Gweithgaredd Addysg

Trychineb Aberfan

Fel rhan o Aberfan 60 rydyn ni wedi creu adnodd addysg i gefnogi plant ysgol i ddysgu hanes trychineb Aberfan a'i heffaith parhaus ar deuluoedd, cymunedau a Chymru gyfan. 

Drwy blethu gwrthrychau, straeon a deunydd archif o'n casgliadau mae'r adnoddau yn cynnwys deunydd addysg digidol, canllaw i athrawon a deunydd addysg proffesiynol. Mae'r cyfan yn rhan o Stori Cymru – rhaglen dan nawdd Adnodd a dan arweiniad Amgueddfa Cymru mewn partneriaeth â sefydliadau diwylliannol ar draws Cymru. Bydd mwy o adnoddau'n cael eu cyhoeddi yma dros yr wythnosau nesaf.

 

Gweithdy datblygiad proffesiynol

Hanesion sensitif: Trychineb Aberfan, 1966. 

Gweithdy datblygiad proffesiynol, delfrydol os ydych chi’n cynnal sesiynau hyfforddi ar ôl Ysgol. Mae’r gweithdy yma yn rhad ac AM DDIM. Fydd y gweithdy yma yn canolbwyntio ar sut i ddysgu trychineb Aberfan 1966, i arwyddocâd yn hanes Cymru a sut i gyflwyno hanesion sensitif yn y dosbarth.  

Yn ystod y gweithdy fe fyddwn yn:

  • Cefnogi athrawon I gyflwyno hanesion sensitif fel trychineb Aberfan i mewn I’r dosbarth.
  • Archwilio cyd-destun hanesyddol trychineb Aberfan.
  • Cyflwyno eitemau a hanesion llafar o archifau Amgueddfa Cymru ac Amgueddfa ac Oriel Celf Castell Cyfarthfa.
  • Trafod ffyrdd o gyflwyno hwn i ystod o oedrannau a chamau cynnydd mewn ffordd sensitif a feddyliol.
  • Darganfod adnoddau i ddefnyddio yn y dosbarth a phrofiadau sydd wedi datblygu i gefnogi’r Cwricwlwm i Gymru.

I ddarganfod mwy cysylltwch gyda ni: Learning.waterfront@museumwales.ac.uk / Learning.BigPit@museumwales.ac.uk

 
Cloc a adferwyd o drychineb Aberfan.