Santes Catherine a'r Olwyn
Ym 1998 dechreuodd Sain Ffagan ar yr her o symud, ailgodi ac adfer eglwys ganoloesol o waith maen — un o'r projectau cyntaf o'i fath yn Ewrop. Yn ystod y broses ddatgymalu, dadorchuddiwyd nifer o furluniau prin o dan y waliau gwyngalch.
Santes Catherine.
Mae un o'r peintiadau hynaf a ddadorchuddiwyd yn dyddio o tua 1400-1430, ac mae'n cynrychioli'r Santes Catherine o Alexandria. Roedd wedi bod ynghudd am ganrifoedd dan haenau o wyngalch, a bu'n rhaid ei dynnu gan ddefnyddio cyllyll llawfeddygol.
Ar ôl dadorchuddio'r darlun cyfan, a thynnu'r haenau niferus o wyngalch yn ofalus, datgelwyd y Santes Catherine mewn gwisg o ddiwedd y bedwaredd ganrif ar ddeg. Mae'n sefyll ger olwyn bigog, yn dal cleddyf.
Olwyn arteithio a chleddyf
Yr olwyn bigog wrth ei hochr yn y darlun yw'r offeryn arteithio a ddefnyddiwyd pan dedfrydwyd Catherine i farwolaeth am ei daliadau Cristnogol gan yr Ymerawdwr Rhufeinig Maxentius (306-312). Yn ôl y chwedl, chwalodd yr olwyn pan gyffwrddodd Catherine â hi, felly torrwyd ei phen gan y cleddyf sydd yn ei llaw yn y darlun.
'Olwyn Gatrin'
Yr olwyn arteithio a gysylltir â'r Santes Catherine yw tarddiad yr enw 'Olwyn Gatrin' (Catherine Wheel) am yr olwyn dân gyffredin.
Gellir gweld yr eglwys orffenedig yn Sain Ffagan Amgueddfa Werin Cymru, lle mae'r murluniau wedi'u hatgynhyrchu'n fanwl a chelfydd i edrych fel y byddent wedi gwneud tua 1530. Gan fod y peintiad o'r Santes Catherine yn dyddio o tua 1400, nid oes cynrychioliad ohono yn yr adeilad a ailgodwyd gan y byddai wedi'i orchuddio'n llwyr erbyn 1530.
Mae'r peintiad gwreiddiol o Santes Catherine yn cael ei storio yn yr amgueddfa a gellir ei weld drwy wneud cais ymlaen llaw.