Mae'r cwcis hyn yn gwbl angenrheidiol ar gyfer weithrediad y wefan.
Rydym yn defnyddio Google Analytics i fesur sut ydych yn defnyddio'r wefan er mwyn i ni ei wella yn seiliedig ar angen defnyddwyr.
Gall y cwcis hyn gael eu gosod gan wefannau trydydd parti a gwneud pethau fel mesur sut rydych yn gwylio fideos YouTube.
Archwilio a phrofiad:
Taith ysgol i Sain Ffagan Amgueddfa Werin Cymru
Mae taith ysgol i Sain Ffagan Amgueddfa Werin Cymru yn ffordd berffaith i ddysgwyr gamu i mewn i hanes cyfoethog ac amrywiol Cymru. Mae dros 40 o adeiladau hanesyddol ar draws y safle ac mae ein staff addysg gwych wrth law i sicrhau bod dysgwyr yn darganfod llawer am hanes Cymru ac yn cael llawer o hwyl wrth wneud hynny. Mae staff yr amgueddfa yn hyblyg a byddant yn gwneud eu gorau glas i ddarparu ar gyfer oedran ac anghenion dysgwyr.
Mae amrywiaeth eang o weithdai dan arweiniad hwylusydd:
Ŵyna yn Sain Ffagan | Bob mis Mawrth mae defaid Sain Ffagan yn wyna, a hoffem gynnig cyfle i ysgolion gwrdd â’n bugail.
Cymru 2000 o flynyddoedd yn ôl: Ymweliad â Thai Crwn Oes Haearn Bryn Eryr | Sut oedd ein cyndeidiau yn adeiladu eu cartrefi yn Oes yr Haearn? Beth allwn ni ddysgu am eu ffordd o fyw?
Cynefin - Cymru ni | Oes mwy i Gymru na glo a chennin Pedr?
Llên Gwerin a'r Mabinogion: Ymweld â Llys Canoloesol Llywelyn | Sut beth oedd byw mewn Llys Brenhinol neu gastell yn ystod Oes y Tywysogion?
Siopa yng Nghymru yn y 1920au: Ymweliad â Siop Gwalia | Sut beth oedd siopa yng Nghymru cyn dyddiau’r archfarchnadoedd enfawr?
Gweithdai Dangos a Dweud yn Sain Ffagan | Dewiswch un o bedwar adeilad hanesyddol ac archwilio ei hanes trwy wrthrychau.
Ymwybyddiaeth Ofalgar a Chreadigrwydd: Taith ymwybyddiaeth ofalgar o amgylch Sain Ffagan | Ymunwch â ni am dro meddylgar o amgylch Sain Ffagan.
Teganau a Gemau o’r Gorffennol | Darganfyddwch pa deganau y mae plant yn chwarae gyda nhw yn y gorffennol.
Gwers Ysgol Fictoraidd: Ymweld ag Ysgol Maestir | Sut deimlad fyddai bod yn ddisgybl yn ystod Oes Fictoria?
Golchi Dillad yng Nghymru gyda Beti Bwt | Dewch i helpu Beti Bwt i olchi’i dillad yn y dull traddodiadol, cyn dyddiau’r peiriant golchi.
Mae ymweliadau ysgol ar gael o ddydd Llun i ddydd Gwener, yn ystod oriau agor.
Os hoffech chi neu'r disgyblion wybod beth i'w ddisgwyl ar ymweliad, gallwch archwilio ein Stori Weledol. Mae straeon gweledol yn ganllawiau gweledol ar gyfer grwpiau addysgol sy'n paratoi i ymweld.
Gallwch chi weld map digidol o’r Amgueddfa
Beth am edrych ar gael ymweliad rhithwir AM DDIM gan Sain Ffagan Amgueddfa Werin Cymru:
Ar hyn o bryd rydym yn cynnig pedwar gweithdy Rhithwir, Bedd y Milwr Celtaidd, Ffrynt Cartref, Ail Ryfel Byd, Teganau, Hawlio Heddwch a Amser Golch. Mae'r sesiynau hyn yn cael eu cyflwyno yn eich ystafell ddosbarth trwy Teams cyn neu ar ôl eich ymweliad!
Gallwch hefyd archwilio Sain Ffagan mewn 360° i helpu i baratoi disgyblion ar gyfer eu hymweliad.
I archebu neu i drafod y sesiwn ffoniwch (029) 2057 3424 neu e-bostiwch addysg.sainffagan@amgueddfacymru.ac.uk