Arferion y Nadolig: Gwneud Cyflaith
'Roedd cynnal 'Noson Gyflaith' gynt yn arfer draddodiadol mewn rhannau o ogledd Cymru i ddathlu'r Nadolig neu'r Flwyddyn Newydd. Yn eu tro, byddai teuluoedd yn gwahodd eu ffrindiau i'w cartrefi fin nos. Paratoent swper mawr ar eu cyfer, yn cynnwys gwydd a phwdin Nadolig, fel rheol, ac yna byddai'r cwmni'n ymuno mewn chwaraeon, yn adrodd straeon ac yn tynnu cyflaith.
Ar ôl berwi'r defnyddiau angenrheidiol i ryw ansawdd arbennig, tywelltid y cyflaith allan ar lechen neu garreg fawr wedi'i hiro ag ymenyn. Byddid yn glanhau carreg yr aelwyd a'i hiro ar gyfer yr achlysur hwn weithiau. Yna byddai pob aelod o'r cwmni yn iro'i ddwylo ag ymenyn ac yn cymryd darn o'r cyflaith i'w dynnu tra byddai'n gynnes. 'Roedd hon yn grefft arbennig ac anelid at dynnu'r cyflaith hyd nes y deuai'n rhaffau melyngoch. Byddai'r dibrofiad yn edmygu medrusrwydd y profiadol ond 'roedd aflwyddiant y dibrofiad yn destun hwyl i bawb.
'Roedd cyflaith yn cael ei wneud mewn rhannau o dde Cymru hefyd, yn enwedig yn y cymoedd glo. Hyd y gwyddom ni chysylltid ef ag unrhyw Wyl arbennig yno, ond 'roedd yn arfer gan wragedd i'w werthu o'u cartrefi neu yn y farchnad leol. 'Roedd 'dant' a 'ffani' ymhlith yr enwau a roid arno, ac weithiau rhoid enw'r gwneuthurwr arno, er enghraifft,'losin Magws' neu 'losin Ansin bach'. Gwerthid ef yn ddarnau bach, tua dwy owns am geiniog.
sylw - (2)