Spring Bulbs

Yn dod cyn hir: Bylbcast 2024

Penny Dacey, 30 Ionawr 2024

Annwyl Cyfeillion y Gwanwyn,

Rwyf eisiau rhoi gwybod i chi am gystadleuaeth newydd a fydd yn cael ei lansio yn fuan!

Mae'n gyfle i bob grŵp sy'n cymryd rhan yn Ymchwiliad Bylbiau'r Gwanwyn i Ysgolion eleni i ddangos eu sgiliau gwych mewn ffilmio ac adroddi straeon! Gofynnir i chi weithio mewn grwpiau i gynhyrchu fideos 30 eiliad yn dangos beth rydych chi wedi'i fwynhau fwyaf am yr Ymchwiliad. 

Rwyf yn edrych ymlaen at rannu mwy o wybodaeth gyda chi a gweld beth rydych chi i gyd yn creu!

Gwyliwch y tudalen yma, bydd ddiweddariadau yn dod yn fuan...

Pob hwyl,

Athro'r Ardd

Gwyliau Hapus Cyfeillion y Gwanwyn

Penny Dacey, 22 Rhagfyr 2023

Rwyf isio ddweud diolch fawr iawn i'r holl ysgolion sydd wedi cymryd rhan yn yr ymchwiliad yn y flwyddyn academaidd hon. Diolch am rannu eich cofnodion tywydd, sylwadau a lluniau. Rwy'n gobeithio y bydd pawb yn mwynhau'r gwyliau.

Plîs rhannwch y math o dywydd  welwch dros y gwyliau hefo eich cofnodion tywydd ar ôl cychwyn yn nol yn yr ysgol. Tybed faint ohonom fydd yn cael Nadolig gwyn!

Gwyliau hapus,

Athro'r Ardd

Cofnodion Tywydd

Penny Dacey, 1 Tachwedd 2023

Helo Cyfeillion y Gwanwyn,

Rwyf isio ddweud diolch mawr i bawb am eich gwaith caled ar ddiwrnod plannu. Cafodd 11,183 o fylbiau ei blannu ar draws y wlad a welais o’r lluniau bod pawb wedi cael llawer o hwyl yn helpu!

Mae Cofnodion Tywydd yn cychwyn o 1 Tachwedd. Plîs wnewch yn siŵr bod eich mesurydd glaw a'ch thermomedr wedi ei chadw mewn lle addas wrth ymyl eich bylbiau, fel medrwch gymryd eich cofnodion yn hawdd pob diwrnod yr ydych yn yr ysgol. 

Mae ‘na adnoddau addysg ar y wefan i helpu paratoi am gymryd cofnodion tywydd. Rwyf wedi atodi hyn rhag ofn bod rhai heb ei gweld eto. Mae’r adnodd hyn yn helpu ymateb cwestiynau pwysig fel ‘pam mae mesur tywydd yn bwysig i’n harbrawf o’r effaith mae’r hinsawdd yn cael ar ddyddiad blodeuo bylbiau gwanwyn’!

Defnyddiwch eich siart tywydd i gofnodi'r glaw a’r tymheredd pob ddiwrnod ysgol. Ar ddiwedd yr wythnos, cofnodwch y rhain i’r wefan Amgueddfa Cymru i rannu eich canfyddiadau. Fedrwch hefyd gadael sylwadau a chwestiynau i fi ymateb yn fy blog nesaf.

Plîs gadewch i mi wybod sut ydych yn wneud a rhannwch eich lluniau trwy X/Twitter ac e-bost.

Cadwch ymlaen hefo'r gwaith caled Gyfeillion y Gwanwyn,

Athro’r Ardd

Diwrnod Plannu 2023

Penny Dacey, 19 Hydref 2023

Mae'n Ddiwrnod Plannu!

Bydd 176 o ysgolion o bob rhan o'r DU yn ymuno â'i gilydd i blannu 11,183 o fylbiau ar gyfer y prosiect gwych hwn. Rydym yn cynnal cystadleuaeth Diwrnod Plannu bob blwyddyn, sy'n annog ysgolion i arddangos diwrnod plannu yn eu hysgol. Gwyliwch yma i weld yr enillwyr ym mis Tachwedd!

Yn y cyfamser, byddwn yn dilyn pob cam o'r ymchwiliad ar y Blog hwn. Byddwn yn clywed gan ddisgyblion yn uniongyrchol, wrth iddynt rannu eu sylwadau hefo eu data tywydd. Byddwn yn clywed am unrhyw dywydd eithafol yn eu hardaloedd ac unrhyw faterion a allai effeithio ar eu gorsafoedd tywydd neu ardal plannu (yn y gorffennol mae hyn wedi cynnwys gwiwerod llwglyd!) 

Byddwn yn gwylio gyda'r disgyblion am arwyddion cyntaf y gwanwyn ac yn rhannu eu hapusrwydd wrth i'r twf cyntaf ac yna'r blodau cyntaf ymddangos.

