Mae'r cwcis hyn yn gwbl angenrheidiol ar gyfer weithrediad y wefan.
Rydym yn defnyddio Google Analytics i fesur sut ydych yn defnyddio'r wefan er mwyn i ni ei wella yn seiliedig ar angen defnyddwyr.
Gall y cwcis hyn gael eu gosod gan wefannau trydydd parti a gwneud pethau fel mesur sut rydych yn gwylio fideos YouTube.
🔍 Darganfod ac archwilio
Mae Amgueddfa Wlân Cymru yn cynnig profiad synhwyraidd unigryw sy'n arddangos diwydiant a oedd yn dominyddu Cymru yn y gorffennol. Gall grwpiau gwneud y profiad hyd yn oed yn fwy unigryw trwy archebu sesiwn grefft dan arweiniad hwylusydd. Gallwn ddarparu amrywiaeth o weithdai crefft, gan gynnwys gwehyddu a ffeltio gwlyb. Gall eich disgyblion fod yn greadigol a darganfod drostynt eu hunain fyd diddorol cynhyrchu a dylunio tecstilau.
✏️ Cymryd rhan
Bydd dysgwyr yn cael cyfle i gwrdd â chrefftwyr talentog a fydd yn arddangos y broses o wneud gwlân o gnu i ffabrig. Gall eich disgyblion fod yn greadigol a darganfod drostynt eu hunain fyd diddorol cynhyrchu a dylunio tecstilau.
ℹ️ Ynglŷn â'r sesiwn hon
Mae staff yr amgueddfa yn hyblyg a byddant yn gwneud eu gorau i ddarparu ar gyfer gwahanol oedrannau ac anghenion dysgwyr. Gall hyd y sesiynau amrywio. Mae'r elfen grefft fel arfer yn para 1 awr. Mae ymweliadau ysgol ar gael o ddydd Mawrth i ddydd Gwener, yn ystod oriau agor. (Ar gau ar ddydd Llun)
Y Celfyddydau Mynegiannol
Dyniaethau
Mae ymholi, archwilio ac ymchwilio yn ysbrydoli chwilfrydedd am gymuned leol dysgwyr, Cymru a'r byd, ei gorffennol, ei phresennol a'i dyfodol.
Amcanion dysgu:
I archebu neu i drafod y sesiwn ffoniwch 0300 111 2 333