Ffotograffau byllau glo John Cornwell Ffotograffydd ar ei liwt ei hun oedd John Cornwell. Yn y saithdegau a'r wythdegau cynnar, tynnodd nifer o ffotograffau o byllau glo, yn Ne Cymru a Chanolbarth Lloegr yn bennaf, a hynny ar yr wyneb a danddaear.Perffeithiodd dechneg o dynnu ffotograffau danddaear oedd yn defnyddio goleuadau cyffredin pwll glo, gan alluogi iddo dynnu lluniau hynod eglur o dalcenni glo, twnneli, siafftiau ac offer. Yn ogystal â thynnu ffotograffau mewn pyllau gweithredol, byddai hefyd yn cofnodi gweithfeydd segur, ar yr wyneb a danddaear.Roedd John Cornwell hefyd yn uchel ei barch ym maes archaeoleg ddiwydiannol. Cyhoeddodd nifer o lyfrau ar byllau glo Cymru a Lloegr.Mae hawlfraint ei ddelweddau o dde Cymru bellach ym meddiant Amgueddfa Genedlaethol Cymru.Lawrlwytho'r catalog i'r Casgliad Cornwell [PDF 4.7MB] Lluniau John Cornwell Pwll Glo Tirpentwys 1979 Pwll Glo Six Bells, 1979 Pwll Glo Oakdale, locomotif trydanol ger gwaelod y pwll, tua 1978 Pwll Glo Oakdale, gweithiwr y cludfelt glo, tua 1978 Pwll Glo Gogledd Celynen, 1975 Iard Pwll Glo Markham, 1977 Pwll Glo Marine, 1980 Pwll Glo Marine, 1974, locomotif o'r 'Gorllewin Gwyllt' - y 'Western Consort'. Pwll Glo Llanhilleth, y fframwaith ar ben siafft rhif 2, 1975. Pwll Glo Hafodyrynys, locomotif trydanol yn y fynedfa i'r pwll ym 1968. Pwll Glo Cwmtyleri, gwaith bric addurnedig ar adeilad ffan awyru, 1980 Gwaelod Pwll Glo Cwmtyleri, 22 Tachwedd 1977 Pwll Glo De Celynen, 1978. Gwaelod Pwll Glo Blaenserchen ym 1979 gyda chyflenwadau a thram o wastraff. Pwll Glo Blaenserchan ym 1973. Pwll Glo Coegnant 1978, talcen postyn a bar. Pwll Glo Wyndham, tua 1975 Pwll Glo Wyndham /Western, trofwrdd ger gwaelod y pwll, tua 1979 Pwll Glo Treforgan gyda shifft y prynhawn yn aros i fynd i lawr, 1979 Pwll Glo St John, torrwr Anderson Strathclyde, tua 1979 Goruchwylwyr yn archwilio torrwr ar y Wythïen Chwe Throedfedd, Pwll Glo Brynlliw, 15 Rhagfyr 1977 Traphont goncrit fodern yn cysylltu'r pwll glo gyda'r olchfa, Pwll Glo Blaengwrach, tua 1977 Pwll Glo Graig Merthyr, rhes o dramiau yng ngwythïen Graigola - noder y to tywodfaen heb gynhaliaid, tua 1977 Iard Pwll Glo Graig Merthyr ym 1977 gyda rhes hir o dramiau'n aros i fynd i mewn i'r pwll. Pwll Glo Garw ym 1977, gyda'r pentref yn y cefndir. Pwll Glo Cefn Coed, 1973, tŷ injan a fframwaith pen y siafft am i lawr. Tŷ injan Pwll Glo Cefn Coed ar gyfer yr injan Markham ar y siafft am i fyny ym 1973. Aberpergwm, 1972, mynedfa i'r gloddfa ddrifft newydd. Pwll Glo Abernant, glöwr mewn gorsaf bwmpio ar waelod y pwll, 1978 Pwll Glo Aberpergwm, peiriant torri ffordd Dosco a ffan ategol, tua 1978 Pwll Glo Tŷ Mawr, olion ffwrnais awyru danddaearol sy'n dyddio'n ôl i ddiwedd y 1870au. Pwll Glo Tŵr, 'Rex' gyda'i ostler, 1979. Pwll Glo Taff Merthyr, peiriant torri ffordd Dosco ac awyru ategol, 1979. Pwll Glo Taff Merthyr ddiwedd y 1970au. Gwaelod Pwll Glo Penrhiwceiber, 1978. Pwll Glo