Eglwys Sant Teilo
Detholiad o ddelweddau o Eglwys Sant Teilo
![](/media/4667/DF103097.jpg)
Y llofft o'r porth gorllewinol.
![](/media/4666/DF103270.jpg)
Llofnod y saer, a dyddiad agor yr eglwys.
Yr ysgrifen Lladin yw ‘XIIII Oct A.D. MMVII RJS fecit’.
Yr ystyr yw ‘14 Hydref 2007 OC RJS (Ray J. Smith) wnaeth hwn’.
![](/media/4665/DF103272.jpg)
Dyma gasgliad o holl arwyddion y 'Dioddefaint', neu'r Pasg. Maen nhw'n adrodd stori croeshoeliad Iesu Grist, gan ddangos y gwrthrychau ddefnyddiwyd yn stori'r Pasg.
![](/media/4664/DF103125.jpg)
Câi agweddau ar fywyd bob dydd yn oes y Tuduriaid eu hadlewyrchu ym mhobman yn yr adeilad. Rydym wedi ychwanegu rhai cymeriadau lleol ein hunain ar gyfer ein dehongliad ni. Dyma Ray, y saer, yng nghanol ei offer!
![](/media/4663/DF103123.jpg)
Dyma arwydd Paganaidd arall sydd wedi'i addasu. Mae'r ysgyfarnog, arwydd o ffrwythlondeb, yn cael ei droi'n arwydd y Drindod. Mae eu clustiau'n cysylltu ô'i gilydd a daw'r ysgyfarnog yn arwydd o atgyfodiad.
![](/media/4662/DF103135.jpg)
Roedd byd natur yn rhan bwysig iawn o fywydau'r addolwyr yn Oes y Tuduriaid. O ganlyniad, roedd arwyddion fel y dyn gwyrdd — ysbryd Paganaidd y goedwig — yn dderbyniol yn yr Eglwys.
![](/media/4661/DF103130.jpg)
Roedd gan yr eglwys ganoloesol swyddogaethau amrywiol, a defnyddiwyd symbolau i gyfleu gwahanol negeseuon drwy'r adeilad. Dyma symbol brenhinol, 'Rhosyn y Tuduriaid', sy'n dod â rhosynnau teuluoedd Efrog a Lancastr at ei gilydd.
![](/media/4659/DF103116.jpg)
Peintiwyd yr apostolion gan arlunydd o'r enw Fleur Kelly. Bu'n cydweithio gyda'n peintwyr hanesyddol i addurno gweddill y llen. Mae'r tri sant yn dal gwrthrych yn eu dwylo, fel y gallwn eu hadnabod.
Croeshoeliwyd Philip am ei gredoau, felly mae e'n gafael mewn croes. Gorfodwyd Ioan i yfed gwin wedi'i wenwyno — a goroesodd — felly mae'n dal cwpan â neidr ynddi. Gan Pedr mae allweddi pyrth y nefoedd, felly mae ganddo allwedd yn ei law.
![](/media/4658/DF103157.jpg)
Adroddir hanes Teilo mewn manylder ar y llofft. Cliciwch
ymai weld y cerfiad cyfan.
Dyma banel yn portreadu stori Teilo yn dianc rhag y c?n, ar ôl ceisio sefydlu cymuned ar dir yr Iarll yn Dol, Llydaw.
![](/media/4657/DF103114.jpg)
Mae golwg fanylach yn dangos addurniadau'r Llofft hefyd. Dyma bedwar o'r deuddeg Apostol — Seintiau pwysig i gristnogion oherwydd eu gwaith wrth ledaenu neges Iesu Grist. Mae hanes Teilo wedi'i gerfio mewn derw oddi tanynt.
![](/media/4656/DF103109.jpg)
Golwg fanylach ar y llen a'r llofft. Byddai'r rhain yn gyffredin dros Gymru a Lloegr hyd at ganol yr 1500au. Bwriad y groglen oedd gwahanu'r bobl gyffredin oddi wrth yr offeiriad oedd yn cynnal y gwasanaeth. Man ar gyfer arddangos oedd y llofft, yn hytrach nag oriel i glerwyr neu gôr.
![](/media/4655/DF103232.jpg)
Dyma Ray Smith, Prif Saer Coed ein Huned Adeiladau Hanesyddol, yn sefyll o flaen y groglen. Defnyddiodd y morthwyl a'r cŷn sydd yn ei law i'w hadeiladu.
sylw - (1)
Has this Church been mentioned on a recent television programme recently? I would be most grateful for a reply-thank you.