Palas ym Mrycheiniog
Mae cloddiadau ar safle ynys artiffisial neu grannog yn Llyn Syfaddan, ger Aberhonddu, wedi cynnig cip unigryw ar lys brenhinol Cymreig.
Datgelodd cloddiadau rhwng 1989 a 1993, gan dîm o Amgueddfa Cymru a Phrifysgol Caerdydd, fod y crannog, yr unig un y gwyddys amdano yng Nghymru, yn safle brenhinol rheolwr teyrnas fewndirol Brycheiniog.
Roedd teyrnas gynnar, fach Brycheiniog (Brecheiniauc) yn cyfateb yn fras i sir hanesyddol Brycheiniog yn ne Cymru. Mae enw'r diriogaeth yn dwyn i gof Brychan, sylfaenydd y llinach frenhinol, yn ôl y chwedl.
Cafodd y crannog ei adeiladu'n ofalus o brysgwydd a meini tywodfaen, a atgyfnerthwyd ac a amgylchynwyd gan sawl rhes o balisadau a wnaed o ystyllod derw. Mae'r coed mewn cyflwr da ac mae dyddiadau cylch-coeden yn profi eu bod wedi cael eu torri rhwng OC889 a 893. Mae'n debyg fod y safle'n ymgorffori technegau adeiladu Gwyddelig ac mae'n bosibl y cafodd ei godi gyda chymorth crefftwyr o Iwerddon.
Mewn testunau achyddol diweddarach, hawliai brenhinoedd Brycheiniog eu bod yn hanu o frenhinlin a oedd yn rhannol Wyddelig, a drwy ddefnyddio'r fath ddulliau adeiladu anarferol a thrawiadol mae'n bosibl y cryfhawyd eu statws gwleidyddol ac atgyfnerthu eu honiad eu bod o dras Wyddelig.
Fel safle brenhinol, roedd crannog Llyn Syfaddan yn ganolfan weinyddol a lletygarwch, lle y byddai'r rheolwr wedi derbyn trethi ac ymbleseru mewn hela a physgota. Mae ansawdd da iawn y gwrthrychau y cafwyd hyd iddynt yn dynodi statws aristocrataidd y trigolion.
Yn ôl Cronicl yr Eingl-Seisnig, anfonodd Æthelflaed, 'Boneddiges y Mersiaid', fyddin i Gymru yn y flwyddyn OC916, dridiau wedi llofruddiaeth Abad Ecgberht a'i gymdeithion. Dinistriodd y fyddin Brecenanmere (yr enw Sacsonaidd ar Lyn Syfaddan) a chipio 'gwraig y brenin a thair ar ddeg ar hugain o bobl eraill'. Yn ôl pob tebyg, mae'r cofnod sy'n crybwyll y mere (llyn) yn cyfeirio at yr ymosodiad ar y crannog, ac at gipio gwraig y brenin Eliseg ap Tewdwr. Mae'n bosibl fod haenlin ruddedig a gofnodwyd yn ystod y cloddiadau yn cynrychioli'r digwyddiad hwn.
Capsiwl amser prin iawn o fywyd ar safle brenhinol ar ddiwedd y nawfed ganrif ac yn gynnar yn y ddegfed ganrif yw'r safle hwn, ac mae'r arteffactau, sy'n cynnwys gweolyn brodiog a rhannau o gysegrfa symudol, yn cadarnhau ei statws arbennig.
Llinell Amser
- 880au: Eliseg ap Tewdwr, rheolwr Brycheiniog, dan orfod gweithrediadau ymosodol Gwynedd, yn ceisio tra-arglwyddiaethu ar Alffred.
- 889-93: Crannog Llyn Syfaddan yn cael ei godi gan reolwr Brycheiniog.
- 894: Y Llychlynwyr yn anrheithio Brycheiniog.
- 916: Brecenanmere (crannog Llyn Syfaddan, yn ôl pob tebyg) yn cael ei ddinistrio gan fyddin Mersiaidd (Sacsonaidd).
Darllen Cefndir
'On a crannoge, or stockaded island, in Llangorse Lake, near Brecon' gan E. N. Dumbleton. Yn Archaeologia Cambrensis, 4edd gyfres, cyf. 1, tt2-98 (1870).
'The early medieval crannog at Llanorgse, Powys: an interim statement on the 1989-1993 seasons'. Yn The International Journal of Nautical Archaeology, cyf. 23, tt189-205 (1994).
sylw - (2)
Dear David Morgan,
Thank you very much for your enquiry. Our Senior Curator of Archaeology has contacted you to inform you that the full excavation report is due for publication in October 2019.
Best wishes,
Marc
Digital Team
With thanks,
David Morgan