Castell Cydweli
Concwest Cymru
Efallai mai cestyll yw nodweddion amlycaf y goncwest Eingl-Normanaidd yng Nghymru ac mae Castell Cydweli ymhlith y gwychaf ohonynt.
Dechreuwyd codi Castell Cydweli yn fuan wedi i'r Brenin Harri I roi tiroedd Cydweli i'r Esgob Roger o Gaersallog ym 1106. Yn y lle cyntaf, roedd ar ffurf clawdd pridd a phalisâd pren oedd yn cynnwys un neu fwy o byrth. Y tu fewn iddo, safai adeiladau domestig pren ac efallai neuadd a godwyd o gerrig.
Roedd y castell yn un o nifer a godwyd gan y Normaniaid i sefydlu eu rheolaeth dros dywysogaeth y Deheubarth yn ne-orllewin Cymru. Safai mewn man lle gellid rheoli llongau'r glannau yn ogystal ag amddiffyn afon bwysig y Gwendraeth Fach.
Tywysogion Cymru ac arglwyddi Normanaidd
Drwy gydol y ddeuddegfed ganrif roedd Cydweli yn destun ymrafaelion rhwng tywysogion Cymru ac arglwyddi Normanaidd, yn enwedig ym 1136 pan laddwyd y dywysoges Gwenllian mewn brwydr ger y castell.
Mwynhaodd mab Gwenllian, yr Arglwydd Rhys, fwy o lwyddiant yng Nghydweli, gan gipio a dal ei afael ar y castell hyd ei farwolaeth ym 1197 - un o'r ddau gyfnod pan oedd Cydweli yn nwylo'r Cymry. Fodd bynnag, am y rhan fwyaf o'i hanes roedd y castell ym meddiant cadarn yr Eingl-Normaniaid.
Erbyn blynyddoedd cynnar y drydedd ganrif ar ddeg, roedd llenfur cerrig wedi'i godi yn lle'r amddiffynfeydd pren allanol ond gwaith teulu Chaworth, tua diwedd y drydedd ganrif ar ddeg, a drawsffurfiodd y castell, gan roi i'r adeilad bryd a gwedd nid annhebyg i'w ffurf bresennol.
Elwodd Cydweli ar y syniadau diweddaraf am gynllunio cestyll. Mae i'r castell gynllun consentrig, ag un cylch o furiau amddiffynnol o fewn un arall, trefn oedd yn golygu y gellid dal gafael ar y castell hyn yn oed pe bai'r mur allanol yn syrthio. Roedd y mur mewnol yn uwch, hefyd, a ganiatâi i fwa saethwyr ar y muriau allanol a mewnol saethu gyda'i gilydd, gan ychwanegu at eu heffaith.
Owain Glyn Dŵr
Ym 1403 rhoddwyd amddiffynfeydd y castell ar brawf yn ystod gwrthryfel Owain Glyn Dŵr. Cipiwyd tref Cydweli gan yr ymosodwyr a bu farw llawer o bobl, ond ni lwyddwyd i gipio'r castell a fu dan warchae hyd y gaeaf. Fodd bynnag, bu'r ymosodiad yn ergyd farwol i'r hen dref, a sefydlwyd dan gysgod muriau'r castell, ac ym 1444 fe'i disgrifiwyd fel lle diffaith ac anghyfannedd. Yn ei lle, codwyd tref newydd yr ochr draw i'r afon.
Yn ystod y canrifoedd dilynol, dirywio hefyd a wnaeth y castell a fu gynt yn ffyniannus ac erbyn 1609 roedd yr adeilad, yn ôl un disgrifiad, yn 'greately decayed and rynated'.
Ers y ddeunawfed ganrif mae Cydweli wedi bod yn atyniad poblogaidd i ymwelwyr, yn gyntaf fel adfail pictiwrésg ac yna, diolch i waith Cadw, fel adeilad pwysig sy'n dwyn i gof hanes Cymru, hanes a fu'n gythryblus yn fynych.
Darllen Cefndir
Kidwelly Castle gan J. R. Kenyon. Cyhoeddwyd gan Cadw (2002).
sylw - (1)