Gwerthu Losin Du: bwyd fel incwm

Cyflwyniad

Stondin cynnyrch y ffermdy ym marchnad Caerfyrddin yng ngofal Mrs E. Evans, Pencader.

Hen fenyw fach Cydweli
Yn gwerthu losin du...

Mae'r hen rigwm cyfarwydd yn tynnu sylw at brysurdeb un wraig arbennig yn gwerthu nwyddau o'i chartre'. Dychmygol yw'r rhigwm, o bosibl, and y mae'n gofnod hanesyddol pwysig o'r math o weithgarwch a âi ymlaen ar hyd a lled Cymru yn y dyddiau gynt cyn sefydlu'r wladwriaeth les a'i nawdd cymdeithasol.

Ddiwedd y 19eg ganrif ac ymlaen i'r 1920au a'r 1930au 'roedd gwerthu bwydydd, naill ai o'r cartre' neu ar y farchnad leol, yn arfer pur cyffredin yn y pentrefi a'r trefi diwydiannol yng Nghymru. Mewn cyfnod o gynni oherwydd salwch neu farwolaeth y penteulu neu golli cyflog oherwydd anghydfod diwydiannol, byddai'r gwragedd yn cynorthwyo i gynnal eu teuluoedd drwy baratoi a gwerthu bwydydd cartre'. Byddai'r bwydydd hynny yn eu tro, yn cael eu cyfrif yn ddanteithion gan aelodau o'r gymdeithas leol.

Ffagots

Ymhell cyn dyddiau'r siopau pysgod-a-sglodion ym mhentrefi glofaol de Cymru, byddai'r bobl leol yn cyrchu i dai arbennig i brynu 'ffagots a pys'. Er mwyn cael y ddau ben llinyn ynghyd, roedd hi'n arfer gan wragedd neu weddwon y glöwyr baratoi llond tun mawr o ffagots a sosbenaid fawr o bys i'w gwerthu o'u cartrefi ar nosweithiau penodol bob wythnos — nos Fawrth a nos Wener, fel rheol. Tyrai'r cwsmeriaid lleol yno gan gario'u bowlenni ar gyfer rhyw amser penodedig. Gwyddys bod yr arfer hwn wedi parhau mewn rhai ardaloedd tan bumdegau'r ugeinfed ganrif. 'Roedd gwerthu rhyw gant o ffagots am ddwy geiniog yr un bob nos Wener yn galluogi'r gwragedd i brynu, ymhlith pethau eraill, darn a gig ffres i'w rostio ar gyfer y Sul.

Pennog picl

Pennog picl oedd un o'r bwydydd cyffelyb a nodweddai'r ardaloedd diwydiannol yng ngogledd Cymru. 'Roedd pysgota penwaig, yn ôl y tymor, yn ddiwydiant pwysig yn y trefi a'r pentrefi ar yr arfordir, ond lledai'r arfer o baratoi a gwerthu pennog picl i ardaloedd y chwareli llechi. Cofnodwyd yr hanes am wragedd yn croesawu cwsmeriaid i'w cartrefi ar ryw un noswaith yr wythnos. Byddai'r gweision ffermydd a'r chwarelwyr yn ymgynnull yno i gael sgwrs a chwmnïaeth ddifyr tra'n bwyta'r pennog picl a'r bara ceirch cartre'; cawsent bryd da o fwyd am tua chwe cheiniog yr un. Ai'r gwragedd ati i goginio nifer fawr o bennog mewn dysglau pridd yn y popty a'u blasu nionod, finegr a sbeisys. Fyddai'r gweithwyr yn cael pryd o fwyd sylweddol am ychydig geiniogau ond 'roeddent yn geiniogau gwerthfawr i'r teuluoedd anghenus na allent droi at unrhyw wladwriaeth les am gymorth ariannol.

Bara ceirch, pwdin bara a diod fain

Mrs. Cathrin Evans yn rhoi'r torthau ar ei gilydd i galedu.

Bwydydd eraill a baratoid ar gyfer eu gwerthu yn y de diwydiannol oedd pice cwrens a phwdin bara, tra 'roedd galw mawr am fara ceirch yn siroedd y gogledd. Danteithion oedd yn gyffredin i siroedd y gogledd a'r de fel ei gilydd oedd taffi (neu losin dant) a chyflaith (neu india roc). Yn y lle cyntaf fe'u paratoid ar raddfa fach gan y gwragedd i'w gwerthu o'u cartrefi neu ar y farchnad leol. Gwyddys am deuluoedd a ddatblygodd y fasnach i'r graddau iddynt fedru sefydlu cwmnïau masnachol pur lwyddiannus.

Yn yr un modd y datblygwyd y fasnach ddiodydd meddal. 'Roedd y ddiod fain neu'r ddiod ddail (small beer, herb beer) yn dderbyniol iawn gan y chwarelwr a'r glöwr i dorri syched ar ôl diwrnod caled o waith. Y gwragedd a welodd eu cyfle i fasnachu'r ddiod y gwyddent fod galw mawr amdano. Aent allan i'r priffyrdd a'r caeau i gasglu dali danadl poethion a dail dant y llew, yn eu tymor, a'u golchi a'u sychu'n ofalus. Fe'u berwid ynghyd â dail cyrens duon, iorwg a sunsur; yna hidlid y trwyth hwnnw a'i felysu â siwgr. Ar ôl iddo glaearu rhoid burum ynddo a'i adael i eplesu dros nos. Drannoeth, hidlid y ddiod drachefn a'i arllwys i botel. Gwyddys am un wraig a werthai, ar gyfartaledd, ryw ddeugain potelaid o ddiod fain bob wythnos o'i chartre yn ystod degawdau cynnar yr ugeinfed ganrif. Gwnai elw o saith swllt yr wythnos, swm a oedd yn rhan hanfodol o incwm prin y teulu.

Nid yw sylwadau ar gael ar hyn o bryd. Ymddiheuriadau am yr anghyfleustra.