Pan Ymosododd y Llychlynwyr ar Ogledd Cymru
Mae cofnodion hanesyddol yn sôn am gyfres o ymosodiadau brawychus gan oresgynwyr Llychlynnaidd ar arfordiroedd Prydain, Ffrainc a'r Iwerddon yn negawd olaf yr 8fed ganrif.
Digwyddodd y cyrch cyntaf ar Gymru i gael ei gofnodi yn 852, a gwyddwn i'r Llychlynwyr ymosod ar Ynys Môn a Gwynedd o 854 ymlaen. Rhodri Mawr, Brenin Gwynedd (844-78) oedd arweinydd y gwrthsafiad i'r ymosodiadau hyn, ac fe laddodd bennaeth y Daniaid, Gorm, yn 855.
Yn 903 daeth y Llychlynwyr i Ynys Môn wedi iddynt gael eu herlid o Ddulyn. Yn ôl cofnodion y Gwyddelod a'r Cymry, methiant fu eu hymdrechion i sefydlu troedle yng Nghymru, a bu'n rhaid iddynt hwylio ymlaen i Gaer. Anrheithiwyd Ynys Môn gan y Llychlynwyr eto yn 918.
Bu ymosodiadau cyson ar yr ynys yn ystod ail hanner y 10fed ganrif; adeiladodd Olaf o Ddulyn gastell o'r enw 'Castell Olaf' neu 'Castell Bon y Dom' tua'r flwyddyn 1000.
Bellach, mae'r darlun hanesyddol unochrog hwn o'r Llychlynwyr yn brawychu'r wlad wedi cael ei drawsnewid gan archeoleg. Roedd y Llychlynwyr yn sicr yn elyniaethus a threisgar ar brydiau, ond gweld eu cyfle a wnaent yn aml. Mewn rhai ardaloedd, ymsefydlodd y Llychlynwyr yn amaethwyr heddychlon, a dengys tystiolaeth archeolegol eu bod yn wladychwyr, masnachwyr, a chrefftwyr medrus.
Hyd heddiw, natur ymsefydliad y Llychlynwyr yng Nghymru, ac ar Ynys Môn yn enwedig, yw un o ddirgelion mwyaf archeoleg yr Oesoedd Canol cynnar. Amlygir hyn wrth blotio'r mesuriad Llychlynnaidd - 'un diwrnod o hwylio' o Ynys Manaw, Dulyn, Caer a Chilgwri, gan eu bod i gyd yn cyfarfod yn nyfroedd Ynys Môn.
Y Llychlynwyr yn enwi Ynys Môn
Mae'r dystiolaeth ffisegol am y Llychlynwyr yng Nghymru'n llai pendant, hyd yn oed. Gwyddom fod y Llychlynwyr yn gyfarwydd ag Ynys Môn oherwydd rhoddwyd enwau o darddiad Sgandinafaidd i'r nodweddion arfordirol amlwg a ddefnyddiwyd ganddynt fel cymorth wrth fordwyo: Onguls-ey ei hun, sy'n ymgorffori enw personol yn ôl y traddodiad - arweinydd Llychlynnaidd mae'n debyg, The Skerries (Ynysoedd y Moelrhoniaid), Piscar, Priestholm (prestaholmr) ac Osmond's Air ger Biwmares, sy'n tarddu o'r enw Asmundr & eyrr, traethell raean ger y môr.
Dadorchuddio tystiolaeth o'r Llychlynwyr yng Nghymru
Am ddarlun mwy gwirioneddol o'r
Llychlynwyr yng Nghymru, rhaid troi at archeoleg. Darganfuwyd y rhan fwyaf o'r darnau arian Llychlynnaidd a ganfuwyd yng Nghymru mewn ardaloedd arfordirol. Canfuwyd dau gelc ym mynachlog Sant Deiniol, Bangor, un yn dyddio o tua 925, a grŵp bach o geiniogau a osodwyd yno tua 970. Gosodwyd celc ceiniogau Bryn Maelgwn, ger Llandudno yn y 1020au canol, ac fe allai fod yn ysbail Lychlynnaidd yn hytrach na chynilion lleol; ac fe ganfuwyd celc hynod o bum breichdorch arian cyflawn yn y 19eg ganrif ar Draeth Coch, Ynys Môn.Anheddiad Oes y Llychlynwyr yn Llanbedrgoch
Un o'r safleoedd archeolegol mwyaf diddorol o gyfnod y Llychlynwyr yw
Llanbedrgoch, ar Ynys Môn, ac mae gwaith ymchwil gan Amgueddfa Cymru wedi cyfrannu tuag at ddatgelu natur bywyd yn Oes y Llychlynwyr, sydd wedi bod yn ddirgelwch i ysgolheigion ers degawdau.
sylw - (6)
Today is Gary Hocking's birthday and was looking up info about his birthplace and whether Vikings settled there as I think I have roots. Told my spouse about the disease and he said that he has it n showed me how his pinky finger is curling up! He is Swedish!
Happy Birthday Gary Hocking..
http://hamley.blogspot.com/p/remembering-gary-hocking-1937-1962.html
I also have an hereditary illness called antitrypsyn deficiency.. Alpha-1 for short. It's known as the Viking disease. As they say it was a mutant gene which they bought over. Which affects lungs, and also liver.