Gwnaed yn Tseina: cadair Eisteddfod 1933 Cadair Eisteddfod Genedlaethol Wrecsam, 1933; rhodd J.R.Jones, Shanghai. Yn y llun gwelir y crefftwyr a luniodd y gadair. Fe gymerodd dros flwyddyn i'r crefftwyr yn y llun i gerfio'r gadair eisteddfodol hon. Fe'i gwnaed yn amddifaty Catholig T’ou-se-we, ar gyrion Shanghai. Roedd gan yr amddifaty hwn, a sefydlwyd gan genhadon Catholig ym 1852, nifer o weithdai lle dysgid crefftau megis cerfio pren, paentio, argraffu, gwaith tun a gwaith gwydr lliw a ffotograffiaeth. Cyflwynwyd y gadair yn wobr ar gyfer Eisteddfod Genedlaethol Wrecsam ym 1933 gan Gymro llwyddiannus oedd yn byw yn Shanghai. Roedd Dr John Robert Jones(g. Llanuwchllyn 1887,m. Hong Kong 1976) yn fargyfreithiwr ac yn eisteddfodwr brwd a oedd hefyd yn ymddiddori'n fawr yn niwylliant a chelfyddyd Tseina. Aeth i Shanghai ym 1924, a dyfod yn Ysgrifennydd Cyffredinol y Cyngor Rhyngwladol ym 1928. Roedd yn un o hoelion wyth cangen Shanghai o'r Royal Asiatic Society a Chymdeithas Dewi Sant. Ei syniad ef oedd comisiynu crefftwyr T’ou-se-we i wneud y gadair. Enillydd y gadair ym 1933 oedd Trefin (Edgar Phillips) am ei awdl 'Harlech'. Enillwyd cadair debyg iawn, hefyd wedi'i gwneud yn T'ou-se-we, gan y bardd Gwenallt Eisteddfod Abertawe, 1926. Related Features Erthygl Cylch yr Orsedd 25 Gorffennaf 2010 Erthygl A oes heddwch? Ailgydio wedi rhyfel Napoleon 25 Gorffennaf 2010 Erthygl Pethau peryglus yw geiriau: Eisteddfodau'r Gwyneddigion 25 Gorffennaf 2010 Erthygl Gorchestion barddol 25 Gorffennaf 2010 Erthygl Pwy yw pwy yn yr Orsedd? 25 Gorffennaf 2010 Erthygl Cleddyfau, cyrn a nodau cyfrin 25 Gorffennaf 2010 Erthygl Gorseddau y tu hwnt i Gymru 25 Gorffennaf 2010 Erthygl Cenedl sy'n anrhydeddu beirdd 25 Gorffennaf 2010 Erthygl 'Ei harddwch a rydd urddas arni': Gorsedd y Beirdd 25 Gorffennaf 2010 Erthygl Eisteddfodau hanesyddol ddiddorol 25 Gorffennaf 2010 Erthygl Yr Eisteddfod a'r Orsedd yn uno 25 Gorffennaf 2010 Nid yw sylwadau ar gael ar hyn o bryd. Ymddiheuriadau am yr anghyfleustra.