Marwolaeth Tewdrig, 1848-56

Mae’r cerflun hwn yn darlunio marwolaeth Tewdrig Mawr, sant a Brenin Gwent a Morgannwg, a bu farw ar yr union adeg y curwyd y Sacsoniaid ym Merthyr Tewdrig tua 630OC.

Yn wreiddiol, cerflun plastr oedd hwn a ddangoswyd yn Eisteddfod y Fenni ym 1848, lle’r enillodd 70 gini mewn cystadleuaeth am gerflun gan gerflunydd Cymreig i ddarlunio hanes Cymreig-Brydeinig. Dangoswyd ef wedyn yn yr Academi Frenhinol ym 1849. Dangoswyd electroteip efydd ohono gan Elkington, Mason & Co. yn Arddangosfa Fawr 1851.

Gwyddom heddiw am ddau gast, y ddau wedi’u gwneud gan Elkington’s. Mae’r llall i’w weld yn Amgueddfa Brycheiniog. Rhoddwyd hwn, ac arno’r dyddiad 1856, gan grŵp o danysgrifwyr i Morris C. Jones, golygydd y Montgomery Collections, ym 1876. Mae arno blât efydd ac arno’r geiriau:

‘This bronze group represents the death of Tewdric Mawr, King of Gwent and Morganwg 610 AD. Tewdric Mawr, in his old age, was induced to appear in defense of his country against the Saxons whom he thoroughly vanquished near the junction of the Severn and the Wye. The Welsh King, though mortally wounded, urged his brave followers to pursue the fleeing Saxons. In his dying moments he was comforted by his daughter Marchell, mother of Brychan, while an aged Bard proclaimed to him by harp and song, the victory. The group was designed, from suggestions by Lady Llanover, by the late John Evan Thomas F.S.A. and modelled by his brother W. Meredyth Thomas Medal Student RA. Elkington & Co. fect, Liverpool.’

Ganed y cerflunydd, John Evan Thomas, yn Aberhonddu ym 1810. Bu'n astudio o dan Syr Francis Chantrey ac ar y Cyfandir. Lluniodd y cyntaf o lawer o eitemau ar gyfer eglwysi ym 1831, a dechreuodd weithio fel cerflunydd portreadau yn Llundain ym 1834.

Agorodd stiwdio yn 7 Lower Belgrave Place, a byddai’n aml yn arddangos penddelwau a wnâi yno yn yr Academi Frenhinol hyd at 1862. Cadwodd Thomas mewn cysylltiad clos â boneddigion Aberhonddu ac â phrif dirfeddianwyr Cymru a gwnaeth gerfluniau o lawer ohonynt. Felly, ef oedd y cerflunydd Cymreig cyntaf i wneud gyrfa lwyddiannus ac i feithrin enw da iddo’i hun yn bennaf trwy nawdd y Cymry.

Prif weithiau Thomas yw cerflun o Ail Ardalydd Londonderry (Abaty Westminster), cerflun o Ail Ardalydd Bute (a ddangoswyd hefyd yn yr Arddangosfa Fawr, a gastiwyd mewn efydd ym 1853 ac sydd erbyn hyn yng nghanol dinas Caerdydd), Syr Charles Morgan (Casnewydd), cerflun coffa i Ddug Cyntaf Wellington (Aberhonddu), John Henry Vivian (Abertawe) a cherflun o'r Tywysog Cydweddog a godwyd ar Castle Heights, Dinbych-y-pysgod, ym 1865.

Er mai cerflunydd portreadau ydoedd yn bennaf, cyfrannodd gerfluniau yn null y canoloesoedd o Henri de Londres, Archesgob Dulyn, ac o William, Iarll Penfro, yn 1848 at gynllun Pugin ar gyfer Tŷ’r Arglwyddi a oedd yn cael ei ailadeiladu.

Disgrifiodd Benedict Read Marwolaeth Tewdrig fel ‘the only unqualified example of ideal sculpture with history as a subject matter’, ac mae‘n waith o bwys yn hanes celfyddyd canol Oes Fictoria. Mae’n bwysig iawn hefyd yng nghyd-destun adfywiad cenedlaethol y Cymry yn y 1830au a’r 1840au, gan mai hwn yw’r prif ddarn o gelfyddyd i ddeillio o eisteddfodau teirblynyddol y Fenni a gynhaliwyd o dan nawdd Arglwyddes Llanofer. Yn ôl Peter Lord, hon yw’r enghraifft fwyaf nodedig o gelfyddyd academaidd genedlaethol yn hanner cyntaf y bedwaredd ganrif ar bymtheg.

Ymddengys hefyd mai Marwolaeth Tewdrig yw’r gwaith mwyaf a arddangoswyd gan Elkington, Mason & Co. yn Arddangosfa Fawr 1851. Defnyddiodd y cwmni’r broses electroteip yr oeddent newydd ei dyfeisio i'w wneud. Gwnaed y bardd (a seiliwyd ar brint adnabyddus de Loutherbourg a wnaed ym 1784) a’i delyn ar wahân a’u bolltio i’r sylfaen.

Marwolaeth Tewdrig, 1848–56 gan John Evan Thomas (1810–1873) a William Meredyth Thomas (1819–1877).

  • Efydd, uchder 167 cm (65 modfedd), hyd 127 cm (50 modfedd), lled 63 cm (25 modfedd)
  • Llofnodwyd: I EVAN THOMAS Sc and Elkington Mason & Co fect 1856
  • Efydd, castiwyd gan Elkington & Co, Birmingham and Liverpool

sylw (2)

Nid yw sylwadau ar gael ar hyn o bryd. Ymddiheuriadau am yr anghyfleustra.
Marc Haynes Staff Amgueddfa Cymru
1 Mawrth 2021, 11:40

Dear Andrew Jones,

Thank you very much for spotting this error; we have now corrected it.

Best wishes,

Marc
Digital Team

Andrew Jones
1 Mawrth 2021, 02:29
Why have you reversed the picture?