Teithiau Disgrifiad Sain

Mae Amgueddfa Cymru yn cynnig teithiau disgrifiad sain o amgylch rhai o'n hamgueddfeydd, orielau a safleoedd. Beth am ymuno â ni i archwilio ein hamgueddfeydd a'n casgliadau trwy ddisgrifiad sain?

Mae’r teithiau am ddim hyn ar gyfer ymwelwyr dall ac ymwelwyr â nam ar eu golwg.
Mae manylion llawn y teithiau disgrifiad sain sydd ar y gweill isod. Rhaid archebu ymlaen llaw, ond mae tocynnau ⁠am ddim.

Rhowch wybod wrth archebu os ydych chi am ddod â thywysydd/cyfaill a/neu gi tywys gyda chi. Does dim angen i chi archebu tocyn ar wahân ar gyfer eich tywysydd. Bydd powlenni dŵr yn cael eu darparu ar gyfer cŵn tywys.

Os hoffech chi i'r Amgueddfa ddarparu tywysydd, rhowch wybod i ni wrth archebu. tocynnau@amgueddfacymru.ac.uk

Os ydych chi wedi archebu ond yn methu dod, cysylltwch â ni ar y cyfeiriad e-bost uchod er mwyn i ni gynnig y tocyn i rywun arall.