Nantgarw, 1978, torrwr drwm Anderson Strathclyde yn torri glo ar y talcen glo. Siafft am i lawr Pwll Glo Merthyr Vale, tua 1980 Pwll Glo Maerdy, 1977, certi gwag yn aros ar ben y pwll. Pwll Glo Lewis Merthyr, 1977, cynhaliaid y to hydrolig yn yr iard yn disgwyl cael eu cludo o dan y ddaear. Pwll Glo Lady Windsor, locomotif stêm gyda'r siafft yn y cefndir, 1977 Pwll Glo Ffaldau, 1977, pen y pwll. Pwll Glo Fernhill, braich fawr torrwr hydrolig AB 15 ar dalcen glo hir â phrenau hyd-ddo. Glofa Deep Navigation, y fframwaith am i lawr, tua 1978 Glofa Deep Duffryn, dau weithiwr yn archwilio'r siafft o do'r gawell, 1977-78. Pwll Glo Bargoed, 20 Mai 1977. Pwll Glo Morlais, golwg gyffredinol yn edrych tua'r dwyrain ar draws yr Afon Llwchwr, 1978. Pwll Glo Morlais, golwg gyffredinol, noder yr orsaf bwmpio segur, 1978 Pwll Glo Cynheidre, tramiau glo mewn man llwytho tanddaearol, tua 1978 Pwll Glo Cynheidre, y brif ffordd gyda chludfelt cyflym, tua 1978 Pwll Glo Cwmgwili, 1978, shifft y prynhawn yn aros i gael eu cludo o fynedfa'r pwll. Pwll Glo Cwmgwili, 1978, Llwythwr a gweithredwyr yn barod i ddechrau gwaith. Pwll Glo Betws, shifft y prynhawn yn aros am y trên cludo gweithwyr, tua 1976 Pwll Glo Cwmgwili, ffordd gludo gyfan yn cael ei chynnal gan brenau, 1978 Pwll Glo Rhydaman, 1974, Mr P.A. Jones, Swyddog Diogelwch, yn archwilio'r to yn y talcen glo diwethaf. Pwll Glo Rhydaman, 1974, Gerald Gibson yn drilio twll bach yn y talcen. Pwll Glo Rhydaman, 1974, tramiau gwag yn cael eu gostwng i mewn i'r slant. Dau o lowyr Blaenafon yn yr iard bren ar ddiwedd shifft y bore, 1978. Rheolwr Big Pit, Glyn Morgan, yn siarad â Billy 'Pigeon' Preece (eistedd), Big Pit 1975 Ffordd newydd o'r fynedfa gyda chludfelt yn cludo'r glo o Wythïen Garw, Big Pit 1975. Diwrnod olaf Glyn Morgan, Rheolwr diwethaf y Bwrdd Glo Cenedlaethol, ar 28 Tachwedd 1980. Cyffordd ger gwaelod y pwll, Big Pit 1975, bellach yn rhan o daith danddaearol yr Amgueddfa. Golwg gyffredinol o'r wyneb, Big Pit 1975. Lefel yr efail, a grëwyd tua 1812, a ymgorfforwyd yn ddiweddarach i weithfeydd tanddaearol Big Pit. Ceffyl y pwll glo yn dychwelyd i stablau'r wyneb yn Big Pit o'r Olchfa ym 1968. Bill Gunter, swyddog diogelwch Big Pit, ar dalcen G11 ym 1979 Bill Gunter yn sefyll yn y fynedfa fwaog i Lethr Dick Kear, tua 1820. Big Pit. Swyddog y pwll glo yn archwilio rhan o gawell y peiriant cydbwysedd dŵr, yn agos i waelod y pwll yn Big Pit, 1975 sylw - (69) Nid yw sylwadau ar gael ar hyn o bryd. Ymddiheuriadau am yr anghyfleustra. Tudalennau 1 2 3 4 5 6 7 Mark Williamsg 19 Ebrill 2022, 12:28 Great photos love looking back I worked at oakdale and taff merthyr have you any photos I could get. Regards mark Lewis Powell 3 Mawrth 2022, 13:26 Loved the photos I’m trying to get photos of Yorkshire pits such as Middleton broom loft house rothwell and alerton bye water as these are the pits I worked at from 1965 to 1985 Lewis Powell Lewis