Rhywogaeth newydd i wyddoniaeth: Bolycetiaid yn Ynysoedd Falkland
Mae polycetiaid (neu fwydod gwrychog) i'w gweld ym mhob un cynefin morol ar y Ddaear bron. Anifeiliaid hyblyg ac amrywiol eu lliw a'u llun ydyn nhw, ac mae tua 10,000 o rywogaethau wedi cael eu disgrifio hyd yn hyn. Gyda'n amgylchedd morol yn wynebu straen cynyddol mae'n bwysicach nag erioed ein bod ni'n gwybod pa rywogaethau sy'n byw ymhle.
Mae polycetiaid o gynefinoedd yn y moroedd o amgylch Ynysoedd Falkland yng nghefnfor De'r Iwerydd wedi cael eu samplo'n aml fel rhan o fordeithiau ymchwil ar yr Iwerydd. Ar y llaw arall, prin yw ein gwybodaeth o bolycetiaid o gynefinoedd rhynglanwol (rhwng marciau llanw isel ac uchel). Ar ddechrau'r 20fed ganrif gwnaeth naturiaethwr o Ynysoedd Falkland, Rupert Vallentin, beth gwaith yn y maes gan anfon sbesimenau at dacsonomegwyr i'w hadnabod a'u hymchwilio. Prin yw'r gwaith a wnaed ar ôl hyn.
Biolegydd morol yn Amgueddfa Cymru yw Teresa Darbyshire, ac mae wedi bod yn cydweithio â'r Grŵp Arolygon Moroedd Bas lleol i astudio polycetiaid Ynysoedd Falkland. Treuliodd bedair wythnos yn gwneud gwaith mae yn niwedd 2011 dan nawdd Cronfa Ysgoloriaeth Shackleton, gan samplo pedwar arfordir ar bymtheg (Delweddau 1, 2, 6) ar yr ynys Ddwyreiniol, y brif ynys. Cafwyd cyfle hefyd i blymio gyda Grŵp Arolygon Moroedd Bas lleol fel rhan o'u harolwg a thrwy hyn bu modd ymestyn y samplu hyd yn oed ymhellach. (Delweddau 3, 4, 7).
Cododd rhai peryglon biolegol anghyffredin wrth weithio yn Ynysoedd Falkland gan gynnwys morlewod cyfeillgar yn astudio Teresa traoedd hi'n gweithio dan y dŵr, eliffantod môr yn sleifio i fyny tu ôl iddi ar y lan, a caracaras (adar ysglyfaethus) yn ceisio dwyn y potiau samplu! (Delwedd 5)
Wedi i bolycetau gael eu cadw (sefydlogi), bydd nodweddion sy'n bwysig wrth eu hadnabod, fel lliw a phatrwm (Delwedd 8), yn aml yn diflannu neu'n newid. Cafodd y rhan fwyaf o sbesimenau felly eu hastudio a'u ffotograffio yn fyw dan ficrosgop. Byddai sbesimenau hefyd yn cael eu "hymlacio" cyn eu cadw fel bod llai o siawns iddyn nhw wingo neu dorri, felly byddai'n haws o lawer eu hadnabod yn ddiweddarach.
Dyw adnabod polycetau ddim yn broses hawdd na chyflym! Mae sbesimenau gwahanol i'w gweld ledled y byd ac yn newid yn ôl cynefin a lleoliad. Mae'n debyg iawn y bydd polycetau Ynysoedd Flakland yn eu lleoliad yn Ne'r Iwerydd yn wahanol i bolycetau Gogledd yr Iwerydd, ac felly mae'n rhaid chwilio'n drylwyr drwy unrhyw lyfrau ar y pwnc i'w hadnabod. I ddechrau, cai'r sbesimenau eu trefnu'n deluoedd (grwpiau o sbesimenau sy'n perthyn). Er nad yw pob teulu i'w gweld ym mhob amgylchfyd, maer' teuluoedd gafodd eu adnabod yn Ynysoedd Falkland hefyd i'w gweld yn nyfroedd Prydain. Astudiwyd pob teulu yn ei dro er mwyn adnabod pob rhywogaeth ym mhob lleoliad. Mae'n haws o lawer adnabod rhywbeth os oes gennych chi lawer o sbesimenau i'w cymharu, yn blant ac oedolion, a sbesimenau o wahanol gyflwr.
Bellach mae dros ddeg ar hugain o deuluoedd gwahanol wedi cael eu hadnabod o'r samplau. Mae dau rywogaeth abwyd du (Arenicolidae, Delwedd 9) ac abwyd y môr (Nereididae, Delwedd 10) newydd wedi'u hadnabod, sy'n syndod gan fod y ddau grŵp yn cynnwys anifeiliaid mawr sy'n gymharol gyfarwydd ac yn cael eu defnyddio'n gyson fel abwyd gan bysgotwyr. Disgwylir y byd nifer o rywogaethau newydd yn cael eu hadnabod wrth i'r sbesimenau gael eu dadansoddi.
Wedi dychwelyd yn 2013 i samplo lleoliadau ychwanegol, bydd rhestr cynhwysfawr o bolycetau rhynglanwol a glannau Ynysoedd Falkland ar gael, ac yn gymorth i weithwyr gwarchod amgylcheddol lleol.