Llais i'r ddoli glwt
Y frwydr dros y bleidlais
Fel llawer o fenywod eraill ym mhedwar ban y byd, bu angen i fenywod Prydain frwydro dros yr hawl i bleidleisio. Er ein bod ni'n cymryd y fraint yma’n ganiataol heddiw, nid fel yna fuodd pethau erioed.
Ddiwedd y 19eg ganrif a dechrau’r 20fed ganrif, bu mudiad swffragetaidd y merched yn brwydro dros hawl menywod i bleidleisio mewn Etholiadau Cyffredinol.
Menywod oedd y rhan fwyaf o'r ymgyrchwyr ac fe'u galwyd yn Swffragetiaid. Ysgrifennwyd nifer fawr o lyfrau amdanynt. Ond peth sydd wedi denu llai o sylw yw'r mudiad gwrth-swffragetaidd, oedd yn ceisio atal menywod rhag cael y bleidlais.
Bu'r gwrthwynebwyr hyn yn ceisio argyhoeddi pobl nad oedd modd i feddwl menyw deall gwleidyddiaeth. A phan fethodd hyn, troesant at dactegau fel anfon y 'ddoli fwdw' yma. Aeth rhai ohonynt mor bell ag ymosod ar yr ymgyrchwyr a phoeri arnynt yn y stryd.
Gwawdlun cas a grotesg o Swffraget yw'r ddoli. Byddai'r mudiad gwrth-swffragetaidd yn defnyddio delweddau fel yr un yma mewn cartwnau a phosteri. Roedden nhw’n gwawdio ac yn sarhau menywod oedd am gael yr hawl i bleidleisio.
Bu'r safbwyntiau hyn yn estyniad o'r syniad taw'r 'cartref yw'r lle i'r ferch'. Câi menywod eu portreadu'n aml fel pobl oedd angen eu hamddiffyn rhag ‘byd y dynion’ sef byd o waith a gwleidyddiaeth. Eu rôl oedd edrych ar ôl eu gwŷr, eu cartrefi a’u plant.
Newidiodd rôl menywod yn y gymdeithas yn ystod y Rhyfel Byd Cyntaf. Tra bod y dynion i ffwrdd yn ymladd, y menywod oedd yn gwneud llawer o’u swyddi. Rhoddodd hyn gyfle iddynt wrthbrofi’r ystrydeb mai nhw oedd y rhyw gwannaf, a phrofi eu bod yn gyfartal â'r dynion. Rhoddodd hyn ddadl gref arall dros roi’r bleidlais iddynt.
Er gwaethaf cadernid y gwrthwynebiad a ddangosir trwy'r ddoli yma, yn y pen-draw enillodd cannoedd o filoedd o fenywod yng Nghymru'r pŵer i fynegi eu barn gwleidyddol trwy'r blwch pleidleisio. Diolch i ymroddiad y mudiad swffragetaidd, mae gan bob oedolyn ym Mhrydain heddiw yr hawl i fwrw pleidlais mewn etholiadau.
Gweld y ddol yn 3D ar Casgliad y Werin Cymru