Cwrdd â Nansi
🔍 Darganfod ac archwilio
Camwch yn ôl mewn amser a chwrdd â Nansi, gweithiwr yn Ffatri Cambrian, a darganfod sut oedd bywyd yn y felin ac i deuluoedd yng nghefn gwlad Cymru. Drwy sesiwn ryngweithiol, bydd disgyblion yn archwilio gweithgareddau diwrnod golchi traddodiadol, gwrthrychau hanesyddol a’r arferion dyddiol oedd yn rhan o fywyd cyn cyfleusterau modern.
✏️ Cymryd rhan
Bydd disgyblion hefyd yn mwynhau taith dywys ac yn dysgu am fywyd a gwaith mewn melin wlân traddodiadol, yn gwylio peiriannau hanesyddol yr Amgueddfa ar waith gan grefftwyr medrus ac yn darganfod sut mae gwlân yn cael ei newid o ddafad i ddefnydd.
ℹ️ Ynglŷn â'r sesiwn hon
Mae staff yr amgueddfa yn hyblyg a byddant yn gwneud eu gorau i ddarparu ar gyfer gwahanol oedrannau ac anghenion dysgwyr. Gall hyd y sesiynau amrywio. Os hoffech chi wneud gweithgaredd crefft yn lle taith, rhowch wybod i ni wrth archebu.
Mae ymweliadau ysgol ar gael o ddydd Mawrth i ddydd Gwener, yn ystod oriau agor. (Ar gau ar ddydd Llun).
Manylion:
Uchafwsm 50 o disgybl
Oedrannau: Cam 2 (Oed 5-8)
Cwricwlwm
Y Celfyddydau Mynegiannol
- Mae archwilio’r celfyddydau mynegiannol yn hanfodol er mwyn dyfnhau sgiliau a gwybodaeth gelfyddydol, ac mae’n galluogi dysgwyr i ddod yn unigolion chwilfrydig a chreadigol.
- Mae ymateb a myfyrio, fel artist ac fel cynulleidfa, yn rhan hanfodol o ddysgu yn y celfyddydau mynegiannol.
Dyniaethau
Mae ymholi, archwilio ac ymchwilio yn ysbrydoli chwilfrydedd am gymuned leol dysgwyr, Cymru a'r byd, ei gorffennol, ei phresennol a'i dyfodol.
Amcanion dysgu:
- Ennill dealltwriaeth ddyfnach o'r cysyniadau sy'n sail i'r dyniaethau, a'u cymhwyso mewn cyd-destunau lleol, cenedlaethol a byd-eang.
- Cynefin: Annog cyfleoedd i ddysgwyr ddarganfod y diwydiant gwlân a chael eu hysbrydoli i ymchwilio i fwy am eu cymuned eu hunain a thu hwnt.
- Annog ymchwiliad a darganfod.
- Cyfle i fod yn chwilfrydig, cwestiynu, meddwl yn feirniadol a myfyrio ar dystiolaeth.
- Ysgogi meddwl newydd a chreadigol.
Sut i archebu
I archebu neu i drafod y sesiwn ffoniwch 0300 111 2 333