Blynyddoedd dogni’r Ail Ryfel Byd
Marguerite Patten
Mae Marguerite Patten OBE wedi bod yn dysgu Prydain sut i goginio ers y 1930au. Fel un o Economyddion Cartref Adran Cynghori ar Fwyd y Weinyddiaeth Fwyd yn ystod yr Ail Ryfel Byd, bu Marguerite a’i chydweithwyr wrthi’n ymgyrchu’n hollol ddiflino i ddod o hyd i bobl Prydain ac agor eu llygaid i bwysigrwydd bwydo eu teuluoedd yn dda ar y dognau oedd ar gael.
Gyda Potato Pete a Lord Carrot yn arwain y gad, roedd y ffordd newydd iachus hwn o fyw o anghenraid yn isel mewn braster a siwgr ac yn llawn ffibr a llysiau. Teithiodd yr Adran Gynghori ar Fwyd ledled Prydain gan arddangos eu ryseitiau mewn marchnadoedd, siopau, ffatrïoedd, cantinau, a chlinigau lles a rhoi hwb i ysbryd y genedl. Wrth gyfrannu at Kitchen Front, oedd yn cael ei darlledu bob dydd ar y BBC, llwyddodd Marguerite i rannu ei hoff ryseitiau â’r genedl, ac roedd y ryseitiau hyn yn cynnwys tatws yn amlach na pheidio.
Pan ddechreuodd y rhyfel ym 1939, cafodd y ffermwyr orchymyn i gynhyrchu mwy o datws trwy aredig tir glas a chafodd mwy a mwy o datws eu cynhyrchu wrth i’r rhyfel fynd yn ei flaen. Diolch i’r cynllunio a’r plannu gofalus yma, doedd dim angen dogni tatws yn ystod y rhyfel.
Potato Pete
Roedd Marguerite a’i chydweithwyr yn Swyddfa Gynghori’r Weinyddiaeth Fwyd yn annog y genedl i fwyta tatws dwywaith y dydd. Yn ogystal â bod yn ffynhonnell wych o ynni ar ffurf carbohydrad, mae’r hen daten ddiymhongar yn gyfoeth o Fitamin C hefyd. Er mwyn annog pobl i’w bwyta, cafodd cymeriad cart?n o’r enw Potato Pete ei ddyfeisio gyda’i gân, ei lyfr ryseitiau a’i daflenni ei hun. Roedd modd ychwanegu tatws at gynhwysion cacennau a chrwst i’w chwyddo er mwyn arbed braster. Mae Marguerite yn cofio ‘Roedd llysiau’n rhan bwysig iawn o’n diet. Roedden nhw’n ein hannog ni i fwyta digonedd o datws yn lle bara, oedd yn defnyddio gwenith wedi ei fewnforio, ac i elwa ar eu fitaminau gwerthfawr. Roedden ni’n defnyddio moron, pannas a rwdan mewn pob math o ryseitiau hefyd, roedd llysiau gwyrdd yn bwysig iawn ac roedd pwyslais mawr ar eu coginio nhw’n iawn’. Y cyngor i gogyddion ar y pryd oedd sgrwbio tatws yn hytrach na’u plicio er mwyn osgoi colli hyd at chwarter o’r daten a fitaminau hanfodol.
Roedd tatws sgolop, stwnsh, sglodion a thatws Jên i gyd yn ryseitiau poblogaidd adeg y rhyfel, ac roedd Biwro Cynghori’r Weinyddiaeth Fwyd yn eu hyrwyddo’n eang. Er bod y bwyd yn ddiflas gydag ychydig iawn o gig, wyau a menyn (a diffyg llwyr llawer o’r bwydydd rydyn ni’n eu cymryd yn ganiataol heddiw), roedd iechyd y genedl yn rhyfeddol o dda er gwaethaf y straen corfforol ac emosiynol oedd ar lawer o bobl. Roedd llai o fabanod yn marw, ac roedd oedran cyfartalog pobl drwy farwolaeth naturiol yn uwch. Daeth y dogni gorfodol yma â mwy o brotein a fitaminau i ddiet pob dydd llawer o’r bobl dlotaf yn y gymuned, ac roedd bwyta llai o gig, braster a siwgr yn fanteisiol iawn i iechyd sawl un arall.
Dig for Victory
Bu garddwyr cartref wrthi’n cynhyrchu tatws hefyd mewn ymateb i’r ymgyrch ‘Dig for Victory’. Fodd bynnag, roedd y Weinyddiaeth Amaeth yn annog tyfwyr cartref rhag beidio â thyfu gormod o datws ar draul llysiau eraill, ac i gadw at y cynllun cnydau swyddogol. Argymhellwyd mathau fel Arran Pilot, Duke of York a King Edward, ac maen nhw’n dal i fod yn boblogaidd heddiw. Gallwch weld enghraifft wych o arddio darbodaeth yng ngardd pre-ffab B2 Amgueddfa Werin Cymru gyda llysiau, ffrwythau, a pherlysiau oll yn cael eu tyfu gan ddefnyddio argymhellion y Weinyddiaeth Amaeth o ran technegau a chynlluniau cnydau yn ystod y 1940au.
sylw - (1)