Francis Place (1647-1728)
Mae gan Amgueddfa Cymru frasluniau o bymtheg golygfa o Gymru a luniwyd gan Francis Place (1647-1728). Mae deg o'r rhain mewn un llyfr braslunio. Tynnwyd y deg braslun ym 1678, a dyma'r lluniau cynharaf o Gymru a dynnwyd 'yn y fan a'r lle'. Ond pwy oedd Francis Place?
Brodor o Swydd Efrog oedd Francis Place, ac fe'i ganwyd i deulu cyfoethog ym 1647, yr olaf o ddeg o blant. Penderfynodd ei dad y dylai Francis ddilyn ei ôl troed ef fel cyfreithiwr, a phan oedd yn ddwy ar bymtheg neu'n ddeunaw oed aeth Francis i Gray's Inn yn Llundain i astudio'r Gyfraith.
Fodd bynnag, nid oedd y gyfraith yn apelio at Francis, a chafodd esgus i roi'r gorau i astudio a dychwelyd adref yn sgil y Pla Mawr ym 1665. Dychwelodd i Lundain yn fuan wedyn i weithio gyda Wenceslaus Hollar, a'i cyflwynodd i'r gwaith o wneud a gwerthu argraffiadau.
Mae'n bosibl bod Place wedi derbyn ei holl etifeddiaeth, neu gyfran ohoni, cyn marwolaeth ei dad ym 1681, a byddai hyn wedi ei alluogi i ddilyn ei ddiddordeb mewn celf a physgota.
Brenhiniaeth a'r oes Virtuosi
Oes y Virtuosi oedd yr ail ganrif ar bymtheg — cyfnod pan oedd dynion cyfoethog ag amser ar eu dwylo rhannu diddordeb mewn celf, gwyddoniaeth ac athroniaeth. Aeth llawer ohonynt ymlaen i sefydlu'r Gymdeithas Frenhinol ym 1660. Yn ystod hanner cyntaf y ganrif, dim ond aelodau o'r teulu brenhinol a'r rhai oedd â chysylltiad agos â nhw oedd yn dysgu sut i ddarlunio a pheintio.
Tua diwedd y ganrif daeth celf yn boblogaidd ymhlith tirfeddianwyr cefnog a'u meibion a'u merched. Aethant ati i astudio er mwyn ennill gwybodaeth, a oedd yn wahanol iawn i'r rhai oedd yn dibynnu ar ddarlunio fel bywoliaeth. Er mai amatur oedd Place yn y bôn, ceir tystiolaeth iddo dderbyn arian am ei waith, yn enwedig yn y dyddiau cynnar.
Felly roedd Place yn debyg iawn i wŷr bonheddig eraill y cyfnod; roedd ganddo ddigon o amser ac arian, a dengys yr hyn sydd wedi goroesi o'i waith iddo arbrofi gyda sawl cyfrwng, gan gynnwys porslen.
Roedd yn aelod o Virtuosi Efrog a oedd yn cynnwys Martin Lister, Henry Gyles, Thomas Kirke FRS a William Lodge. Mae'n bosibl iddo ennill comisiynau yn sgil ei aelodaeth o'r grŵp hwn.
Diolch i arian ei dad, teithiodd Place yn helaeth o gwmpas y DU i fraslunio a physgota. Dengys ohebiaeth o'r cyfnod bod y brasluniau sydd gan Amgueddfa Cymru wedi'u gwneud yn ystod taith Place yng Nghymru a Gorllewin Lloegr ym 1678. Ri gyfaill William Lodge oedd ei gydymaith ar y daith, oedd hefyd yn aelod o Virtuosi Efrog.
Roedd teithio yn ystod y cyfnod hwn yn gallu bod yn beryglus. Roedd sawl cynllwyn Pabaidd ar waith ar y pryd, a gwyddom i'r ddau ddyn dreulio noson yn y carchar yng Nghymru yn sgil amheuaeth eu bod yn ysbiwyr Jeswitaidd.
Dinbych y Pysgod
Braslun gwreiddiol Dinbych y Pysgod
Dinbych y Pysgod wedi'u cyfuno'n ddigidol:
sylw - (1)