Cwestiynau Cyffredin: Arwyddion cenedlaethol Baner y ddraig Goch a gynhyrchwyd gan Howell & Co ac a gyflwynwyd i Alldaith Capten Scott i Antarctica. Y Ddraig Goch Pam bod draig goch ar faner Cymru? Symbol herodrol Cymru yw'r Ddraig Goch a welir ar y faner genedlaethol. Yn ôl traddodiad, cariai Arthur faner a'r Ddraig Goch arni wedi i'w dad Uthr Bendragon weld draig yn yr awyr yn darogan mai ef fyddai'n frenin. Beth yw tarddiad symbol y ddraig goch? Yn ôl pob tebyg, y llengoedd Rhufeinig ddaeth â'r ddraig fel symbol i Brydain. Byddai beirdd Cymru yn yr Oesoedd Canol yn aml yn cymharu eu harweinwyr i ddreigiau, er mwyn canu clodydd i'w dewrder. Er enghraifft, disgrifiodd Gruffydd ab yr Ynad Coch y tywysog Llywelyn ap Gruffudd fel Pen dragon, pen draig oedd arnaw. Rhwng 1485 a 1603, roedd y ddraig i'w gweld ar arfbais teulu'r Tuduriaid, ond fe'i dilewyd hi o'r arfbais frenhinol ar orchymyn Iago I a rhoddwyd uncorn yn ei lle. Sut y daeth y ddraig goch yn symbol baner Cymru? Daeth y Ddraig Goch yn ôl i'r amlwg fel arwyddlun brenhinol Cymru yn 1807, ac yn raddol daeth i gystadlu â'r tair pluen estrys fel symbol o Dywysogaeth Cymru. Ar awgrym Gorsedd y Beirdd, cafodd ei chydnabod yn swyddogol gan y Frenhines yn 1959, ac fe'i defnyddir yn gyson bellach yn y faner genedlaethol. Y Genhinen a'r Genhinen Bedr Pam bod y genhinen yn symbol Cymreig? Ceir sôn yng ngherddi Taliesin yn y chweched ganrif a hefyd yn Llyfr Coch Hergest yn y 13eg ganrif am rinweddau'r genhinen fel llysieuyn lleol. Fe'i gwisgid gan filwyr o Gymru ym Mrwydr Crecy, ac erbyn 1536, pan rhoes Harri VIII genhinen i'w ferch ar Fawrth 1af, roedd cysylltiad eisoes rhwng y genhinen â Gŵyl Ddewi. Mae'n bosibl bod lliwiau teuluol y Tuduriaid - gwyrdd a gwyn - yn tarddu o liwiau'r genhinen. Pryd ddaeth y genhinen Bedr yn symbol cenedlaethol? Mabwysiadwyd y genhinen Bedr, neu'r daffodil, yn gymharol ddiweddar fel arwydd genedlaethol. Yn ystod y 19eg ganrif, daeth yn flodyn poblogaidd, yn arbennig gan ferched. Enillodd y genhinen Bedr ei phlwyf wedi i'r Prif Weinidog David Lloyd George ei gwisgo i seremonïau arwisgo Tywysog Cymru yng Nghaernarfon ym 1911. Related Features Erthygl Diwrnod Santes Dwynwen – Nawddsant Cariad Cymru 14 Mehefin 2014 Erthygl Cwestiynau Cyffredin: Y Wisg Gymreig 14 Mehefin 2014 Erthygl Dydd Gŵyl Dewi 11 Ionawr sylw - (1) Nid yw sylwadau ar gael ar hyn o bryd. Ymddiheuriadau am yr anghyfleustra. Tony Hurlow 13 Awst 2020, 21:59 I so wish I could speak my native tongue :-(