'Ei harddwch a rydd urddas arni': Gorsedd y Beirdd

Edward Williams, Iolo Morganwg, Bardd Braint a Defod, portread gan George Cruickshank.

Beth yw'r Orsedd?

Cymdeithas o feirdd, llenorion, cerddorion, artistiaid ac unigolion sy wedi gwneud cyfraniad nodedig i'r genedl, ei hiaith a'i diwylliant yw Gorsedd Beirdd Ynys Prydain. Mae'n gweithredu trwy gyfrwng y Gymraeg.

Gorsedd y Beirdd sy'n gyfrifol am basiantri Eisteddfod Genedlaethol Cymru a hi sy'n trefnu a chynnal seremonïau lliwgar a dramatig y Cyhoeddi a defodau Cylch yr Orsedd, a seremonïau'r Coroni, y Fedal Ryddiaith a'r Cadeirio ar lwyfan y Brifwyl.

Mae iddi hanes ddifyr ac unigryw, o'r cychwyn cyntaf yn 1792 hyd at heddiw.

Nid ei chledd ond ei gweddi - a'i harddwch
A rydd urddas arni;
Mae nodded tu mewn iddi
I'r Gymraeg rhag ei marw hi.

Tim Ymryson y Beirdd Sir Aberteifi

Y dechreuadau: Iolo Morganwg

Edward Williams neu Iolo Morganwg (1747-1826) oedd crewr a thad Gorsedd Beirdd Ynys Prydain.

Cafodd Iolo ei eni ym mhlwyf Llancarfan, Morgannwg ac er mai Saesneg oedd iaith yr aelwyd dechreuodd ymddiddori yn yr iaith Gymraeg, ei llenyddiaeth a'i hanes. Saer maen oedd e wrth ei grefft a theithiodd ledled Cymru ac i Lundain yn arbennig. Yno, daeth i gysylltiad â Chymdeithas y Gwyneddigion a dechreuodd droi mewn cylchoedd diwylliannol a radical.

Roedd Iolo Morgannwg yn athrylith — yn un o sefydlwyr mudiad yr Undodiaid yng Nghymru, yn radical gwleidyddol a oedd yn cefnogi'r Chwyldro Ffrengig, yn heddychwr, yn hynafiaethydd, yn emynydd ac yn fardd telynegol a oedd yn ei alw'i hun yn 'The Bard of Liberty'.

Breuddwydiwr a Ffugiwr

Ond roedd e'n freuddwydiwr ac yn ffugiwr hefyd. Roedd yn gaeth i'r cyffur laudanum ac mae'n siwr i hynny effeithio ar gyflwr ei feddwl. Rhan o'i freuddwyd a'i weledigaeth ar gyfer Cymru a Morgannwg oedd creu Gorsedd Beirdd Ynys Prydain a llwyddodd i dwyllo ysgolheigion ei oes ei bod yn sefydliad cwbl ddilys. Ond pam aeth e i'r fath drafferth? Mae nifer o resymau posibl:

  • Roedd e wedi cael ei swyno gan ramantiaeth Derwyddiaeth newydd y ddeunawfed ganrif ac roedd e'n credu fod beirdd Cymru wedi etifeddu rôl y derwyddon Celtaidd.
  • Pan oedd e'n Llundain roedd e wedi sylwi fod y Saeson yn dirmygu iaith a diwylliant y Cymry ac felly aeth e ati i greu gorffennol llachar a hynafol i'w genedl trwy Orsedd Beirdd Ynys Prydain.
  • Roedd Iolo yn genfigennus o hyder y Gwyneddigion mai yng Ngwynedd yr oedd barddoniaeth a thraddodiadau Cymru ar eu puraf, felly aeth ati i geisio profi mai ym Morgannwg yn unig yr oedd traddodiadau derwyddiaeth wedi goroesi. Fel y dwedodd yr ysgolhaig G.J.Williams, 'Math o ymgais i dynnu'r gwynt o hwyliau pobl y Gogledd oedd yr Orsedd... math o ymgais i ddangos eu bod nhw ym Morgannwg wedi cadw hen sefydliad y Cymry yn ei burdeb cysefin ...'.
  • Ac wrth gwrs, roedd Iolo yn ganolog i'w weledigaeth ei hun. Roedd e eisiau diffinio rôl arbennig iddo'i hun yn hanes Cymru trwy greu Gorsedd Beirdd Ynys Prydain.

Crisialodd yr hanesydd Gwyn A. Williams gymhellion cymhleth Iolo trwy ddweud ei fod yn cael ei yrru gan 'a Welsh resentment against arrogant English, a south Wales resentment against arrogant northerners, a Glamorgan resentment against the rest and a Iolo resentment against any who snubbed him'.

Pan fu Iolo farw yn 1826 doedd Cymru ddim wedi dechrau amgyffred natur na maint ei ddyfeisgarwch a'i dwyll.

'An Archdruid in his Judicial Habit'

o Costume of the Original Inhabitants of the British Isles (1815) gan Samuel Rush Meyrick a Charles Hamilton Smith.

Braslun o Gylch yr Orsedd (y Cylch Cynghrair) yn llawysgrifen Iolo Morganwg. Noder y sylw 'the Bards stand unshod and uncovered within the circle'.

