Craig Lleuad yr Amgueddfa
Ar 14 Tachwedd 1969, lansiwyd criw Apollo 12 i'r gofod o Ganolfan Ofod Kennedy NASA yn Florida. Casglodd y gofodwr Alan Bean samplau o'r lleuad i'w dwyn yn ôl i'r Ddaear ar gyfer ymchwil.
Mae creigiau a gasglwyd o'r Lleuad yn hynafol iawn o'u cymharu â chreigiau a geir ar y Ddaear. Maent yn amrywio o ran oedran o tua 3.16 biliwn o flynyddoedd i hyd at 4.5 biliwn o flynyddoedd. Ar y llaw arall, mae'r creigiau hynaf o gramen y Ddaear yn dyddio o ryw 3.8 biliwn o flynyddoedd, gan i'r rhai mwy hynafol gael eu difetha a'u hailgylchu gan brosesau platiau tectonig.
Mae'r darn hwn o graig y Lleuad, ar fenthyg gan NASA, yn nodwedd o arddangosfa Esblygiad Cymru yn yr Amgueddfa Genedlaethol. Fe'i cedwir mewn cynhwysydd gwydr aerglwm arbennig yn llawn nitrogen i'w warchod rhag cael ei halogi. Mae'n 3.3 biliwn o flynyddoedd oed, sydd gryn dipyn yn hŷn na'r graig fwyaf hynafol o Gymru, a ddangosir wrth ei hochr, nad yw ond 702 miliwn o flynyddoedd oed.
Y darn o graig o'r lleuad yw'r eitem ddrutaf yn yr amgueddfa gyfan. Mae ei gwerth yn seiliedig ar gost teithio i'r lleuad i gael darn arall. Fe'i cedwir mewn amgylchedd nitrogen amddiffynnol, a does gan neb ar wahân i NASA, dim hyd yn oed curaduron yr amgueddfa, allwedd i agor y cês mewnol.
Yr Craig Llauad yn yr Amgueddfa
Cynhyrchwyd y ffilm isod yn Gorffennaf 2009 i ddathlu 40 'mlwyddiant Glanio ar y Lleuad (NASA sydd piau hawlfraint y delweddau a'r sain)
Ymwelwch â'r union fan lle casglwyd y sbesimen hwn.
- Cliciwch fotwm de'r llygoden ar y ddolen uchod a dewiswch Save Link As....
- Agorwch y ffeil a arbedwyd yn Google Earth.
- Mae angen Google Earth 5.0 neu uwch. Ewch i view a dewiswch Moon:
Gallwch lawrlwytho Google Earth am ddim (Mac neu PC). I ddysgu mwy am Google Earth, ewch i earth.google.com.