Gorchestion barddol Coroni Dilys Cadwaladr am ei phryddest 'Y Llen', yn Eisteddfod Genedlaethol y Rhyl, 1953. Hi oedd y fenyw gyntaf i ennill y Goron. Enillwyd y dwbl-dwbl sef y Gadair a'r Goron yn yr un flwyddyn ddwywaith gan T.H.Parry-Williams — 1912 ac 1915 Alan Llwyd — 1973 ac 1976 Donald Evans — 1977 ac 1980 Cyn sefydlu'r rheol na ellir ennill y Gadair, y Goron na'r Fedal Ryddiaith fwy na dwywaith cafwyd sawl buddugwr gorchestol:p> Crwys — y Goron deirgwaith (1910, 1911 ac 1919); Cynan — y Goron deirgwaith (1921, 1923, 1931) a'r Gadair unwaith (1924); Caradog Prichard — y Goron deirgwaith (1927, 1928, 1929) - pob un yn amrywiaeth ar thema gwewyr gwallgofrwydd ei fam; a'r Gadair unwaith (1962); Dewi Emrys — y Goron unwaith (1926) a'r Gadair bedair gwaith (1929, 1930, 1943, 1948). Dywedir iddo geisio gwerthu'i Goron i siop pôn. Dilys Cadwaladr, yn Eisteddfod y Rhyl 1953, oedd y fenyw gyntaf i ennill y Goron. Ers hynny enillodd Eluned Phillips hi ddwywaith (1967, 1983) ac Einir Jones hi unwaith (1991). Yn Eisteddfod Aberteifi 1976 dyfarnodd y beirniaid awdl gan Dic Jones ar y testun 'Gwanwyn' yn fuddugol ond oherwydd tor-rheol bwriwyd hi o'r gystadleuaeth a chadeiriwyd Alan Llwyd yn ei le. Robat Powell o Lyn Ebwy oedd y dysgwr cyntaf i ennill Cadair yr Eisteddfod, yn y Rhyl yn 1985 am ei awdl 'Cynefin'. Caradog Pritchard, yn 22 oed, oedd y bardd ieuengaf i ennill un o brif wobrau'r Eisteddfod pan enillodd y Goron ym 1927. Pan oedd y Prifardd John Gwilym Jones yn Archdderwydd (1993-96) cafodd y fraint o goroni'i frawd Aled Gwyn a chadeirio'i fab, Tudur Dylan, yn Eisteddfod Bro Colwyn, 1995. At hyn roedd brawd arall, T.James Jones, wedi ennill y Goron ddwywaith - yn Abergwaun 1986 a Chasnewydd 1988. Roedd T. James Jones wedi cystadlu am y Goron gyda bardd o Americanwr, John Dressel yn 1979, dan y ffugenw 'Ianws', ond pan sylweddolwyd mai cywaith oedd y bryddest fuddugol ni ddyfarnwyd y Goron iddynt.. Mererid Hopwood oedd y fenyw gyntaf i ennill y gadair yn Eisteddfod Dinbych, 2001 ac enillodd y Goron ddwy flynedd yn ddiweddarach yn Eisteddfod Maldwyn, 2003. Related Features Erthygl Cylch yr Orsedd 25 Gorffennaf 2010 Erthygl Gwnaed yn Tseina: cadair Eisteddfod 1933 25 Gorffennaf 2010 Erthygl A oes heddwch? Ailgydio wedi rhyfel Napoleon 25 Gorffennaf 2010 Erthygl Pethau peryglus yw geiriau: Eisteddfodau'r Gwyneddigion 25 Gorffennaf 2010 Erthygl Pwy yw pwy yn yr Orsedd? 25 Gorffennaf 2010 Erthygl Cleddyfau, cyrn a nodau cyfrin 25 Gorffennaf 2010 Erthygl Gorseddau y tu hwnt i Gymru 25 Gorffennaf 2010 Erthygl Cenedl sy'n anrhydeddu beirdd 25 Gorffennaf 2010 Erthygl 'Ei harddwch a rydd urddas arni': Gorsedd y Beirdd 25 Gorffennaf 2010 Erthygl Eisteddfodau hanesyddol ddiddorol 25 Gorffennaf 2010 Erthygl Yr Eisteddfod a'r Orsedd yn uno 25 Gorffennaf 2010 Nid yw sylwadau ar gael ar hyn o bryd. Ymddiheuriadau am yr anghyfleustra.