Digwyddiad: Teithiau Sain Ddisgrifiad yn Sain Ffagan Amgueddfa Werin Cymru
Sain Ffagan Amgueddfa Werin Cymru
Ymunwch â ni yn Sain Ffagan i gwrdd â’r Melinydd.
Dewch i ddysgu am waith beunyddiol melinydd a chlywed sut oedd blawd yn cael ei brosesu yn y Felin.
Bydd y daith am ddim hon i ymwelwyr dall ac ymwelwyr â nam ar eu golwg yn archwilio Melin Bompren yn Sain Ffagan drwy sain ddisgrifiad.
Bydd yr olwyn yn troi, a bydd cyfle i dreialu gwahanol ddulliau o falu grawn ŷd, gan ddefnyddio breuanau carreg neu feini malu
Mae 1 tocyn yn yn rhoi'r hawl i chi ddod a thywysydd fel cwmni.
Rhowch wybod os ydych yn bwriadu dod â thywysydd, ddod â chi tywys, neu os hoffech i'r amgueddfa ddarparu tywysydd ar eich cyfer.