Paentio Meistres - dwy agwedd holloll wahanol
Mae agwedd artistiaid tuag at gariad a godineb wedi amrywio'n fawr mewn gwahanol gyfnodau. Yma gwelwn ddwy ymdriniaeth tra gwahanol o "Fair Rosamund", meistres Harri II, gan Dante Gabriel Rossetti (1861) a John William Waterhouse (1916).
Y Chwedl
Roedd y Brenin Harri II (1154-1189) yn briod ag Elinor o Acwitania. Roedd ganddo hefyd feistres o'r enw Rosamund. Yn ôl y chwedl, adeiladodd Henry balas ar gyfer Rosamund nad oedd modd ei gyrraedd ond trwy ddrysfa. Defnyddiai gordyn coch i ffeindio'i ffordd drwy'r ddrysfa ac i roi gwybod i Rosamund ei fod wedi cyrraedd. Fe ddaeth Elinor o hyd i'r ddrysfa, a dilynodd y cordyn i ganfod meistres ei gŵr, a'i llofruddio. Cynigiodd iddi'r dewis o yfed gwenwyn neu gael ei thrywanu.
Mewn gwirionedd, ni lofruddiwyd Rosamund gan Elinor; aeth i fyw mewn lleiandy, ble y bu farw ym 1176. Roedd gan Elinor alibi gwych ar gyfer amser marwolaeth Rosamund - roedd hi yn y carchar am deyrnfradwriaeth. Fe'i carcharwyd gan Harri am gefnogi eu meibion mewn gwrthryfel yn ei erbyn, fel y gwelir yn y ffilm The Lion in Winter.
Dante Gabriel Rossetti
Yn fersiwn Rossetti dim ond Rosamund a gynrychiolir, a'r unig gyfeiriad at y stori yw'r cordyn coch. Addurnir y balwstrad y mae Rosamund yn pwyso arno gyda chalonnau â choronau ar eu pen, sy'n cyfeirio at ei safle fel meistres y brenin. Cyfeiria'r rhosyn yn ei gwallt at ei henw. Y model ar gyfer y gwaith oedd Fanny Cronforth, putain a gyfarfu â Rossetti ym 1858, ac a ddaeth yn feistres iddo. Mae Rossetti yn darlunio Rosamund yn segur; does ganddi ddim pwrpas heblaw disgwyl dyfodiad ei chariad. Mae ei gwisg yn anymarferol ac yn dangos popeth wrth iddi lithro oddi ar ei hysgwyddau. Mae'n gwisgo gemwaith dirywiedig ac mae ei hwyneb yn wridog a'i gwallt yn rhydd. Yma, gwelwn y cysyniad ystrydebol Fictoraidd o'r feistres fel menyw anghynhyrchiol, rywiol.
John William Waterhouse
Yn ei waith, a baentiwyd 50 mlynedd yn ddiweddarach, mae Waterhouse yn cyflwyno darlun o Rosamund sydd i'r gwrthwyneb bron. Yn y darlun hwn gwelwn Rosamund wedi'i gorchuddio'n llwyr ac yn penlinio, ei dwylo ynghyd fel petasai'n gweddïo, ei gwaith tapestri wedi'i anghofio am ennyd wrth iddi syllu allan drwy'r ffenestr yn disgwyl ei chariad. Ymdeimlad o gariad sanctaidd rhwng gŵr a gwraig sydd yn y gwaith, yn hytrach na godineb. Darluniodd Waterhouse Rosamund yn gwisgo coron, fel arwydd efallai nad serch y Brenin tuag at Rosamund yw'r prif fygythiad i Elinor, ond y ffaith ei bod yn frenhines gystadleuol. Os edrychwn y tu hwnt i Rosamund gwelwn Elinor, y wraig sydd wedi cael cam, yn agor y llenni, ar fin myned i'r ystafell i'w llofruddio. Roedd darlunio digwyddiad yn arwain yn raddol at uchafbwynt — cyfarfod angheuol fel arfer — yn gyffredin mewn celfyddyd Fictoraidd. Yma, mae Waterhouse yn creu'r olygfa, ond mae'n gadael i'r gynulleidfa ddychmygu'r canlyniadau.
Mae ymdriniaeth dosturiol Waterhouse o Rosamund yn esiampl o'r modd y dehonglwyd godineb canoloesol ar adegau fel cariad rhwystredig, er enghraifft yn storïau Gwenhwyfar a Lawnslot neu Trystan ac Esyllt. Cynghreiriau gwleidyddol yn hytrach nag uniadau'n deillio o gariad oedd priodasau canoloesol, felly, pan fyddai cariad yn digwydd, roedd yn ennyn cydymdeimlad. Serch hynny, nid dyna oedd barn y gymdeithas Fictoraidd, na'r llywodraeth. Diswyddwyd y gwleidydd Gwyddelig Charles Parnell fel arweinydd Plaid Seneddol Iwerddon ym 1890 pan ddaeth i'r amlwg ei fod wedi cynnal carwriaeth â menyw briod.