Shirley Jones a Gwasg Red Hen

John R. Kenyon

Shirley Jones, Nocturne for Wales (1987). Glofa Cwmparc, Cwm Rhondda. (c) Shirley Jones

Shirley Jones, Llym Awel (1993). Cigfran yn pesgi ar y meirw wedi brwydr. (c) Shirley Jones

Shirley Jones, A Thonnau Gwyllt y Môr / And the Wild Waves of the Sea(2011). Worm's Head, Penrhyn Gŵyr. (c) Shirley Jones

Caiff 'llyfr artist' ei greu neu ei lunio gan artist unigol, a gwaith Shirley Jones yw rhai o'r esiamplau cyfoes gorau o Gymru.

Fe'i ganwyd yng Ngwm Rhondda, ac wedi astudio llenyddiaeth Saesneg yng Nghaerdydd, dilynodd Shirley Jones gyrsiau creu printiau yn y 1970au cynnar cyn astudio printio ymhellach yng Ngholeg Celf Croydon ym 1975-76. Sefydlodd stiwdio ei hun a dechrau cynhyrchu llyfrau ym 1977, ac ym 1983 lansiodd yr argraffnod Gwasg Red Hen. Ym 1994 symudodd yn ôl i Gymru a sefydlu stiwdio yn Llanhamlach, Ger Aberhonddu.

Ei gwaith ei hun bron yn gyfangwbl yw'r llyfrau y bydd Shirley Jones yn eu cynhyrchu. Mae'r testun yn aml yn cynnwys cerddi ac atgofion personol neu gyfieithiadau o Gymraeg a Hen Saesneg hyd yn oed, a'r cyfan wedi'i brintio ar bapur wedi'i wneud â llaw neu fowld. Mae'r llyfrau wedi'u rhwymo, a rhai wedi'u cadw mewn bocsys unigryw, pob un wedi'i greu gan rwymwyr profiadol. Bychan mewn nifer oedd ei hargraffiadau cyntaf. Er enghraifft, roedd ei gwaith cyntaf fel myfyrwraig, Words and Prints (1975), yn argraffiad chwe chopi yn unig. Cynhyrchodd ddeuddeg copi o'i hail lyfr, Windows (1977), a phum copi ar hugain o'i thrydydd llyfr, The Same Sun (1978). Cynhyrchodd ddeugain copi o Greek Dance (1980), ac mae'r rhan fwyaf o'i gweithiau diweddar wedi ymddangos mewn niferoedd rhwng pump ar hugain a hanner cant. Prif atyniad ei llyfrau yw ei darluniau, boed yn acwatint, ysgythriadau neu mezzotint.

Mae galw mawr wedi bod erioed am lyfrau Gwasg Red Hen yn Unol Daleithiau'r America, gyda dros drigain o sefydliadau yno yn meddu ar gopïau o'i gwaith a thri ar ddeg yn meddu ar ddeg neu fwy o gopïau. Yn y Deyrnas Unedig mae unarddeg o sefydliadau yn casglu ei gwaith, gan gynnwys Amgueddfa ac Oriel Gelf Brycheiniog, ac mae deg neu fwy o deitlau ym meddiant y Llyfrgell Brydeinig, Llyfrgell Genedlaethol Cymru ac Amgueddfa Cymru. Gwelir copïau hefyd mewn llyfrgelloedd a phrifysgolion yn Awstralia, Canada, yr Almaen, Iwerddon, yr Iseldiroedd a De Affrica.

Daeth Gwasg Red Hen i sylw Llyfrgell Amgueddfa Cymru ym 1999, pan y prynwyd Nocturne for Wales (1987), Llym Awel (1993), Falls the Shadow (1995) ac Etched in Autumn (1997). Mae'r llyfrgell wedi caffael pob un o'i gweithiau a gyhoeddwyd er hynny yn ogystal â dau o'i llyfrau cynharach: Five Flowers for my Father (1990) a Two Moons (1991).

Enw'r gwaith diweddaraf ganddi yw A Thonnau Gwyllt y Môr / And the Wild Waves of the Sea (2011), a chynhyrchwyd deg ar hugain o gopïau. Cyfrol o gerddi yw hi, gyda thraethawd rhagarweiniol a thri acwatint a dau mezzotint o arfordir ac ynysoedd Cymru yn ategu'r farddoniaeth. Ymhlith y teitlau eraill mae Etched Out (2003), sy'n adrodd hanes trigolion mynydd Epynt a gafodd eu symud o'u cartrefi yn ystod yr Ail Ryfel Byd, er mwyn i'r fyddin ddefnyddio'r tir. Ar ddalen ymestynnol mae gwaith mezzotint yn cofnodi enwau hanner cant o ffermydd, ynghyd â rhai ffigurau sydd wedi'u seilio ar ddelweddau yn Sain Ffagan Amgueddfa Werin Cymru. Gwnaed rhai o'r dalennau yn arbennig ar gyfer y llyfr gan ddefnyddio pridd coch Epynt.

Gwelir un o ddelweddau mwyaf trawiadol Shirley Jones yn y gyfrol Two Moons, a dyma'r mezzotint gaiff ei defnyddio, fel un o naw, ar glawr y llyfr a gyhoeddir i ddathlu pen-blwydd Gwasg Red Hen yn ddeg ar hugain: Shirley Jones and the Red Hen Press: a Bibliography, casglwyd gan Ronald D. Patkus, Vassar College, University of Vermont (2013).

sylw (1)

Nid yw sylwadau ar gael ar hyn o bryd. Ymddiheuriadau am yr anghyfleustra.
Julie Dent
24 Medi 2019, 18:43
I have a number of Shirley’s pieces that I purchased many years ago when I was her husband’s P.A. Secretary. I wondered if Ken is still alive.
Regards