cofiwch roi bwyd adar allan yn yr ysgol neu’r ardd. Fe wnes i ychydig o beli braster dros y penwythnos. Roedden nhw’n hawdd i’w gwneud ac yn llawer o sbort.

Er mwyn dysgu sut i wneud cacennau adar a peli braster ewch i http://bit.ly/i7mdNN

Os ydych chi’n chwilio am le da i wylio adar beth am ymweld â’n cuddfan wylio adar yn Sain Ffagan http://bit.ly/cPGqzz

Athro’r Ardd.

Eich cwestiynau a'ch sylwadau

Danielle Cowell, 25 Tachwedd 2010

Dyma rai o’ch cwestiynau a’ch sylwadau.

Dyma rai cwestiynau da iawn gan wyddonwyr clyfar iawn! Mae llawer mwy o sylwadau gan ysgolion isod hefyd.

Gofynnodd Ysgol Gynradd Oakfield: 'Beth yw taldra’r genhinen bedr dalaf i gael ei chofnodi yn yr arbrawf hwn?' Yn ysgol Sant Dunawd y cofnodwyd y talaf ar 15/4/2010. Roedd yn 80cm o uchder!

Gofynnodd Ysgol Nant y Coed: 'A yw’r canlyniadau yn debyg i’r canlyniadau ar yr un amser y llynedd?' Cwestiwn da iawn. Dwi wedi ateb y cwestiwn yn lleol ar gyfer Nant y Coed, ar gyfer Cymru ac wedi edrych ar batrymau tymor hir.

Yn lleol yn ysgol Nant y Coed: Ar gyfartaledd roedd llai o law ym mhythefnos gyntaf mis Tachwedd ac roedd yn gynhesach nag yn 2009.

Glawiad: 2009 – 20.9mm. 2010 – 14.6mm.

Tymheredd: 2009 – 7.7°C. 2010 – 14°C.  

Oedd y patrymau'r un peth yn eich ysgol chi?

Canlyniadau astudiaeth 2010: www.amgueddfacymru.ac.uk/cy/2968/

Canlyniadau astudiaeth 2009: www.amgueddfacymru.ac.uk/cy/2952/

Yng Nghymru: Roedd mis Hydref eleni ychydig yn oerach na’r llynedd a chafwyd yr un faint o lawiad ag yn 2009.

Cymedr tymheredd yn 2009 oedd 11°C a 9.8°C yn 2010.   

Cymedr glawiad yn 2009 oedd 128.3mm a 123.8mm yn 2010.

Edrych ar y patrymau tymor hir: Roedd y cyfartaledd misol ar gyfer mis Hydref rhwng 1971-2000 yn 6.5°C. Mae’r ddau Hydref diwethaf wedi bod dipyn yn gynhesach mewn cymhariaeth.

Gweler: http://www.metoffice.gov.uk/climate/uk/averages/19712000/areal/wales.html  

Oes unrhyw ysgolion wedi gweld eira eto? Os ydych chi, gadewch i mi wybod.

Diolch yn fawr. Athro’r Ardd.