Mae'r cwcis hyn yn gwbl angenrheidiol ar gyfer weithrediad y wefan.
Rydym yn defnyddio Google Analytics i fesur sut ydych yn defnyddio'r wefan er mwyn i ni ei wella yn seiliedig ar angen defnyddwyr.
Gall y cwcis hyn gael eu gosod gan wefannau trydydd parti a gwneud pethau fel mesur sut rydych yn gwylio fideos YouTube.
Rhaid i ysgolion a grwpiau archebu ymlaen llaw. Ffoniwch (029) 2057 3546 i gadw lle (Llun-Gwen 10.00am — 2.00pm).
E-bost: addysg.rhufeinig@amgueddfacymru.ac.uk
Byddwn yn anfon cadarnhad ysgrifenedig o’ch archeb wedyn. Cofiwch ddarllen hwn yn ofalus.
Codir tâl am sesiynau sy'n cyd-fynd â'r cwricwlwm, a sydd dan arweiniad staff yr amgueddfa. Mae pedwar pris gwahanol (heb gynnwys TAW):
Mae grwpiau Anghenion Addysgol Arbennig yn gymwys ar gyfer sesiynau am ddim.
Deiliad Bathodyn Ansawdd.
Anfonir anfoneb i’ch ysgol ar ôl diwrnod yr ymweliad. Nid yw’r prisiau yn cynnwys TAW ond gall y rhan fwyaf o ysgolion ei hawlio’n ôl gan eu Hawdurdod Lleol.
Os caiff ymweliad ei ganslo wedi 10am ar y diwrnod blaenorol, neu os yw grŵp yn hwyr yn cyrraedd ac yn colli eu sesiwn, bydd yn rhaid talu’r pris llawn. Gellir codi tâl trafod o £25 am ganslo neu newid archeb. Os yw eich amgylchiadau’n newid, cysylltwch â’r tîm Addysg cyn gynted â phosibl er mwyn i ni roi eich lle i grŵp arall. Ffôn (029) 2057 3546. Gadewch neges ar y peiriant ateb os yw’r llinell yn brysur.
Rydym ar agor saith diwrnod yr wythnos a’r rhan fwyaf o wyliau banc, rhwng 10am a 4pm.
Mae gwybodaeth iechyd a diogelwch i’ch helpu i gwblhau’ch asesiad risg ar gael
Rhaid i rywun oruchwylio grwpiau o blant 16 oed ac iau bob amser.
Cymarebau oedolyn/plentyn:
Yr Adran Addysg a Sgiliau sydd wedi awgrymu’r cymarebau hyn. Dylai arweinwyr grwpiau asesu’r risgiau ac ystyried lefel oruchwylio ddiogel ar gyfer eu grwpiau nhw.
Mae lle parcio i fysiau ger yr Amffitheatr. Mae rhai o’r ffyrdd a’r palmentydd yng Nghaerllion yn gul iawn ac mae’r traffig yn gallu bod yn drwm yn ystod y dydd, felly cymerwch ofal wrth symud grwpiau o le i le.
Gweler Hygyrchedd i Grwpiau - Amgueddfa Lleng Rufeinig Cymru a Stori Weledol: Taith i Gaerllion y Rhufeiniaid am gymorth i gynllunio'ch ymweliad.
Os byddwch chi’n hwyr yn cyrraedd, rhowch wybod i ni drwy ffonio (029) 2057 3550.
Mae canllawiau mynediad Cadw ar gael yn www.cadw.llyw.cymru neu drwy ffonio (029) 2050 0200
Bydd y rhan fwyaf o’ch ymweliad dan do. Er hynny, dewch â dillad addas ar gyfer pob math o dywydd. Mae’r Amffitheatr a’r Barics yn gallu bod yn fwdlyd iawn yn ystod y gaeaf, felly dylid gwisgo esgidiau addas. Ychydig iawn o gysgod sydd yn y safleoedd awyr agored pan fo’r haul yn tywynnu.
Bydd staff yn barod i’ch croesawu wrth brif fynedfa’r Amgueddfa. Byddant yn cadarnhau manylion eich ymweliad ac yn ateb unrhyw gwestiynau sydd gennych. Byddwn angen gwybod faint yn union o ymwelwyr sydd yn eich grŵp.
Mae amserlen eich ymweliad yn cynnwys seibiant i ginio. Byddwn yn darparu ystafell addas yn yr Amgueddfa er mwyn i grwpiau fwyta cinio. Gallwch fwyta cinio yn yr ardd os yw’n braf. Ewch â’ch sbwriel adref gyda chi. Dim bwyta nac yfed yn Oriel yr Amgueddfa.
Mae un tŷ bach â mynediad i bobl anabl, gyda lle i newid babanod, yn Oriel yr Amgueddfa. Mae tai bach i ddynion a menywod sy’n addas i blant yng Nghanolfan Capricorn yn ogystal â thŷ bach i’r anabl gyda chyfleusterau babanod. Y tu allan, mae tioled cyhyhoeddus drws nesaf i’r Amffitheatr.
Mae map ar gael o dderbynfa’r Amgueddfa.
Mae croeso i ymwelwyr ddefnyddio’r ystafell gotiau ger desg y brif dderbynfa wrth weithio yn Oriel yr Amgueddfa. Mae lle i gadw cotiau a bagiau yng Nghanolfan Capricorn hefyd.
Mae croeso i ymwelwyr dynnu lluniau at ddibenion personol gydol yr ymweliad.
Peidiwch â defnyddio’ch ffôn symudol yn yr Orielau er cwrteisi i ymwelwyr eraill.
Mae’r siop yn gwerthu pob math o nwyddau amrywiol fel teganau bach, llyfrau a chardiau post. Helpwch i oruchwylio’ch grŵp drwy sicrhau nad oes mwy na 6 phlentyn yn y siop ar y tro.
Cofiwch gadw llygaid ar blant a phobl ifanc dan 16 oed drwy’r adeg.
Dim ysmygu yn unrhyw un o’n hadeiladau.
Mae’r rhain ar gael i athrawon neu arweinwyr grwpiau sydd am gynefino â’r Amgueddfa. Ffoniwch i drefnu ymlaen llaw os ydych chi’n dymuno siarad ag aelod o’r tîm Addysg ar ddiwrnod eich ymweliad rhagflas.
Os bydd angen cymorth cyntaf, cysylltwch ag un o gynorthwywyr neu Hwyluswyr yr Amgueddfa, a fydd yn galw am rywun sydd wedi cael hyfforddiant cymorth cyntaf.
Dylai arweinwyr grŵp gysylltu â’r tîm Addysg os oes gan aelod o’r grŵp unrhyw anghenion meddygol penodol.
Os bydd tân, bydd larwm yn canu, a dylai’ch grŵp adael yr adeilad drwy ddilyn yr arwyddion i’r allanfa dân agosaf. Cewch gyfarwyddiadau gan aelod o’r staff.
Byddwch yn ymweld â mwy nag un safle, felly cofiwch gadw’r grŵp gyda’i gilydd. Dywedwch wrth y plant i roi gwybod i aelod o’r staff os ydyn nhw ar goll. Os bydd arweinydd grŵp yn sylweddoli bod un o’r grŵp ar goll, dylai gysylltu ag aelod o’r staff ar unwaith.
Mae polisi amddiffyn plant yr Amgueddfa ar gael yma .