Byddwn yn adolygu'r data tywydd a blodau ar gyfer y cyfnod Tachwedd 2023-Mawrth 2024, ac yn ei gymharu â data a gasglwyd ers 2005 i weld a allwn weld unrhyw dueddiadau.

Gobeithiwn y byddwch yn ymuno â ni ar y daith hwyliog hon wrth i ni archwilio effeithiau'r tywydd a'r newid yn yr hinsawdd ar fylbiau'r gwanwyn.

Athro'r Ardd

Enillwyr Bylbiau'r Gwanwyn i Ysgolion yn ymweld ag Amgueddfa Werin Cymru Sain Ffagan

Penny Dacey, 10 Gorffennaf 2023

Ysgol Wirfoddol Eglwysig y Model o Gaerfyrddin oedd enillwyr Cymru ar gyfer Ymchwiliad Bylbiau’r Gwanwyn i Ysgolion eleni. Gwnaeth yr ysgolion oedd yn cymryd rhan yn y project blannu eu bylbiau ym mis Hydref, cadw cofnodion tywydd rhwng Tachwedd a Mawrth, monitro eu planhigion a chofnodi dyddiadau blodeuo a thaldra'r planhigion, ac uwchlwytho'r holl ddata hwn i wefan Amgueddfa Cymru.

Y wobr ar gyfer yr ysgol sy'n ennill yng Nghymru bob blwyddyn yw trip i un o saith amgueddfa Amgueddfa Cymru, gyda bws am ddim a gweithgareddau. Eleni, dewisodd Ysgol Wirfoddol Eglwysig y Model ymweld â Sain Ffagan Amgueddfa Werin Cymru. Roedd y diwrnod yn cynnwys Llwybr Cynaliadwyedd yn edrych ar rai o adeiladu hanesyddol yr amgueddfa a Helfa Drychfilod Feddylgar, lle buom yn chwilota yn rhai o erddi hardd yr amgueddfa.

Roedden ni'n lwcus iawn ar ein Helfa Drychfilod Feddylgar, a oedd yn cynnwys bod yn ymwybodol o'r ardal o'n cwmpas ac edrych yn graff, gwrando'n astud ac arogli'n ddwfn. Gwelsom fursennod emrallt a saffir yn dawnsio uwchben y dŵr yn y pyllau pysgod, a llawer o bysgod bach yn nofio'n chwim o dan y dŵr. Roedd rhai yn ddigon ffodus i gael cip ar neidr y gwair wrth iddo lithro i'r dŵr ac i ffwrdd.

Gwelsom wenyn prysur a gloÿnnod byw lliwgar yn peillio planhigion ag aroglau pêr arnynt fel lafant. Gwelsom a chlywsom sioncod y gwair ym mhrysgwydd y gwelyau blodau, yn ogystal â buchod coch cwta, pryfed gleision, morgrug, chwilod, nadroedd cantroed, malwod, chwilod clust, a phryfed lludw. Roedd rhaid i ni blygu i osgoi gwas y neidr a oedd yn bwydo ar bryfed uwch ein pennau, yn plymio tuag atom sawl gwaith.

Buom yn gwylio a gwrando wrth i wenyn suo o amgylch twmpath yn y lawnt, gan dyrchu cartrefi newydd yn y pridd. Gwelsom gannoedd o bryfed cop ifanc yn byrstio allan o'u coden ac yn gwasgaru dros wrych.

Gwylion ni gychwyr yn nofio'n hamddenol heibio'r bont garreg, a malwod dŵr oddi tani yn bwydo'n araf ar algâu. Gwylion ni'r hwyaid gwyllt cyfarwydd, gwyddau Canada urddasol a'u holl gywion ifanc wrth iddynt barhau â'u diwrnod ar hyd glan y dŵr.

Gwnaethom adnabod gwahanol blanhigion a choed a gweld faint ohonom oedd ei angen i amgylchynu’r dderwen 400 oed. Roedden ni gyd wedi ymgolli'n llwyr yno.

Mae Ysgol Wirfoddol Eglwysig y Model wedi rhannu'r lluniau canlynol gyda ni i ddarlunio eu diwrnod yn yr amgueddfa. 

Ysgol Wirfoddol Eglwysig y Model yn Sain Ffagan Amgueddfa Werin Cymru

Ysgol Wirfoddol Eglwysig y Model yn Sain Ffagan Amgueddfa Werin Cymru

Ysgol Wirfoddol Eglwysig y Model yn Sain Ffagan Amgueddfa Werin Cymru

Ysgol Wirfoddol Eglwysig y Model yn Sain Ffagan Amgueddfa Werin Cymru

Ysgol Wirfoddol Eglwysig y Model yn Sain Ffagan Amgueddfa Werin Cymru

Ysgol Wirfoddol Eglwysig y Model yn Sain Ffagan Amgueddfa Werin Cymru

Ysgol Wirfoddol Eglwysig y Model yn Sain Ffagan Amgueddfa Werin Cymru

Ysgol Wirfoddol Eglwysig y Model yn Sain Ffagan Amgueddfa Werin Cymru