Diwydiant, diwylliant – cyfraniad chwiorydd Gregynog i Gymru

Gwendoline Davies (1882-1951)
Gwen, y chwaer hynaf, a'r mwyaf penderfynol a meddylgar, a oedd hefyd yn gerddor medrus.

Margaret Davies (1884-1963)
Daisy, y chwaer iau, mwy ymarferol, a oedd hefyd yn arlunydd ac yn ysgythrwr rhagorol.

Neuadd Gregynog

David Davies (1818-1890)
Mae'r llun yn ei ddangos yn gorffwys am ennyd prin. Casgliad preifat (Lord Davies)

'The Loan Exhibition of Paintings' a gynhaliwyd yn yr amgueddfa genedlaethol dros dro yn Neuadd Dinas Caerdydd yn 1913.

Roedd dwy chwaer o'r canolbarth, o'r enw Gwendoline (1882-1951) a Margaret Davies (1884-1963), ymhlith y cyntaf ym Mhrydain i gasglu darluniau'r Argraffiadwyr a'r Ôl-Argraffiadwyr Ffrengig. Gadawodd y ddwy eu casgliadau celf rhagorol i Amgueddfa Cymru, gan drawsnewid amrywiaeth ac ansawdd casgliad celf cenedlaethol Cymru'n llwyr.

Y chwiorydd Davies oedd y cyfranwyr mwyaf at gasgliadau'r Amgueddfa yn ystod ei chanrif gyntaf. Cafodd eu delfrydiaeth a'u haelioni effaith hynod ar fywyd diwylliannol a deallusol Cymru, ac rydyn ni'n dal i weld effeithiau hyn heddiw.

Etifeddiaeth ddiwydiannol David Davies

Roedd Gwendoline a Margaret Davies yn wyresau i David Davies, Llandinam, un o entrepreneuriaid mwyaf Cymru'r bedwaredd ganrif ar bymtheg. Adeiladodd ran helaeth o system reilffyrdd y canolbarth, ac roedd yn un o arloeswyr mawr diwydiant glo'r de.

Creodd David Davies ffortiwn anferth. Bu farw ym 1890, ac fe'i holynwyd gan ei fab, Edward. Yn eu tro, etifeddodd Gwendoline, Margaret a'u brawd, David, yn ddiweddarach Arglwydd Davies y Cyntaf, y stad.

Magwraeth a phlentyndod

Ganed Gwendoline a Margaret ym 1882 a 1884, a llywiwyd eu plentyndod gan gredoau llym Methodistiaeth Galfinaidd. Cawsant eu dysgu bod dyletswydd arnynt fel Cristnogion i ddefnyddio'r cyfoeth mawr y byddent yn ei etifeddu er daioni.

Ar ôl cael addysg flaengar dda, datblygodd y ddwy gariad ddofn at gelf a cherddoriaeth. Gan fod hanes celf yn ei fabandod ym Mhrydain, astudiodd y chwiorydd yn yr Almaen a'r Eidal, cyn mynd ati i ddechrau casglu gweithiau celf.

Roeddent yn anghyffredin o wybodus ynglŷn â'r celfyddydau, yn enwedig o ystyried mai merched bonedd oeddent.

Dechrau casglu celf

Dechreuodd y chwiorydd gasglu celf o ddifrif ym 1908. Ymhlith y gweithiau cyntaf a brynwyd ganddynt roedd tirluniau o waith Corot, golygfeydd gwerinol o waith Millet a'r Storm a'r Bore wedi'r Storm o waith Turner.

Casglodd y ddwy bron i gant o ddarluniau a cherfluniau yn ystod eu chwe blynedd cyntaf o gasglu. Roedd eu chwaeth yn ddigon traddodiadol i gychwyn, ond ym 1912, trodd y ddwy at brynu gweithiau'r Argraffiadwyr.

Argraffiadaeth

Ar y cyfan, roedd y gweithiau Argraffiadol yn rhatach na'r gweithiau roedden nhw wedi bod yn eu prynu gan artistiaid fel Turner a Corot.

Prynodd Gwendoline ei pheintiad pwysicaf, La Parisienne, am £5,000 ym 1913.

Effaith y Rhyfel Mawr

Cafodd y Rhyfel Byd Cyntaf effaith sylweddol ar fywydau Gwendoline a Margaret. Bu'r ddwy'n gweithio gyda'r Groes Goch yn Ffrainc, ond llwyddodd y ddwy i ychwanegu at eu casgliad yn ystod y blynyddoedd hyn gan brynu gweithiau gan Daumier, Carrière, Renoir, Manet a Monet. Ym 1916 gwariodd Gwendoline Davies £2,350 ar ddeg peintiad olew a darlun o waith Augustus John

Ym 1918, prynodd Gwendoline ddau dirlun enwog o waith Cézanne, Argae François Zola a Thirlun ym Mhrofens,rhai o'i gweithiau pwysicaf a mwyaf craff.

Casglu ar ôl y Rhyfel Mawr

Ym 1920, prynodd Gwendoline rhai o'i gweithiau ceinaf efallai, sef Bywyd Llonydd â Thebot gan Cézanne am £2,000 a Glaw — Auvers gan Van Gogh am £2,020.

Talodd y chwiorydd symiau mawr am weithiau'r Hen Feistri hefyd, gan gynnwys Y Forwyn a'r Plentyn gyda Phomgranad o waith Botticelli.

