Diptych Llandaf
Delweddau ar ddau neu dri panel yw diptych a triptych, ac roedden nhw'n amlwg yn y canol oesoedd fel cymorth i addoli a myfyrio ar fywyd a dioddefaint Crist. Yn ddiweddar, mae panel diptych ifori ochr dde o Landaf sydd yng nghasgliadau Amgueddfa Cymru wedi cael ei uno â'i bartner am y tro cyntaf mewn canrif a mwy.
Gwyddom am waith ifori canoloesol o leoliadau seciwlar yng Nghymru, fel darnau hela o gestyll a tharian fechan o Gaerllion (Sir Fynwy). Cafodd gwaith ifori ffigurol o bwys defosiynol ei ganfod wrth gloddio yng Nghastell Dolforwyn (Sir Drefaldwyn), a caed adroddiadau am ddiptych ifori cerfiedig o Abaty Glyn y Groes (Sir Ddinbych) ym 1866.
Yng Nghymru, fel ag yn Lloegr, cafodd llawer o wrthrychau defosiwn personol eu dinistrio yn yr unfed a'r ail ganrif ar bymtheg; mae sawl diptych anghyflawn i'w gweld mewn amgueddfeydd wedi i baneli gael eu colli dros y canrifoedd.
Weithiau, caiff paneli eu hailddarganfod a'r darnau eu huno unwaith eto.
Diptych Llandaf
Ers dros 100 mlynedd, mae panel de diptych ifori eliffant o Landaf wedi cael ei ystyried yn esiampl brin sydd wedi goroesi yng Nghymru.
Fe'i gwnaed ym Mharis oddeutu OC 1340-60, ac mae'n dangos Crist ar y groes gyda'r Forwyn Fair ar y chwith, a Ioan Efengylydd fel gŵr ifanc ar y dde yn dal llyfr ac yn troi oddi wrth y groes. Mae'r ffigurau wedi'u gosod o dan ganopi pensaernïol o dri bwa Gothig trefoil, pob un â thâl maen trionglog uwch ei ben gyda chrocedi a therfyniadau.
Yn ôl cofnodion yr Amgueddfa, cafodd ei ddarganfod gan Mr Henry Bird o Gaerdydd wrth ddymchwel yr 'hen ffynhondy' yn Llandaf ym Mai 1836. Wedi pasio drwy law sawl perchennog, cafodd ei brynu ym 1901 gan Amgueddfa Caerdydd (rhagflaenydd Amgueddfa Cymru) o ystad John Storrie (curadur 1878-93).
Dangosodd ymchwil bod manylion addurniadol, dimensiynau, cyflwr a lleoliad colfachau'r darn yn debyg iawn i banel ifori chwith sydd bellach yng nghasgliadau Amgueddfeydd Cenedlaethol Lerpwl. Mae'r panel chwith hwn yn dangos y Forwyn a'r Plentyn (yn dal allweddi) a Paul (yn dal cleddyf), sy'n wrthbwynt gweledol taclus i olygfa'r Croeshoeliad ar y panel de.
Pryd gafodd y ddau eu gwahanu?
Cafodd panel Lerpwl ei gaffael ym 1953 o ystad Mr Philip Nelson, a'i prynodd o ddeliwr yng Nghaerfaddon ym 1934. Prynwyd y panel de gan John Storrie o siop Mr L. Roberts. A gafodd y ddau eu canfod yn Llandaf ym 1836 a dod i law perchnogion gwahanol, neu oeddent wedi cael eu gwahanu cyn hyn?
Prif atyniad Llandaf o hyd yw'r eglwys gadeiriol a'r ffynhonnau niferus. Yr esiamplau mwyaf adnabyddus yw Ffynnon Deilo, a Ffynnon y Llaethdy ar dir Llys Llandaf, tŷ a ddefnyddiwyd fel Palas yr Esgob o 1869 i 1940. Bu'r diwethaf yn guddfan i drawst a phen croes o ddiwedd y ddegfed ganrif neu'r unfed ganrif ar ddeg, a osodwyd yn y wal bellaf ym 1870. Saif adeilad caerog Palas yr Esgob o'r drydedd ganrif ar ddeg i'r de ddwyrain o'r eglwys gadeiriol: ai dyma leoliad gwreiddiol y diptych?
Heddiw, caiff panel diptych Llandaf ei arddangos gyda chopi o'i bartner wedi'i gerfio mewn resin, a gomisiynwyd o Amgueddfeydd Cenedlaethol Lerpwl (Technolegau Cadwraeth). Defnyddiwyd y dechnoleg ddiweddaraf i greu replica manwl o ddarn Lerpwl. Un o fanteision mawr y dechneg hon yw nad yw arwyneb yr arteffact gwreiddiol yn cael ei gyffwrdd o gwbl, sy'n golygu nad oes unrhyw risg i'r gwrthrych.