Sgiau o Alldaith Antarctig Brydeinig Scott (Terra Nova) 1910-13
Mae pâr o sgïau pren, hir yng nghasgliadau Amgueddfa Cymru. Mae gan y ddwy farc "L.H. Hagen&Co Christiania" ar y gwaelod a'r llythrennau "R.E.P" wedi'u cerfio ar y top. Ramond Edward Priestley (1886-1974), daearegwr ar Alldaith Antarctig Brydeinig Scott a ddefnyddiodd y sgïau yma.
Tra'n paratoi ar gyfer ei ail alldaith i'r Antarctig, ymwelodd Capten Robert Falcon Scott â Norwy ym Mawrth 1910 i weld slediau modur yn cael eu profi. Yn Olso (a elwid yn Christiania bryd hynny) prynodd Scott hanner can pâr o sgïau gan L.H. Hagen&Co a chael ei gyflwyno i arbenigwr sgïau ifanc o'r enw Tryggve Gran gan y fforiwr Arctig enwog Fridtjof Nansen. Yn y treialon slediau modur yn Fefor, cyrchfan sgio i'r gogledd o Oslo, gwnaeth sgiliau sgïo Gran gryn argraff ar Scott, a wahoddodd y gŵr ifanc i ymuno â'r alldaith fel hyfforddwr sgïo.
Mae lliw a graen y pren yn awgrymu taw o goed collen Ffrengig y cafodd y sgïau eu gwneud. Mae pob sgi wedi'i wneud o un darn o bren a'i blygu i siâp gyda stêm, cyn cerfio'r pen â llaw. Defnyddiodd aelodau o alldaith Scott sawl math gwahanol o sgïau a dulliau rhwymo.
Dull rhwymo carai lledr syml gafodd ei ddefnyddio ar sgïau Priestley. Mae darn troed y rhwymiad wedi'i wneud o groen carw Llychlyn, ac mae peth o'r blew yn dal yn weladwy. Darn hirsgwar o ffwr oedd y darn troed hwn yn wreiddiol, sydd bellach wedi crebachu a chael ei anffurfio i'r hyn a welwn ni heddiw.
Byddai'r amgylchedd hallt a brofodd y sgïau yn ystod yr alltaith; fel y fordaith o Norwy i Gaerdydd a'r Antarctig ac yn ôl; wedi cynyddu cyfraddau crebachu a dysychiad y lledr a'r ffwr. Maen ddigon posibl hefyd y byddai'r lledr wedi amsugno halen wedi toddi yn iâ'r Antarctig hefyd.
Mae ôl du ar waelod pob sgi. Dyma weddillion y cwyr fyddai'n cael ei daenu ar y sgïau er mwyn iddynt lithro'n haws dros yr eira. Roedd defnyddio cwyr ar y sgïau yn dechneg a gyflwynodd Gran, ac mae'n bosibl bod hwn yn un rheswm pam y cawsant fwy o lwyddiant yn defnyddio sgïau nag ar alldaith flaenorol Scott, y Discovery.
Erthygl gan: Tom Sharpe a Megan deSilva
Diolchiadau: Heather Lane, Athrofa Ymchwil Begynol Scott, Prifysgol Caergrawnt; Lizzie Meek, Ymddiriedolaeth Treftadaeth yr Antarctig.