Derwyddiaeth

O'r ail ganrif ar bymtheg hyd at y bedwaredd ganrif ar bymtheg roedd diddordeb mawr iawn gan ysgolheigion Prydain ym mhopeth Celtaidd a druidmania yn fyw ac yn iach. Un o'r cyntaf i ymddiddori oedd yr hynafiaethydd, John Aubrey, a awgrymodd yn 1659 fod cylchoedd cerrig Côr y Cewri ac Avebury wedi'u hadeiladu gan y Celtaidd i fod yn demlau i'w derwyddon. Yn sgil hynny cynhaliodd y Gwyddel, J.J.Tolland gyfarfod i dderwyddon ar Primrose Hill (Bryn y Briallu) yn Llundain yn 1717 a sefydlodd urdd The Ancient Order of Druids.

Yng Nghymru roedd Henry Rowlands (1655-1723), hynafiaethydd o Fôn, wedi ceisio profi yn ei lyfr Mona Antiqua Restaurata (1723) mai olion temlau'r derwyddon oedd y cromlechi ar yr ynys. Ond pan deithiodd Iolo Morgannwg i Fôn ddiwedd y ddeunawfed ganrif cafodd ei siomi gan 'the exceedingly pitiful monuments of that Island' a gwelodd e gyfle i ganu clodydd hynafiaethau Morgannwg yn eu lle.

Nid yw Archdderwydd na Derwyddon Gorsedd Beirdd Ynys Prydain heddiw yn olrhain eu hachau yn ôl i fyd y derwyddon Celtaidd ond mae'r ffaith fod yr Orsedd yn cyfarfod o fewn Cylch o Feini yn brawf o ddylanwad neo-dderwyddiaeth ei gyfnod ar ddychymyg byw Iolo Morganwg.

Gorsedd Beirdd Ynys Prydain 1792

Ar Fehefin 21, 1792 ar Fryn y Briallu yn Llundain y cynhaliwyd Gorsedd Beirdd Ynys Prydain am y tro cyntaf erioed. Yna, cynhaliwyd ail Orsedd ar Fedi 22 ac mae gennym adroddiad ardderchog o'r seremoni hon o bapur newydd y Morning Chronicle:

'Saturday, Sept 22, being a day on which the autumnal equinox occurred ... some Welch Bards, resident in London, assembled in Congress on Primrose Hill, according to ancient usage, which required that it should be in the eye of the public observation, in the open air, in a conspicuous place, and whilst the sun is above the horizon. The wonted ceremonies were observed. A circle of stone was formed, in the middle of which was the Maen Gorsedd, or altar, on which a naked sword being placed, all the bards assisted to sheathe it. ... On this occasion the Bards appeared in the insignia of their various Orders. ...'

Cafwyd sawl seremoni arall yn Llundain ac yn 1795 dychwelodd Iolo i Forgannwg a chynnal ei Orsedd gyntaf yno. Ond roedd yr awdurdodau yn amheus ei fod yn hyrwyddo syniadau gwleidyddol chwyldroadol ac felly bu'n rhaid aros tan ddiwedd y rhyfel, yn 1815, cyn i Orsedd Beirdd Ynys Prydain gael cyfle i fwrw gwreiddiau yn iawn.

Coelbren y Beirdd

Gwyddor ffug a ddyfeisiwyd gan Iolo Morganwg tua 1791 oedd Coelbren y Beirdd. Roedd e'n honni mai dyma wyddor y derwyddon Celtaidd a bod iddi 20 'llythyren' ac 20 arall i gynrychioli llafariaid hir a threigladau. Roedd yn cael ei naddu ar ddarn o bren pedair ochr a châi'r prennau hyn eu gosod mewn ffram fel y gellid troi pob pren i ddarllen y pedair ochr. Yr enw ar y 'llyfr' hwn oedd 'peithynen'.

Cyhoeddodd Taliesin ab Iolo lyfr Coelbren y Beirdd yn 1840 yn seiliedig ar lawysgrifau ei dad. Bu'r wyddor yn boblogaidd gan rai beirdd a derwyddon gydol y bedwaredd ganrif ar bymtheg er bod ambell un, fel Edward (Celtic) Davies (1756-1831), yn amau ei dilysrwydd. Erbyn 1893 yr oedd yr oedd sylwadau J.Romilly Allen, cydolygydd yr Archaeologia Cambrensis mewn llythyr at Arwyddfardd yr Orsedd yn adlewyrchu'r farn gyffredin am Goelbren y Beirdd:

'I think the so-called Bardic Alphabet a gigantic fraud ... I don't believe you will find it repay you to look at these bogus alphabets and pseudo-Druidic antiquities as anything but ... the most bare faced impostures.'

sylw (2)

Nid yw sylwadau ar gael ar hyn o bryd. Ymddiheuriadau am yr anghyfleustra.
Graham Davies
28 Mehefin 2016, 09:32

Dear Veronica, thank you for your comment,
We can certainly add you to the mailing list for the National Museum. You may also want to look on the National Eisteddfod website if you wish to sign up to their upcoming events.
Graham Davies, Digital Team.

Veronica Hammond
26 Mehefin 2016, 21:28
I was aware of the Gorsedd within The Welsh National Eisteddfod, but not this one.
Could you add me to your mailing list if you have one ?
I would be interested to know of future events.

Many thanks