Mae'r cwcis hyn yn gwbl angenrheidiol ar gyfer weithrediad y wefan.
Rydym yn defnyddio Google Analytics i fesur sut ydych yn defnyddio'r wefan er mwyn i ni ei wella yn seiliedig ar angen defnyddwyr.
Gall y cwcis hyn gael eu gosod gan wefannau trydydd parti a gwneud pethau fel mesur sut rydych yn gwylio fideos YouTube.
Ymunwch â ni yn Amgueddfa Genedlaethol Caerdydd i ddarganfod Byd Rhyfeddol y Deinosoriaid. Yn y gweithdy ymarferol hwn, bydd disgyblion yn archwilio'r deinosoriaid a grwydrodd Cymru filiynau o flynyddoedd yn ôl a sut y cawsant eu darganfod. Byddant yn datblygu rhai o'r sgiliau sydd eu hangen i fod yn balaeontolegydd ac yn eu rhoi ar waith drwy ailadeiladu ecosystem gynhanesyddol gan ddefnyddio tystiolaeth wyddonol.
Bydd disgyblion yn cael cyfle i drin ac archwilio tystiolaeth ffosiledig go iawn o filiynau o flynyddoedd yn ôl. Byddant yn defnyddio'r dystiolaeth hon i ailadeiladu ecosystem gynhanesyddol yn greadigol.
Byddwn yn trafod difodiant creaduriaid ac ecosystemau. Rhowch wybod i ni pan fyddwch chi'n archebu os oes gennych unrhyw ddisgyblion a fyddai'n sensitif i'r profiadau hyn, a byddwn yn gwneud ein gorau glas i wneud i bawb deimlo'n gyfforddus!
Gwyddoniaeth a Thechnoleg
Y Dyniaethau
Ieithoedd, Llythrennedd a Chyfathrebu
Y Celfyddydau Mynegiannol
I archebu neu i drafod y sesiwn ffoniwch (029) 2057 3240 neu e-bostiwch addysg@amgueddfacymru.ac.uk