Powell 3 Mawrth 2022, 13:26 Loved the photos I’m trying to get photos of Yorkshire pits such as Middleton broom loft house rothwell and alerton bye water as these are the pits I worked at from 1965 to 1985 Lewis Powell Ceri Thompson Staff Amgueddfa Cymru 1 Chwefror 2022, 15:05 Dear Lewis Powell I’m afraid that we only collect images of Welsh collieries, it might be worth contacting the National Coal Mining Museum for England, Caphouse Colliery, Wakefield to see what they have in their collections. Best wishes Ceri Thompson, Curator, Big Pit: National Coal Museum Lewis Powell 31 Ionawr 2022, 18:53 Any photos of Middleton broom rothwell collerley loft house colleriey and alerton by water colleriey please John Steven 17 Ionawr 2022, 20:32 What a stunning collection of photographs which I’m enjoying looking through with great interest. Ceri Thompson, Curator of Coal Staff Amgueddfa Cymru 2 Mawrth 2021, 10:31 Dear Mr Wray I don’t think that the compensation was for the same accident. Another John Lewis was killed on 16th January 1903 under a fall of coal at Castle Pit which was owned by the Plymouth Company. The compensation probably refers to this incident. If I can be of any further help, please let me know. Best wishes Ceri Philip Wray 26 Chwefror 2021, 14:27 On 10 June 1900 John Lewis of 30 Bridge Street Troedyrhiw Merthyr was killed while working at the Plymouth Colliery Level according to a news report.There was an inquest during which it was stated that he was working at the Clynmill Coal Level belonging to the Plymouth Company.On 3 April 1903 an Ann Lewis (John's widow was named, Ann) and her children received a compensation award of £300 from Messrs Crawshay Brothers Cynfarthfa Ltd following the death of her husband.I'd be grateful for your observations, please, about 1) whether this payment was for John's accident (I can't tie Clynmill to the Crawshays) and 2) in exactly which colliery did the accident occur. An OS map dated shows the Clyn mil Pits levels 1 and 2 being disused. David Lee 13 Rhagfyr 2020, 12:10 I worked in the mining industry in North Derbyshire all my working life, and find the photos and comments very interesting. A question for Nia Evans. Were the memories of Faith Anderson's Grand Father ever made public ? I would be extremely interested to read them if possible. Alcwyn Elliott 30 Hydref 2020, 16:22 Great photographs, I have worked at many of these mines in South wales working on installing training and repairing the AB shearers that cut the coal on the Longwall. Some of these mines were Big Pit, Marine Lady Windsor Bargoed Britannia Bedwas Six Bells, Nantgarw, Merthyr Vale Tafff Merthyr, the list goes on.I started at Bargoed Pit and moved on from there to Anderson Mavor (Anderson Boyes eventually Anderson Strathclyde)Ystrad Mynach College gave me the education I needed for my career.Now retired with 45 years in coal mines. Tudalennau 1 2 3 4 5 6 7