Mae'r cwcis hyn yn gwbl angenrheidiol ar gyfer weithrediad y wefan.
Rydym yn defnyddio Google Analytics i fesur sut ydych yn defnyddio'r wefan er mwyn i ni ei wella yn seiliedig ar angen defnyddwyr.
Gall y cwcis hyn gael eu gosod gan wefannau trydydd parti a gwneud pethau fel mesur sut rydych yn gwylio fideos YouTube.
Mae Amgueddfa Cymru yn cynnig teithiau sain ddisgrifiad o amgylch rhai o'n hamgueddfeydd, orielau a safleoedd. Beth am ymuno â ni i archwilio ein hamgueddfeydd a'n casgliadau trwy sain ddisgrifiad.
Mae’r teithiau am ddim hyn ar gyfer ymwelwyr dall ac ymwelwyr â nam ar eu golwg.
Rhowch wybod wrth archebu os ydych chi am ddod â thywysydd/cyfaill a/neu gi tywys gyda chi. Does dim angen i chi archebu tocyn ar wahân ar gyfer eich tywysydd. Bydd powlenni dŵr yn cael eu darparu ar gyfer cŵn tywys. Os hoffech chi i'r Amgueddfa ddarparu tywysydd, rhowch wybod i ni wrth archebu.
Am unrhyw ymholiadau sy'n ymwneud â archebu tocynnau, e-bostiwch:tocynnau@amgueddfacymru.ac.uk
Os ydych chi wedi archebu ond yn methu dod, cysylltwch â ni ar y cyfeiriad e-bost uchod er mwyn i ni gynnig y tocyn i rywun arall.