Gwelwyd lleihad sydyn yn eu gwaith casglu ar ôl hynny. Ym 1921, ysgrifennodd Gwendoline pam nad oedd modd iddynt barhau i brynu gymaint 'oherwydd yr angen dychrynllyd sydd ym mhob man'.

Er hynny, fe wariodd y chwiorydd dros £2,000 ar Goleufa o waith Turner ym 1922 a £6,000 ar Ddadwisgo Crist o weithdy El Greco ym 1923. Ym 1926 rhoddodd Gwendoline y gorau i gasglu'n llwyr.

Gregynog: canolfan i'r celfyddydau, cerddoriaeth a chrefftau

Cefnogodd y ddwy lawer o fentrau cymdeithasol, economaidd, addysgol a diwylliannol yng Nghymru yn ystod y 1920au a'r 1930au.

Ym 1920 prynodd y chwiorydd Neuadd Gregynog i'w sefydlu fel canolfan i'r celfyddydau a cherddoriaeth yng Nghymru. Ym 1922, sefydlwyd Gwasg Gregynog yno lle argraffwyd rhai o lyfrau ceinaf Prydain rhwng y ddau ryfel. Roedd Gregynog yn cydategu'r Amgueddfa Gelf a Chrefft yr oedd y chwiorydd eisoes wedi helpu i'w chreu yn Aberystwyth.

Cynhaliwyd Gwyliau Cerdd a Barddoniaeth poblogaidd yng Ngregynog tan ddechrau'r rhyfel ym 1939, pan drodd y chwiorydd eu sylw at ymdrech y rhyfel unwaith eto.

Gregynog — diwedd cyfnod

Pan fu farw Gwendoline ym 1951, daliodd Margaret ati â'r gweithgareddau y gallai barhau â nhw yn ystod ei blynyddoedd olaf. Ond heb Gwendoline, y 'prif grëwr ac ysbrydolwr', ni ddaeth oes aur Gregynog fyth yn ôl. Y flwyddyn cyn ei marwolaeth, cyflwynodd Margaret y tŷ a'r gerddi i Brifysgol Cymru i'w defnyddio fel canolfan gynadledda breswyl.

Troi casgliad personol yn un preifat

Ym mis Hydref 1951, cyhoeddodd yr Amgueddfa Genedlaethol ei bod wedi derbyn cymynrodd 'y diweddar Miss Gwendoline Davies'. Dyma un o'r rhoddion mwyaf gwerthfawr i gasgliad cyhoeddus ym Mhrydain mewn blynyddoedd diweddar.

Daliodd Margaret Davies ati i gasglu gweithiau celf tan ychydig cyn ei marwolaeth ym 1963, gan ganolbwyntio'n bennaf ar waith gan artistiaid Prydeinig modern, a llawer ohonynt yn Gymry. Gadawodd ei gweithiau hithau hefyd i'r Amgueddfa, a phrynodd nifer o'r gweithiau diweddarach gyda'r Amgueddfa mewn golwg.

Ym 1963, ymunodd cymynrodd Margaret o 152 o weithiau â chymynrodd ei chwaer. Gyda'i gilydd, trawsnewidiodd gweithiau'r chwiorydd ein casgliad celf cenedlaethol yn llwyr.

Nodiadau ar y lluniau

Jean-Baptiste Camille Corot

(1796–1875), Castel Gandolfo, Bugeiliaid o’r Tyrol yn dawnsio ger Llyn Albano, olew ar gynfas, 1855–60

Disgrifiwyd y gwaith hwn fel un o gampweithiau Corot ar y pryd. Talodd Gwendoline £6,350 amdano ym 1909. Roedd Margaret wedi cofnodi gweld 'sawl darn hyfryd o waith Corot' yn y Louvre yn gynharach yn yr un flwyddyn.

Amgueddfa Cymru (Cymynrodd Gwendoline Davies, 1951) NMW A 2443.

Jean-François Millet

(1814–1875), Merch y Gwyddau yn Gruchy, olew ar gynfas, 1854–6

Prynodd Gwendoline a Margaret nifer o weithiau gan artistiaid Ysgol Barbizon yn ystod blynyddoedd cyntaf eu gwaith casglu. Millet oedd un o ffefrynnau'r chwiorydd.

Amgueddfa Cymru (Cymynrodd Gwendoline Davies, 1951) NMW A 2479.

J.M.W. Turner

(1775–1851), Y Bore Wedi’r Storm, olew ar gynfas, tua 1840–5

Prynodd Gwendoline y llun yma am £8,085 ym mis Tachwedd 1908, a phrynodd Margaret Y Storm oedd yn cyd-fynd ag ef. Mae'n debyg i storm fawr 21 Tachwedd 1840 ysbrydoli'r ddau lun.

Amgueddfa Cymru (Cymynrodd Gwendoline Davies, 1952) NMW A 434.

Claude Monet

(1840–1926), San Giorgio Maggiore yn y Gwyll, olew ar gynfas, 1908

Teithiodd y chwiorydd i Fenis ym 1908 a 1909. Mae'r llun yn dangos eglwys San Giorgio Maggiore gan y pensaer Palladio fel silwét porffor yn y gwyll. Talodd Gwendoline £1,000 amdano ym mis Tachwedd 1912.

Amgueddfa Cymru (Cymynrodd Gwendoline Davies, 1951) NMW A 2485.

Nid yw sylwadau ar gael ar hyn o bryd. Ymddiheuriadau am yr anghyfleustra.