Gweithdy Amgueddfa

Cwrdd â Gweithiwr y Felin

🔍 Darganfod ac archwilio

Camwch yn ôl mewn amser a chwrdd â Nansi, gweithiwr yn Ffatri Cambrian, a darganfod sut oedd bywyd yn y felin ac i deuluoedd yng nghefn gwlad Cymru. Drwy sesiwn ryngweithiol, bydd disgyblion yn archwilio gweithgareddau diwrnod golchi traddodiadol, gwrthrychau hanesyddol a’r arferion dyddiol oedd yn rhan o fywyd cyn cyfleusterau modern.

✏️ Cymryd rhan

Bydd disgyblion hefyd yn mwynhau taith dywys ac yn dysgu am fywyd a gwaith mewn melin wlân hanesyddol, yn gwylio peiriannau hanesyddol yr Amgueddfa ar waith gan grefftwyr medrus ac yn darganfod sut mae gwlân yn cael ei newid o ddafad i ddefnydd.

ℹ️ Ynglŷn â'r sesiwn hon

Mae staff yr amgueddfa yn hyblyg a byddant yn gwneud eu gorau i ddarparu ar gyfer oedran ac anghenion dysgwyr. Gall hyd y sesiynau amrywio. Os hoffech chi wneud gweithgaredd crefft yn lle taith, rhowch wybod i ni wrth archebu.

Manylion:

Uchafwsm 50 o disgybl

Oedrannau: Cam 2 (Oed 5-8)

Hyd: 2 awr
Tâl: Dan arweiniad staff yr Amgueddfa – am ddim.

Cwricwlwm

Y Celfyddydau Mynegiannol

  • Mae archwilio’r celfyddydau mynegiannol yn hanfodol er mwyn dyfnhau sgiliau a gwybodaeth gelfyddydol, ac mae’n galluogi dysgwyr i ddod yn unigolion chwilfrydig a chreadigol.
  • Mae ymateb a myfyrio, fel artist ac fel cynulleidfa, yn rhan hanfodol o ddysgu yn y celfyddydau mynegiannol.

Dyniaethau

Mae ymholi, archwilio ac ymchwilio yn ysbrydoli chwilfrydedd am gymuned leol dysgwyr, Cymru a'r byd, ei gorffennol, ei phresennol a'i dyfodol.

Amcanion dysgu:

  • Ennill dealltwriaeth ddyfnach o'r cysyniadau sy'n sail i'r dyniaethau, a'u cymhwyso mewn cyd-destunau lleol, cenedlaethol a byd-eang.
  • Cynefin: Annog cyfleoedd i ddysgwyr ddarganfod y diwydiant gwlân a chael eu hysbrydoli i ymchwilio i fwy am eu cymuned eu hunain a thu hwnt.
  • Annog ymchwiliad a darganfod.
  • Cyfle i fod yn chwilfrydig, cwestiynu, meddwl yn feirniadol a myfyrio ar dystiolaeth.
  • Ysgogi meddwl newydd a chreadigol.
Nansi
Gweithdy Ffeltio
Amgueddfa Wlân Cymru

Sut i archebu

I archebu neu i drafod y sesiwn ffoniwch 0300 111 2 333