Diwylliant Yfed Hynafol: Tancard Langstone
Ym mis Rhagfyr 2007, daeth Craig Mills o hyd i dancard pren cyflawn wrth chwilio am fetel mewn cae ger Langstone, Casnewydd. Mae'r erthygl hon yn cyflwyno'r llestr prin, tua 2000 oed, sydd wedi goroesi'n arbennig o dda, gan ddangos sut mae cadwraeth ac ymchwil yr Amgueddfa yn cynorthwyo i ddatgelu ei stori...
Y tancard
Pan yn llawn, byddai'r tancard wedi dal bron i bedwar peint o gwrw neu seidr. Byddai'n cael ei ddal â dwy law a'i basio o amgylch grŵp, fwy na thebyg, fel llestr yfed cymunedol. Gwnaed y llestr o chwe astell bren, wedi'u gosod o amgylch gwaelod crwn. O amgylch yr wyneb allanol mae dau fand o efydd. Mae gan y llestr ddolen aloi copr cast, gyda dau bâr o rybedion yn ei chysylltu gyda'r tancard.
Yn dyddio i ddiwedd yr Oes Haearn neu ddechrau'r cyfnod Rhufeinig, yr unig reswm y goroesodd y tancard oedd gan iddo gael ei gladdu mewn pridd dyfrlawn, heb gysylltiad o gwbl gyda'r aer. Cyn gynted ag iddo gael ei godi o'r tir, cychwynnodd sychu gyda pherygl gwirioneddol y gallai grebachu, cracio ac anffurfio tu hwnt i adnabyddiaeth. Treuliodd y cadwraethwyr lawer o amser a gofal wrth ei fonitro, cyn medru ei gadw. Cyflawnwyd hyn drwy ei osod mewn alcohol (unwaith eto!) er mwyn disodli'r dŵr o'r celloedd yn y pren. Yna disodlwyd yr alcohol gydag ether (sylwedd anweddol), a anweddodd yn hawdd o arwyneb y pren i adael y gwrthrych yn 'sych'. Yn olaf, cafodd y ffitiadau eu glanhau a'u sefydlogi'n ofalus.
Arwyddocâd y darganfyddiad
Roedd tancardiau yn llestri yfed poblogaidd ledled gorllewin a de Prydain ar ddiwedd yr Oes Haearn a'r cyfnod Rhufeinig. Dyma un o'r chwe thancard cyflawn sydd wedi goroesi ym Mhrydain ac Iwerddon. Yr enghraifft arall o Gymru yw tancard Trawsfynydd (Gwynedd), sydd wedi'i addurno'n helaeth, a ganfuwyd tua 1850 ac a oedd hefyd wedi'i gadw mewn mawn dyfrlawn. Mae darganfyddiadau o ddolenni efydd tancardiau yn fwy cyffredin. Mae'n anodd dyddio tancard Langstone yn gywir. Mae'r ddolen a oroesodd yn debyg iawn i ddolen tancard a ganfuwyd yn y gaer Rufeinig yn Llwchwr (Abertawe). Roedd wedi'i chladdu mewn ffynnon, a lenwyd yn ystod yr ail ganrif OC. Fodd bynnag, awgryma archwiliad manwl o dancard Langstone fod y ddolen hon, nad oedd wedi'i ffitio'n dda, wedi'i gosod yn ddiweddarach yn lle'r un gwreiddiol, sydd bellach ar goll. Y darn blaenfain ar yr ymyl a'r pinnau efydd cain sydd ar ôl yn wal ganol y tancard yw'r dystiolaeth sydd wedi goroesi o'r ddolen gynnar hon. Awgryma hyn fod y tancard wedi'i wneud yn y ganrif gyntaf neu ddechrau'r ail ganrif OC (1-150 OC).
Ychydig fetrau i ffwrdd o'r fan lle canfuwyd y tancard, daeth Craig Mills o hyd i
ddwy ddysgl efydd a hidlen win tua'r un pryd. Gwnaed y llestri hyn, sydd bron yn gyflawn, yn ystod diwedd yr Oes Haearn, ac fe'u haddurnwyd yn arddull Celf Geltaidd. Cawsant eu claddu mewn haenen fawnog dyfrlawn debyg, fwy na thebyg yn ystod canol y ganrif gyntaf OC. Mae'r defnydd tebyg hwn, ar gyfer hidlo a dal hylif, megis gwin neu foddion, yn awgrymu fod y lleoliad hwn yn arbennig o arwyddocaol i'r perchnogion, a ddewisodd gladdu eu hoffer yfed yma.Ysgrifennwyd gan Adam Gwilt, gyda chyfraniadau gan Evan Chapman, Mary Davis, Mark Lewis, Mark Lodwick, Craig Mills a Nigel Nayling
sylw - (3)
Many thanks :)
Clark Ward
Statesboro, GA, USA
Thank you very much for your enquiry. I have passed it on to my colleague who will be able to advise further.
Kind regards,
Nia
(Digital Team)