Nadolig yn Amgueddfa Wlân Genedlaethol Cymru
🔍 Darganfod ac archwilio
Dewch i gwrdd â Nansi a darganfod traddodiadau’r Nadolig o’r gorffennol drwy straeon, gwrthrychau a gweithgareddau rhyngweithiol. Mae’r sesiwn hefyd yn cynnwys gweithdy crefft Nadoligaidd.
✏️ Cymryd rhan
Fel arfer, bydd y gweithdy crefft yn cynnwys creu addurn Nadolig ffelt syml, er y gall y gweithgareddau amrywio.
ℹ️ Ynglŷn â'r sesiwn hon
Mae’r sesiwn yn cyfuno gweithdy difyr gyda Nansi a gweithgaredd crefft Nadoligaidd, gan roi cyfle i ddisgyblion archwilio traddodiadau’r Nadolig o’r gorffennol.
Mae staff yr amgueddfa yn hyblyg a byddant yn gwneud eu gorau i ddarparu ar gyfer gwahanol oedrannau ac anghenion dysgwyr. Gall hyd y sesiynau amrywio. Mae'r elfen grefft fel arfer yn para 1 awr.
Mae ymweliadau ysgol ar gael o ddydd Mawrth i ddydd Gwener, yn ystod oriau agor. (Ar gau ar ddydd Llun).
Manylion:
Uchafswm o 50 disgyblion
Cam 2-3 (Oed 5-11)
Cwricwlwm
Y Celfyddydau Mynegiannol
- Mae archwilio’r celfyddydau mynegiannol yn hanfodol er mwyn dyfnhau sgiliau a gwybodaeth gelfyddydol, ac mae’n galluogi dysgwyr i ddod yn unigolion chwilfrydig a chreadigol.
- Mae ymateb a myfyrio, fel artist ac fel cynulleidfa, yn rhan hanfodol o ddysgu yn y celfyddydau mynegiannol.
Dyniaethau
Mae ymholi, archwilio ac ymchwilio yn ysbrydoli chwilfrydedd am gymuned leol dysgwyr, Cymru a'r byd, ei gorffennol, ei phresennol a'i dyfodol.
Amcanion dysgu:
- Ennill dealltwriaeth ddyfnach o'r cysyniadau sy'n sail i'r dyniaethau, a'u cymhwyso mewn cyd-destunau lleol, cenedlaethol a byd-eang.
- Cynefin: Annog cyfleoedd i ddysgwyr ddarganfod y diwydiant gwlân a chael eu hysbrydoli i ymchwilio i fwy am eu cymuned eu hunain a thu hwnt.
- Annog ymchwiliad a darganfod.
- Cyfle i fod yn chwilfrydig, cwestiynu, meddwl yn feirniadol a myfyrio ar dystiolaeth.
- Ysgogi meddwl newydd a chreadigol.
Sut i archebu
I archebu neu i drafod y sesiwn ffoniwch 0300 111 2 333