Rybuddion Tywydd
25 Ionawr 2023
,Helo gyfeillion y gwanwyn,
Mae’n amser diddorol i astudio ac arsylwi ar y tywydd! Bydd y rhan fwyaf ohonoch wedi gweld rhew a gwyntoedd uchel yr wythnos ddiwethaf. Rwy'n deall oedd rhaid i rai ysgolion cau, a hyd yn oed os oedd eich ysgol ar agor efallai ei bod hi’n rhy beryglus i gymryd darlleniadau tywydd.
Mae'n debyg byddwch chi wedi clywed pobl yn sôn am rybuddion tywydd dros yr wythnos ddiwethaf. Caiff rhybuddion tywydd eu rhyddhau gan swyddfa’r MET (gwasanaeth tywydd swyddogol y DU) gyda chod lliw (gwyrdd, melyn, ambr a choch) i ddangos pa mor eithafol fydd y tywydd mewn gwahanol ardaloedd.
Gwyrdd: dim tywydd garw.
Melyn: posibilrwydd o dywydd eithafol, gofalwch.
Ambr (oren): posibilrwydd cryf y bydd y tywydd yn effeithio arnoch chi mewn rhyw fodd, paratowch.
Coch: yn disgwyl tywydd eithafol, cynllunio ymlaen llaw a dilyn cyngor y gwasanaethau brys ac awdurdodau lleol.
Mae’r Swyddfa Dywydd hefyd yn defnyddio symbolau i ddangos pa fath o dywydd i’w ddisgwyl. Dyma symbolau yn dangos rhybudd coch am law, rhybudd gwyrdd am wynt ac eira, rhybudd ambr am iâ a rhybudd gwyrdd am niwl. Mae hyn yn golygu bydd hi'n bwrw glaw yn drwm a dylech chi baratoi am iâ. Beth am edrych ar y tywydd lleol ar wefan y Swyddfa Dywydd?
Mae swyddfa’r MET yn ein rhybuddio er mwyn i ni baratoi am dywydd garw. Gall tywydd garw (fel gwynt cryf a rhew) achosi problemau a’i gwneud hi’n anodd teithio. Weithiau bydd ffyrdd, rheilffyrdd a hyd yn oed ysgolion yn cau oherwydd tywydd gwael.
Pa fath o dywydd weloch chi'r wythnos diwethaf? Os nad oeddech allu casglu cofnodion tywydd, nodwch 'dim cofnod' ar y ffurflen, a dweud yn yr adran sylwadau pa fath o dywydd weloch chi! Gallwch hefyd diweddaru ar eich planhigion, ydyn nhw wedi cychwyn tyfu eto?
Daliwch ati gyda'r gwaith da gyfeillion,
Athro’r Ardd