Cadw Casgliad Tegeirian Cŵyr Gerddi Kew Annette Townsend Mae Gerddi Botaneg Brenhinol Kew yn galw ar arbenigwyr cadwraeth Amgueddfa Cymru i ofalu am gasgliad o 25 replica Tegeirian cain wedi'u gwneud o gŵyr gwenyn, sidan, weiren, plu a gwallt. Annette Townsend yn gwneud gwaith cadwraeth ar y modelau tegeirian cwyr Spathglotis lobbi Rchb.f. in W.G.Walpers & Oncidium varicosum Lindl. Modelau mewn deunydd pacio archifol Yn 2005, gofynnwyd i gadwraethwyr Amgueddfa Cymru Annette Townsend a Vicky Purewal i wneud arolwg o gasgliad o fodelau cŵyr ym meddiant Gerddi Botaneg Brenhinol Kew, Llundain. Yn y casgliad roedd 25 model tegeirian naturiol a gopïwyd o gasgliad planhigion byw Kew gan yr artist botanegol Edith Delta Blackman (1868-1947). Gwnaed o modelau o gŵyr gwenyn, sidan, weiren, plu a gwallt, gan amrywio mewn maint o grŵp bychan o flodau 10cm x 10cm, i dusw mawr bwaog dros fetr o led. Dangosodd gohebiaeth yn archif Gerddi Kew i'r modelau gael eu comisiynu ym 1893 gan y cyn Gyfarwyddwr William Thiselton-Dyer ar gost o 4 punt a 4 swllt y model. Niwed ac esgeulustod Cafodd y modelau eu harddangos yn Kew am flynyddoedd cyn cael eu storio, Doedd atmosffer cynnes, sych y stordy ddim yn ddelfrydol ac achoswyd niwed i'r modelau. Perodd y gwres i'r cwyr feddalu, pilio a hollti, gan alluogi llwch a baw i gronni dan arwyneb y modelau. Y project cadwraeth Yn ffodus, dyma ymwelydd â'r gerddi yn ffoli ar y modelau a ddifrodwyd a phenderfynu noddi gwaith cadwraeth ar yr holl gasgliad. Mae gan Annette a Vicky brofiad di-ail yn y DU ym maes cadwraeth modelau cwyr botanegol o'r fath, wedi gweithio gyda'u gilydd am flynyddoedd ar gasgliad unigryw Amgueddfa Cymru o dros 1000 o fodelau cwyr. Dyma Kew yn gofyn iddynt ymgymryd â'r gwaith. Gwaith araf a thrylwyr Gwnaed y gwaith mewn rhannau dros sawl blwyddyn. Mae gwaith cadwraeth ar fodelau cwyr yn broses araf a thrylwyr iawn ac mae'n anodd symud y gwrthrychau am eu bod mor fregus. Yn 2007, paciwyd y grŵp cyntaf o fodelau a'u cludo ar hyd yr M4 i Gaerdydd er mwyn dechrau ar y gwaith. Er mwyn canfod cyfansoddiad y cwyr, dadansoddwyd darnau bychan drwy ddefnyddio techneg Fourier Transform Infra Red (FTIR), fel y gellid dewis deunyddiau addas ar gyfer y gwaith atgyweirio. Tynnwyd ffotograffau o bob model, cyn eu dogfennu, eu glanhau a'u hadfer. I gwblhau'r broses, paciwyd pob un mewn blychau pwrpasol, a phrofwyd sadrwydd pob pecyn cyn eu cludo yn ôl i Kew. Cwblhawyd y gwaith atgyweirio olaf yn 2010 a dychwelwyd y model olaf i Kew. Ailarddangos y Tegeirianau Mae’r tegeirian i’w gweld ar hyn o bryd yn Llysieufa gerddi Kew, ac ar gael i’w gweld gan ymwelwyr. Cymbidium lowianum (Rchb. f.) Rchb. f. Model wedi'i bacio mewn blwch pwrpasol Caularthron bicornutum (Hook.) Raf. Rhan o'r model cyn y gwaith cadwraeth. Vanda coerulea Griff. ex Lindl. Modelau cyn gwaith cadwraeth. Vanda coerulea Griff. ex Lindl. Modelau wedi'r gwaith cadwraeth. Vanda coerulea Griff. ex Lindl. Golwg fanylach ar ddail wedi'u difrodi cyn y gwaith cadwraeth. Bulbophyllum grandiflorum Blume. Deilen yn dangos lle mae llwch wedi cael ei waredu Cysylltiadau Gerddi Botaneg Brenhinol, Kew Nid yw sylwadau ar gael ar hyn o bryd. Ymddiheuriadau am yr anghyfleustra.