Ymrysonfa'r Gladiatoriaid - Darganfyddiadau yn Amffitheatr Rhufeinig Caerllion
Wrth ymyl y gaer Rhufeinig yn Nghaerllion, ger Casnewydd, mae olion amffitheatr hirgrwn sydd wedi ei gadw'n dda. Ei enw mewn chwedloniaeth leol yw Bord Gron y Brenin Arthur. Cloddiwyd yn amffitheatr gan Dr Mortimer Wheeler, Ceidwad Archaeoleg wedyn Cyfarwyddwr yr Amgueddfa Genedlaethol, yn y 1920au. Mae ailgreadau Wheeler am olwg tebygol yr amffitheatr wedi cael eu diystyrru ers hynny am fod darganfyddiadau diweddarach wedi gwneud i bobl feddwl eto am adeiladwaith y safle gwreiddiol.
Sicrhau cyllid ar gyfer y gwaith cloddio
Dechreuodd Wheeler ei raglen helaeth o waith cloddio yng Nghaerllion trwy fanteisio ar y cysylltiadau â'r Brenin Arthur yn y wasg er mwyn denu nawdd. Cytunodd y Daily Mail i dalu £1,000 am hawliau unigryw ac adroddiadau dyddiol ar ddadorchuddio Brod Gron y Brenin Arthur. Yn y pen-draw, treblodd y papur newydd ei gynnig gwreiddiol a chyflwynodd yr olion a gloddiwyd i'r Swyddfa Gwaith (rhagflaenydd Cadw: Henebion Cymru) fel heneb cenedlaethol.
Cynllunio a chloddio
Ym 1926, derbyniodd Wheeler swydd fel Ceidwad Amgueddfa Llundain. Roedd hyn yn golygu nad oedd modd iddo barhau i chwarae rhan uniongyrchol yn y gwaith cloddio, ond roedd nawdd y Daily Mail yn golygu brys a gorfodaeth, felly cymrodd ei wraig, Tessa, yr awenau. Bob nos, roedd angen anfon stori oedd yn haeddu sylw am ddarganfyddiadau'r diwrnod at y Daily Mail, gyda phenawdau cyffrous fel 'Where Gladiators Fought'.
Strwythur o bridd a gwaith maen
Ar ôl cwblhau'r gwaith cloddio ac archwilio 30,000 tunnell o bridd a'i symud o'r safle, daeth y cloddwyr i'r casgliad bod yr amffitheatr wedi cael ei adeiladu tua OC 80, sawl blwyddyn ar ôl sefydlu'r brif gaer yng Nghaerllion. Yn yr adroddiad ar y canfyddiadau a gyhoeddwyd ym 1928, ailadeiladwyd yr amffitheatr fel strwythur o bridd a gwaith maen gydag awditoriwm a gynhaliwyd gan waliau mewnol ac allanol o waith maen, â bwtresi i'w hategu. Yn ôl y cyfrifiadau a wnaed, byddai'n rhaid i wal wreiddiol yr arena godi i uchder o bedwar metr a rhaid i'r wal allanol fod tua deg metr o uchder. Mae hi bron yn sicr mai seddi pren oedd yna, am na ffeindiwyd unrhyw dystiolaeth o seddi cerrig.
Ym 1939, dangosodd J. A. Wright, peintiwr ailgreadau archaeolegol adnabyddus, yr amffitheatr o waith maen i'w uchder llawn.
Theori newydd
Ym 1962, cloddiodd George Boon (a fu'n Geidwad Adran Archaeoleg yr Amgueddfa'n ddiweddarach) ffos fach yng nghlawdd yr amffitheatr, gan beri i bobl feddwl o'r newydd am y ffordd y cafodd y strwythur mawr ei adeiladu.
Datguddiwyd strwythur gwreiddiol y clawdd yn agos iawn at wyneb y tir, felly mae'n rhaid nad oedd y cloddiau rhyw lawer yn uwch na heddiw. Roedd pyllau metr sgwâr a metr o ddyfnder wedi eu torri yn wyneb y cloddiau. Daeth Boon i'r casgliad taw estyll mawr oedd wedi bod yn y pyllau hyn, gan greu stand mawr agored o bren. Ers y darganfyddiad, mae'r ailgreadau o'r amffitheatr wedi cael eu hail-wneud gan ddangos rhan isaf o waith maen a strwythur uwch o bren.
Gwelir amffitheatr o adeiladwaith tebyg ar Golofn Trajan yn Dobreta, canolfan y Rhufeiniaid wrth y bont dros afon Donwy yn Romania.
Amcangyfrifwyd bod rhyw 6,000 o seddi yn y grandstand pren yng Nghaerllion, sef digon o le i'r lleng gyfan fwy neu lai. Er bod y digwyddiadau yn yr amffitheatr dipyn yn llai gwaedlyd heddiw, mae'r ailgreadau dramatig a'r digwyddiadau cyson yn dal i ddenu cynulleidfaoedd mawr heddiw.